Y galw am ddŵr yn eithriadol o uchel wrth i’r tymheredd daro record newydd


22 Gorffennaf 2022

Gyda Chymru’n mwynhau heulwen braf ar hyn o bryd, nid dim ond yr arian byw oedd yn codi yn y tywydd crasboeth.

Wrth i’r haul ddisgleirio dros Gymru ddoe ar y diwrnod poethaf ar record, gwelodd Dŵr Cymru, y cwmni cyfleustod nid-er-elw, y galw am ddŵr o du ei gwsmeriaid yn codi’n eithriadol o uchel - gan ragori ar y lefelau a welwyd ar anterth tywydd poeth 2018.

Ar ddiwrnod arferol, mae’r cwmni’n trin ac yn cyflenwi tua 850 megalitr o ddŵr ffres a glân ar gyfer ei dair miliwn o gwsmeriaid. Yn fras, mae hyn yn ddigon o ddŵr i lenwi tua 320 pwll nofio maint Olympaidd. Ddoe, gwelodd y cwmni’r lefel yma’n rhagori ar 1,000 mega litr y dydd.

Mae’r galw ychwanegol yma’n ei gwneud hi’n sialens pwmpio’r dŵr trwy’r pibellau’n ddigon cyflym, ac mae’n draenio’r dŵr o’’r cronfeydd a’r afonydd sy’n cyflenwi’r dŵr yn gynt hefyd. Mae hyn yn arbennig o bwysig, oherwydd rhwng Mawrth ac Ebrill, bu’r glawiad ar draws Cymru cwta 50% o’r cyfartaledd tymor hir, a gwelwyd cwta 60% o’r cyfartaledd rhwng Mawrth a Mai.

Er bod adnoddau dŵr ar draws y rhan fwyaf o Gymru mewn sefyllfa dda, mae yna rywfaint o bryder am y sefyllfa yn Sir Benfro. Er nad ydym yn disgwyl problemau ar unwaith, os na cheir glaw sylweddol rhwng nawr a diwedd Awst, mae’n bosibl y bydd angen rhyw lefel o gyfyngiadau’n ddiweddarach yn yr haf.

Er mwyn cadw i fyny â’r galw, mae’r cwmni wedi gorfod dwysáu ei ymdrechion i sicrhau bod y dŵr yn parhau i lifo ar gyfer cwsmeriaid. Mae hyn yn cynnwys gweithio rownd y cloc er mwyn sicrhau bod y gweithfeydd trin dŵr yn cadw i fyny â’r galw, a defnyddio’i fflyd gyfan o danceri i sicrhau bod digon o ddŵr mewn systemau dŵr lleol.

Mae’r cwmni wedi cynyddu ei waith i drwsio ac atgyweirio gollyngiadau hefyd, er ei fod eisoes yn canfod ac yn trwsio rhwng 500 a 600 o ollyngiadau’r wythnos.

Gall cwsmeriaid chwarae eu rhan hefyd trwy ddilyn ambell i awgrym syml y mae’r cwmni’n eu cynnig er mwyn osgoi gwastraffu dŵr yn y cartref a’r ardd. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Cau’r tap wrth olchi dwylo neu frwsio dannedd
  • Cael cawod yn lle bath
  • Aros nes bod y peiriannau golchi dillad a llestri’n llawn cyn eu cynnau
  • Peidio â llenwi’r pwll padlo i’r top – ac ar ôl gorffen, defnyddio’r dŵr ar y planhigion yn yr ardd
  • Peidio â defnyddio taenellwr i gadw’r lawnt yn wyrdd - bydd y glesni’n dychwelyd gyda’r glaw.

Dywedodd Ian Christie, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaethau Dŵr: “Rwy’n siŵr ein bod ni i gyd wedi bod yn mwynhau’r tywydd poeth yma, ac rydyn ni fel cwmni’n gweld cynnydd yn y galw am ddŵr pan fo’r haul yn tywynnu bob tro. Mae’r galw mawr yma’n para am gyfnodau byr yn unig fel rheol, ond yn y tywydd digynsail o boeth yma, rydyn ni’n gweld cyfnod estynedig o alw mawr. Doedd hi ddim yn syndod i ni weld y galw’n cyrraedd 1,000 mega litr y dydd ddoe.

“Yn naturiol, mae bodloni’r cynnydd yn y galw’n dod â sialensiau ychwanegol i’r cwmni, a bydd pobl wedi gweld ein timau o gwmpas y lle’n gweithio i sicrhau bod y dŵr yn parhau i lifo. Er y byddwn ni’n gwneud popeth y gallwn ni, byddai’n ein helpu ni pe bai cwsmeriaid yn gallu chwarae eu rhan hefyd trwy osgoi gwastraffu dŵr.

“Er enghraifft, mae taenellwyr i’r ardd gyda’r defnyddwyr dŵr mwyaf yn yr ardd am eu bod nhw’n defnyddio 1,000 litr o ddŵr bob awr ar gyfartaledd. Mae hynny’r un faint ag y byddai teulu nodweddiadol yn ei ddefnyddio yn y tŷ mewn dau ddiwrnod. Trwy osgoi defnyddio taenellwyr, neu trwy fuddsoddi mewn casgen ddŵr i gasglu dŵr glaw, gallai pobl ddefnyddio tipyn yn llai o ddŵr.

“Ffordd arall y gall cwsmeriaid helpu yw trwy roi gwybod i ni os byddan nhw’n gweld dŵr yn gollwng yn rhywle fel y gallwn alw tîm allan yn syth i ymchwilio i’r peth. Trwy gydweithio fel hyn, gallwn ni helpu i sicrhau ein bod ni’n cadw’r dŵr yn llifo dros yr haf”.

Mae rhagor o wybodaeth am ffyrdd o arbed dŵr, a manylion sut i gael gafael ar ddyfeisiau arbed dŵr yn dwrcymru.com/arbeddwr.