Dŵr Cymru’n cau’r llen ar flwyddyn academaidd lwyddiannus o gynorthwyo ysgolion


22 Gorffennaf 2022

Mae Dŵr Cymru wedi darparu cynnwys ar sail y cwricwlwm ar gyfer dros 50,000 o ddysgwyr dros y 12 mis diwethaf, gan gynorthwyo bron i 300 o ysgolion.

Trwy gymysgedd o ymweliadau ag ysgolion, ymweliadau â’r canolfannau addysg a sesiynau rhithiol, mae Tîm Addysg Dŵr Cymru wedi cyrraedd 50,000 o ddysgwyr yn ystod y flwyddyn academaidd hon. Mae’r cwmni, sydd wedi ymrwymo i addysgu, hysbysu ac ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol am bwysigrwydd dŵr, wedi cyflawni dros 300 o ymweliadau trwy ei ddull o weithredu sy’n unigryw yn y diwydiant sy’n seiliedig ar secondio athrawon yn flynyddol i ddarparu ei raglen addysg.

Mae’r adborth gan ysgolion wedi bod yn gadarnhaol, gyda’r athrawon yn croesawu’r cymorth a gafwyd i ehangu profiadau, gwybodaeth a sgiliau’r disgyblion. Mae’r sesiynau oll yn gysylltiedig â’r pedwar pwrpas sy’n ategu Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru. Fe’u darperir yn rhad ac am ddim, sy’n gwneud yr arlwy’n fwy gwerthfawr byth ac yn ddewis poblogaidd i athrawon.

Mae’r cymorth wedi darparu dros 500 awr o amser dysgu uniongyrchol i gyd, sydd wedi cael ei ategu gan amrywiaeth o gynnwys sydd ar gael ar lein. Gosodir y sesiynau mewn cyd-destun bywyd go iawn ac maent yn llawn gweithgareddau ymarferol a rhyngweithiol – gan gynnig ffordd ddifyr i’r disgyblion ddysgu am y cylchred dŵr, y gwaith, egni a chariad sy’n mynd i’r broses o gael dŵr i’w tapiau, ffyrdd o arbed dŵr, a phwysigrwydd rheol y 3P, sef - ‘dim ond pi-pi, pw a phapur ddylai fynd i’r tŷ bach’.

Mae gan Ddŵr Cymru enw da hirsefydlog am ddarparu darpariaeth addysg o safon uchel, ac mae’r cwmni nid-er-elw wedi gweithio gyda dros 600,000 o ddisgyblion yn ystod oes ei strategaeth addysg. Eleni, mae’r cwmni wedi nodi carreg filltir bwysig gan ddathlu 25 mlynedd ers agor ei Ganolfan Addysg yng Nghilfynydd, sydd wedi croesawu dros 250,000 o ddisgyblion yn ystod ei oes.

Dywedodd Claire Roberts, Pennaeth Cysylltiadau â’r Gymuned:

"Mae hi’n wych gweld bod nifer y disgyblion sydd wedi cymryd rhan yn ein rhaglen addysg wedi parhau i dyfu, a hynny er gwaetha’r sialensiau a gyflwynwyd yn wreiddiol gan Covid. Mae ymateb ysgolion a disgyblion i’n hymweliadau wedi bod yn bositif dros ben. Fel cwmni, mae cyfrifoldeb arnom ni i gynorthwyo ysgolion i ddarparu addysg, ac edrychwn ymlaen at gael gweithio gyda’r ysgolion eto yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf."

Wrth drafod eu hymweliad, dywedodd Ysgol Creunant:

"Roedd yr holl ddisgyblion wedi'u hymrymo ac yn gyffrous am y dasg ymarferol. Roedd cynnwys y gweithdai hefyd yn berffaith ac yn berthnasol i'n thema. Adnoddau gwych - digon i'r holl blant. Roedd ansawdd yr addysgu yn arbennig ac wedi'i gyflwyno ar y lefel cywir i'r oedran."

Bydd y tîm yn parhau i weithio gydag ysgolion dros y flwyddyn academaidd nesaf wrth iddynt anelu at gyrraedd dros 70,000 o ddisgyblion.