Datgelu cynlluniau ar gyfer gwaith trin dŵr o'r radd flaenaf ym Merthyr Tudful
25 Chwefror 2022
Mae Dŵr Cymru, yr unig gwmni cyfleustodau dielw yng Nghymru a Lloegr, wedi datgelu cynigion ar gyfer gwaith trin dŵr newydd o'r radd flaenaf a fydd yn sicrhau bod cwsmeriaid yn y dref a'r cyffiniau yn parhau i dderbyn cyflenwad dŵr o'r radd flaenaf am ddegawdau i ddod.
Daw'r cynlluniau yn dilyn adolygiad gan y cwmni i'r systemau dŵr yfed yn ardal Bannau Brycheiniog a ganfu fod tri gwaith trin dŵr, Pontsticill, Cantref a Llwyn-on, yn heneiddio ac yn agosáu at ddiwedd eu hoes weithredol. Gan fod hyn yn gwneud y gwaith yn fwy heriol a chostus i'w weithredu, mae angen ateb fel bod cyflenwadau dŵr i gwsmeriaid yn cael eu diogelu ar gyfer y dyfodol. Mae'r cwmni wedi ystyried sawl opsiwn yn ofalus ar gyfer disodli'r tri gwaith a chanfod mai'r ateb gorau yw adeiladu un gwaith newydd yn eu lle.
Yn ogystal â darparu prosesau trin dŵr newydd a gwell i barhau i ddarparu cyflenwad o'r radd flaenaf, bydd cyfleuster newydd hefyd yn darparu capasiti storio dŵr ychwanegol i sicrhau cyflenwad dibynadwy a all ddarparu ar gyfer twf yn y boblogaeth ac i wrthsefyll effeithiau newid yn yr hinsawdd.
Mae'r cwmni wedi ystyried yn ofalus nifer o safleoedd yn yr ardal ar gyfer y gwaith newydd ac wedi asesu pob safle gan ddefnyddio meini prawf penodol. Roedd hyn yn cynnwys agosrwydd at y cronfeydd dŵr presennol ym Mannau Brycheiniog ynghyd ag agosrwydd at y rhwydwaith dŵr yfed presennol. Ar ôl adolygu nifer o safleoedd yn ofalus, mae'r safle a ffefrir ar dir ychydig i'r gogledd o Ffordd Blaenau'r Cymoedd yr A465, ym Merthyr Tudful.
Mae Dŵr Cymru yn cynnal Asesiad Cynhwysfawr o'r Effaith Amgylcheddol i ddeall effeithiau posibl ar gymunedau lleol a'r amgylchedd sy'n deillio o'r cynigion, i nodi ffyrdd o osgoi neu leihau'r rhain. Mae canfyddiadau cynnar eisoes wedi mireinio'r cynigion, ond mae arolygon amgylcheddol pellach yn cael eu cynnal i ddeall y cyd-destun amgylcheddol yn well. Mae ymddangosiad allanol yr adeiladau a'r adeileddau yn cael eu hystyried yn ofalus hefyd er mwyn helpu i leihau'r effaith weledol ac ar y dirwedd.
Dywedodd Ian Christie, Rheolwr Gyfarwyddwr Dŵr, Cynllunio Asedau a Chyflenwi Cyfalaf yn Dŵr Cymru: “Rydym yn falch o ddatgelu ein cynlluniau ar gyfer ein gwaith trin dŵr newydd ym Merthyr Tudful a dechrau'r broses o gael barn y gymuned leol. Fel cwmni dielw sy'n eiddo i'n cwsmeriaid, un o'n prif flaenoriaethau yw darparu cyflenwad dŵr o'r radd flaenaf i'n cwsmeriaid yn syth i'w tapiau a rhan allweddol o hyn yw sicrhau bod ein hasedau a'n rhwydwaith yn gallu gwrthsefyll heriau mawr fel newid yn yr hinsawdd sy'n gofyn am gynllunio gofalus a buddsoddiad sylweddol.”
“Mae ein cynlluniau ar gyfer y gwaith newydd yn adlewyrchu'r ymrwymiad hwn ac yn cynnig ateb cadarn i'r heriau yr ydym yn eu hwynebu yn awr ac yn y dyfodol. Wrth ddatblygu ein cynlluniau, yn ogystal ag ystyried barn y gymuned, rydym yn awyddus i sicrhau ein bod yn ystyried sut y gall y cynlluniau fod o fudd i'r gymuned leol fel darparu swyddi i bobl leol, cefnogi cyfleoedd hyfforddi, darparu addysg i ysgolion a cholegau a chefnogi ein cwsmeriaid sy'n agored i niwed.”
Os oes gennych ddiddordeb mewn llunio’r cynigion a rhoi sylwadau arnynt, mae Dŵr Cymru wedi trefnu cyfres o sesiynau galw heibio wyneb yn wyneb a sesiynau rhithwir. Gellir gweld yr holl wybodaeth ddiweddaraf am y cynigion yn yma o 28 Chwefror 2022. Gall pobl roi eu sylwadau ar y cynnig yn y fan yno hefyd ac mae angen dychwelyd pob sylw i Dŵr Cymru erbyn 28 Mawrth 2022.
Bydd digwyddiadau gwybodaeth hefyd yn cael eu cynnal lle bydd aelodau o dîm y prosiect wrth law i ateb cwestiynau am y prosiect. Bydd y sesiynau hyn ar:
- 7 Mawrth 3pm-8pm: Redhouse, Hen Neuadd y Dref, Stryd Fawr, Merthyr Tudful CF47 8AE,
- 15 Mawrth 3pm – 8pm: Clwb Rygbi Cefn Coed, Heol yr Orsaf, Cefn-Coed-y-Cymer, Merthyr Tudful, CF48 2NB
Ychwanegodd Ian Christie: "Rydym yn awyddus i sicrhau bod y cymunedau yn yr ardal yn ymwybodol o'r cynlluniau a hefyd yn cael y cyfle i ymgysylltu a rhoi sylwadau hanfodol i ni. Rydym yn sicrhau bod yr wybodaeth ar gael ar-lein drwy'r ystafell wybodaeth rithwir fel bod pobl yn cael y cyfle i gymryd rhan ac yn gallu dod i benderfyniad gwybodus am y prosiect.