Dŵr Cymru'n canmol dull gweithredu arloesol Cyngor Gorllewin Sir Gaer a Dinas Caer wrth adfywio’r ddinas


12 Ebrill 2022

Mae Dŵr Cymru, yr unig gwmni dŵr nid-er-elw yng Nghymru a Lloegr, wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Gorllewin Sir Gaer a Dinas Caer (CWAC) ar system draenio dŵr wyneb flaengar newydd i gynorthwyo adfywiad yr ardal ac er mwyn sicrhau bod y system ddraenio'n fwy gwydn i ymdopi ag effeithiau'r newid yn yr hinsawdd.

Mae'r Cyngor wedi bod yn ailddatblygu rhan helaeth o ddinas Caer - yn rhan o'i Gynllun Un Ddinas - ac mae tîm Gwasanaethau Datblygu Dŵr Cymru, sy'n rheoli'r ddarpariaeth o ran gwasanaethau dŵr a draenio ar gyfer pob datblygiad newydd, wedi bod yn cydweithio'n agos â'r Cyngor i ddod o hyd i ffyrdd o wella'r dulliau o reoli dŵr wyneb yn yr ardal, a hynny wrth gyfoethogi'r deilliannau amgylcheddol hefyd. Y Cynllun Un Ddinas £777m yw strategaeth 15 mlynedd CWAC i sicrhau adfywiad economaidd Caer at y dyfodol.

Yn hanesyddol, mae dŵr ffo oddi ar doeau ac adeiladau ac arwynebau anhydraidd fel priffyrdd yng nghanol dinas Caer wedi draenio i system garthffosiaeth Dŵr Cymru. Mae’r dŵr wyneb a'r dŵr budr wedi bod yn cyfuno yn y carthffosydd cyn cael ei gludo ar hyd y pibellau i'r Gweithfeydd Trin Dŵr Gwastraff. O ganlyniad i'r trefniant hanesyddol yma, mae Dŵr Cymru'n gorfod trin y dŵr glaw yn ei Weithfeydd Trin Dŵr Gwastraff yn ddiangen, ac ar adegau mae hynny'n gallu golygu bod y dŵr glaw yn defnyddio holl gapasiti'r system, sy'n golygu nad oes digon o le ar gael i ddarparu ar gyfer datblygiadau ac adfywiad newydd.

Mae'r ailddatblygiad sylweddol yma yng Nghaer wedi creu cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i adfer capasiti cyfredol y garthffos trwy gadw'r dŵr wyneb allan. Roedd Dŵr Cymru a CWAC yn awyddus i ddod o hyd i ateb a fyddai'n cynnal yr amcanion ailddatblygu ac yn gwella'r amgylchedd lleol, a hynny wrth wella gwytnwch y system ddraenio er budd y gymuned gyfredol. Gan weithio gyda Dŵr Cymru, penderfynodd y Cyngor wneud pethau ychydig bach yn wahanol, a chrëwyd draen dŵr wyneb newydd 1km o hyd trwy ganol y ddinas.

Mae'r draen newydd yn gallu ymdopi ag 1 dunnell o ddŵr yr eiliad, a bydd yn gwasanaethu ardal o tua 50,000m2 – maint tua 9 o gaeau pêl-droed! Mae Dŵr Cymru wedi bod yn gweithio gyda'r Cyngor yn ystod y gwaith adeiladu, a nawr bod y draen wedi cael ei gwblhau, bydd Dŵr Cymru'n cymryd perchnogaeth a chyfrifoldeb dros reoli'r draen o haf 2022 ymlaen.

Mae'r draen dŵr wyneb newydd yn mynd â'r holl ddŵr glaw nôl allan i Afon Dyfrdwy, gan helpu i:

  • Gynyddu capasiti'r garthffos gyfredol er mwyn hwyluso datblygiadau yn yr ardal yn y dyfodol
  • Lleihau faint o ddŵr sy'n mynd i'n Gweithfeydd Trin Dŵr Gwastraff, gan leihau faint o ynni a charbon sy'n cael eu defnyddio yn sgil hynny
  • Diogelu'r amgylchedd lleol ac ansawdd dŵr yn yr afon, a chyfoethogi gwytnwch yr ardal rhag y newid yn yr hinsawdd

Cadw dŵr glaw allan o'r rhwydwaith garthffosiaeth yw un o amcanion strategol Dŵr Cymru. Trwy ei brosiectau GlawLif mae'n defnyddio atebion fel pantiau ac atebion draenio cynaliadwy eraill i reoli faint o ddŵr wyneb sy'n llifo i'w garthfosydd, sydd yn ei dro'n lleihau'r perygl o lifogydd ac yn fuddiol i'r amgylchedd lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Beacham, yr Aelod o’r Cabinet ar faterion Twf Cynhwysol, yr Economi ac Adfywiad:  "Hoffwn ddiolch i bawb yng Nghaer am eu hamynedd a’u cydweithrediad yn ystod y gwaith yma; rwy’n cydnabod bod y gwaith wedi achosi rhwystredigaeth ar adegau, ond yn gobeithio bod trigolion wedi dod i ddeall manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol sylweddol adeiladu’r draen newydd, sef y prosiect seilwaith mwyaf yn ein dinas ers dros hanner canrif.

"Mae cwblhau’r draen newydd wedi bod yn dasg a hanner sydd wedi gofyn am arbenigedd nifer fawr o gontractwyr yn gweithio mewn partneriaeth i’n cynorthwyo ni. Hoffem ddiolch iddyn nhw i gyd am eu gwaith caled a’u hymrwymiad i’r prosiect cymhleth yma."

Dywedodd Ian Wyatt, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cwsmeriaid Busnes Dŵr Cymru: "Rydyn ni wrth ein bodd bod dull gweithredu arloesol CWAC wrth reoli dŵr wyneb yn ardal yr ailddatblygiad newydd wedi cael ei gwblhau. Mae'r newid yn yr hinsawdd yn sialens aruthrol i ni i gyd, a dim ond trwy wneud pethau'n wahanol a gweithio ar y cyd y gallwn addasu'n effeithiol. Bydd y buddsoddiad yma'n fuddiol i'r gymuned leol a'r amgylchedd am flynyddoedd mawr i ddod, ac mae'n cynnig y fantais ychwanegol o gynyddu capasiti'r carthffosydd cyfredol, gan gynorthwyo datblygiad Caer at y dyfodol. O ran rheoli dŵr wyneb, mae ein tîm gwasanaethau datblygu'n agored i weithio gyda rhanddeiliaid a chwsmeriaid datblygu ar ddulliau newydd o weithio bob tro."