Mae Dŵr Cymru’n cynghori busnesau i amddiffyn eu safleoedd rhag pibellau sy’n rhewi neu’n byrstio
13 Rhagfyr 2022
Mae disgwyl i’r tymheredd ddisgyn yn is na’r rhewbwynt yr wythnos hon, ac mae Dŵr Cymru’n annog cwsmeriaid i weithredu nawr a pharatoi eu safleoedd am y gaeaf, er mwyn amddiffyn rhag pibellau sy’n rhewi ac yn byrstio.
Mewn tywydd oer iawn, gall y dŵr yn eich pibellau a’ch tapiau rewi. Mae’r dŵr yn ehangu wrth rewi, ac mae’n gallu cracio’r pibellau metel cryfaf hyd yn oed. Mae’n bosibl na fydd cwsmeriaid yn sylwi bod yna broblem nes bod y bibell sydd wedi cracio’n dadmer a’r dŵr yn dechrau gollwng ohoni.
Mae busnesau fel unedau diwydiannol, parciau carafanau, ysgolion, canolfannau cymuned a mannau addoli mewn mwy o berygl fyth o bibellau’n byrstio yn y gaeaf. Mae gan adeiladau fel hyn bibellau a thapiau yn yr awyr agored yn aml iawn, ac maen nhw’n aml yn wag am ddyddiau, sy’n golygu na fydd neb yn sylwi bod pibell wedi byrstio y tu fewn neu’r tu allan i’r adeilad gan achosi llifogydd neu golli llawer iawn o ddŵr.
Gyda chostau byw’n cynyddu eleni, mae’n bosibl y bydd llawer o fusnesau’n defnyddio’u systemau gwres yn llai, a allai gynyddu’r risg o bibellau’n rhewi. Mae Dŵr Cymru’n dangos i gwsmeriaid sut i amddiffyn pibellau mewn mannau oer trwy eu lapio â deunydd inswleiddio neu becyn lagio.
Mae gan Ddŵr Cymru gynghorion a fideos defnyddiol ar lein am sut y gall cwsmeriaid eu hamddiffyn eu hunain rhag y risg o bibellau’n rhewi neu’n byrstio. Am fanylion ewch i business.dwrcymru.com/ParatowchAmYGaeaf
Dywedodd Julian Prosser, Swyddog Ynni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen: "Doedd pibell ar un o’n safleoedd ddim wedi ei lagio’n llwyr dros fisoedd y gaeaf. Pan darodd y tywydd oer, craciodd y bibell, ac achosodd hynny fyrst ar y bibell ddŵr. Roedd hynny’n golygu y bu angen i ni fynd allan i’r safle dros wyliau’r Nadolig, neilltuo’r cyflenwad, trwsio’r bibell a thalu’r gost o drwsio’r bibell ar ben bil dŵr uwch nag arfer. Doedd hi ddim yn anrheg Nadolig da iawn!"
Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gweithredol Dŵr Cymru, Kit Wilson, "Y prif broblemau y gwelaf i mewn tywydd oer iawn yw bod pibellau y tu allan yn rhewi neu’n byrstio. Mae hynny’n achosi trafferthion sylweddol gyda chyflenwadau dŵr busnesau. Mae hi’n hanfodol ar yr adeg hon o’r flwyddyn, ac yn arbennig nawr am ein bod ni’n disgwyl i’r tymheredd ddisgyn yn is na’r rhewbwynt, bod pobl yn amddiffyn eu hadeiladau, safleoedd a swyddfeydd, ac yn paratoi rhag ofn bod argyfwng. Gall cwsmeriaid inswleiddio pibellau yn yr awyr agored, clirio’u gwteri, ystyried draenio pibellau yn yr awyr agored, sicrhau eu bod nhw’n gwybod ymhle mae eu stop tap a chadw manylion plymwr wrth law rhag ofn bod argyfwng."