Mae Dŵr Cymru, yr unig gwmni cyfleustodau nid-er-elw yng Nghymru a Lloegr, wedi cyhoeddi, fel rhan o'i ganlyniadau blynyddol ar gyfer 2021-22, ei fod yn buddsoddi £12 miliwn eleni i gefnogi ei gwsmeriaid mwyaf agored i niwed yn ystod yr argyfwng 'costau byw' presennol.
Mae'r cwmni, sydd â mwy na 1.3 miliwn o gwsmeriaid aelwydydd yn y rhan fwyaf o Gymru a rhannau o Loegr, yn darparu £55 miliwn dros y bum mlynedd hyd at 2025 i roi cymorth ariannol i'w gwsmeriaid. Mae 127,000 o gwsmeriaid Dŵr Cymru bellach yn elwa oherwydd biliau gostyngedig drwy dariffau cymdeithasol - nifer fwy, fel cyfran o faint y cwmni, nag unrhyw gwmni dŵr arall yng Nghymru a Lloegr. Mae'r cwmni'n clustnodi dros £12 miliwn yn 2022/23 i gefnogi ei gwsmeriaid agored i niwed sydd mewn trafferthion gyda'u biliau dŵr ac mae wedi cadarnhau ei fod eisiau cefnogi 50,000 yn rhagor o aelwydydd incwm isel.
Mae Dŵr Cymru yn gweithio gyda dros 300 o sefydliadau lleol (gan gynnwys Cyngor ar Bopeth, cynllun NYTH Llywodraeth Cymru i gefnogi gwelliannau effeithlonrwydd ynni, y Ganolfan Byd Gwaith, cymdeithasau tai a banciau bwyd) i helpu i nodi a chefnogi cwsmeriaid a allai fod yn gymwys i gael bil gostyngedig. Mae hefyd yn annog cwsmeriaid a allai fod yn wynebu anawsterau i gysylltu â'r cwmni cyn gynted â phosibl i drafod yr amrywiaeth o opsiynau sydd ar gael gan gynnwys cynlluniau talu hyblyg.
Gall y cwmni ddarparu cymorth tymor byr drwy gynlluniau taliadau is neu wyliau talu, yn ogystal â chynghori cwsmeriaid ar sut i leihau eu taliadau yn y tymor hwy drwy ddewis gosod mesurydd dŵr am ddim a rhoi arweiniad ar sut i ddefnyddio dŵr yn effeithlon a all helpu i leihau faint o ddŵr a ddefnyddir.
Mae’r cymorth hwn yn cael ei dargedu at yr aelwydydd hynny sy'n wynebu anawsterau wrth dalu eu biliau dŵr a model nid-er-elw'r cwmni sy’n galluogi hyn.
Mae canlyniadau diweddaraf Dŵr Cymru yn dangos ei fod wedi parhau i fuddsoddi bron i £1 miliwn y dydd yn ei wasanaethau dŵr a dŵr gwastraff dros y 12 mis diwethaf. Cynyddodd costau gweithredu £14 miliwn y llynedd oherwydd prisiau ynni cynyddol a'r angen am fesurau ychwanegol i gynnal gwasanaethau dŵr a dŵr gwastraff hanfodol yn ystod rhybudd tywydd poeth oren cyntaf erioed yr haf diwethaf a'r lefelau uchaf erioed o ymwelwyr â rhannau o Gymru.
Mae pwyslais y cwmni ar sicrhau gwerth am arian i'w gwsmeriaid hefyd wedi gwella effeithlonrwydd. Mae hyn wedi arwain at arbedion cost o £16 miliwn yn 2021-22 ac roedd y mentrau effeithlonrwydd yn cynnwys defnyddio gwelliannau digidol, awtomeiddio a phrosesau. Mae ffyrdd arloesol o weithio wedi’u hymwreiddio hefyd ers covid-19 wrth i ni ddefnyddio technoleg ar-lein i leihau ein hôl troed lleoliad a'r gwariant cysylltiedig.
Dywedodd Cadeirydd Glas Cymru, Alastair Lyons: "Mae ein canlyniadau diweddaraf yn dangos ein bod wedi cyflawni perfformiad cryf er gwaethaf yr heriau gweithredol a chost parhaus a grëwyd gan Covid-19 a phatrymau tywydd dramatig – sy'n ein hatgoffa eto o'r brys i fynd i'r afael â newid hinsawdd.
"Fel cwmni, rydym ni bob amser yn cynllunio ar gyfer y tymor hir ond mae hefyd yn bwysig ein bod yn ymateb i ddigwyddiadau wrth iddyn nhw ddatblygu yn y tymor byr. Mae ein strwythur corfforaethol unigryw heb gyfranddalwyr yn caniatáu i ni ganolbwyntio'n gyfan gwbl ar ein cwsmeriaid a'u hanghenion: o ystyried yr hinsawdd economaidd ar hyn o bryd, mae'n hanfodol ein bod yn darparu cymorth wedi'i dargedu i helpu'r rhai mwyaf anghenus."
Dywedodd Prif Weithredwr Dŵr Cymru, Peter Perry: "Fel cwmni a berchnogir ar ran ei gwsmeriaid, rydym ni’n falch bod gennym rai o'r lefelau uchaf o ymddiriedaeth cwsmeriaid yn y sector.
"Gwyddom fod yn rhaid ennill yr ymddiriedaeth hon drwy barhau i wneud y peth iawn: dyma pam yr ydym wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi ein cwsmeriaid a'u cymunedau, yn enwedig yn ystod y cyfnod anodd hwn wrth i aelwydydd ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd. Drwy ddarparu dros £12 miliwn ar gyfer ein cynllun tariffau cymdeithasol eleni yn unig, gallwn gefnogi aelwydydd incwm isel sy'n ei chael yn anodd talu eu biliau. Dylai unrhyw un sy'n pryderu am sut y gallan nhw dalu eu biliau dŵr gysylltu â ni cyn gynted ag y gallan nhw i drafod pa gymorth a allai fod ar gael iddynt."