Wythnos Hinsawdd Cymru: Cydweithio i Gynorthwyo Ecosystemau Caerdydd


25 Tachwedd 2022

Built in the late 19th Century, Lisvane and Llanishen Reservoirs have been an integral part of the north Cardiff community for more than one hundred years.

Daeth y safle poblogaidd yma dan fygythiad yn 2001, a ffurfiodd aelodau o’r gymuned y Grŵp Gweithredu dros y Gronfa (RAG) gan ymgyrchu’n llwyddiannus i achub y cronfeydd rhag datblygiad. Mwy nag 20 mlynedd yn ddiweddarach, mae’r cwmni bellach yn gweithio mewn partneriaeth â Dŵr Cymru i sicrhau bod y safle hwn sydd o bwys hanesyddol ac ecolegol yn cael ei fwynhau a’i amddiffyn am genedlaethau i ddod.

Pan gymerodd Dŵr Cymru awenau cronfeydd dŵr Llys-faen a Llanisien yn 2016 – oedd yn cynnwys dod yn warcheidwaid ecoleg a threftadaeth y lle – cychwynnodd y cwmni ar siwrnai i’w dychwelyd i’w hen ogoniant a chreu hyb ar gyfer hamdden, iechyd a llesiant – gan greu ardal yn y ddinas lle gall pobl gysylltu â’r dŵr a’r amgylchedd. Mae Dŵr Cymru wedi bod yn gweithio mewn cydweithrediad ag eraill i gyflawni gweithgareddau rheoli cadwraeth er mwyn amddiffyn a gwella ecoleg unigryw’r safle, a fydd yn hwyluso mynediad i’r cyhoedd ac yn creu parthau cadwraeth i amddiffyn bywyd gwyllt ac ecoleg y lle.

Mae’r safle’n adnodd naturiol unigryw o werth ecolegol sylweddol, sy’n cynnwys dau Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), y naill am ei ffwng cap cwyr a’r llall am yr adar sy’n heidio i dreulio’r gaeaf yno. Diolch i grant ENRaW Llywodraeth Cymru, mae llwybrau cerdded yn cael eu gosod o amgylch y cronfeydd gan ganiatáu i’r cyhoedd fwynhau mynd am dro o gwmpas y cronfeydd wrth amddiffyn y glaswelltir sydd wedi ei ddynodi’n SoDdGA am ei ffwng cap cwyr – y ffeindiwyd dros saith ar hugain o wahanol rywogaethau ar argloddiau’r ddwy gronfa.

Er mwyn llwyr ddeall gwerth y safle, mae Dŵr Cymru’n cydweithio’n agos â Chyfoeth Naturiol Cymru ac ecolegwyr i gyflawni amrywiaeth o astudiaethau a fydd yn helpu i lywio rheolaeth y safle pan fydd yn agor i’r cyhoedd. Diolch i’r astudiaethau hyn, gwyddom erbyn hyn nad yw’r safle’n bwysig yn genedlaethol yn unig, ond yn rhyngwladol hefyd yn sgil darganfyddiad ffwng glaswelltir prin yn 2021 a gofnodwyd unwaith yn unig erioed yn y byd - a hynny yn Nhwrci!

Am eu bod yn awyddus i ymgysylltu’r gymuned leol wrth ddeall gwir werth ecolegol y safle, helpodd y cwmni i sefydlu grŵp Cyfeillion Cronfeydd Dŵr Caerdydd. Mae hyn wedi gweld aelodau’n mynd yn gwmni i’r ecolegydd wrth iddo gyflawni ei arolygon er mwyn dysgu rhagor am ecoleg unigryw’r safle; a chasglu gwybodaeth amgylcheddol y gallant ei rhannu â’r gymuned.

Mae’r ffwng glaswelltir Cap Cwyr yn ddangosydd o gynefin glaswelltir o safon uchel. Mae’n sensitif i newidiadau ym maetholion y pridd, cywasgiad a chysgod. Yn ogystal â chyfrannu at achub y cronfeydd rhag datblygiad, mae’r ffwng cap cwyr yn parhau i fod yn fuddiol i’n hiechyd a’n llesiant hefyd – gan chwarae rhan hanfodol wrth gynnal bioamrywiaeth Caerdydd. Mae ffwng yn cydbwyso ecosystemau, gan ddadelfennu planhigion ac anifeiliaid marw, yn darparu maetholion ar gyfer planhigion ac yn gyfnewid yn storio carbon o’r planhigion yn y pridd – gan osgoi ei ryddhau i’r atmosffer ar ffurf carbon deuocsid.

Dywedodd Annie Smith, Rheolwr Gwirfoddoli Dŵr Cymru:
“Mae gweithio mewn cydweithrediad â’r gymuned a achubodd y cronfeydd yn allweddol wrth amddiffyn a chyfoethogi ecoleg y safle hwn. Trwy gyfoethogi gwybodaeth y gymuned leol a rheoli’r gadwraeth gyda’n gilydd, gallwn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng natur, a chreu Caerdydd fwy gwyrdd, cadarn a theg er budd cenedlaethau’r dyfodol.”

Ar y safle, mae hyb ymwelwyr newydd sbon yn cael ei adeiladu, a fydd yn cynnwys caffi â golygfeydd panoramig dros y ddwy gronfa, ac amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon dŵr. Pan fydd y safle’n agor i’r cyhoedd, oherwydd ei ecoleg unigryw â dau safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, byddwn ni’n gofyn i bobl barchu byd natur trwy gadw at y llwybrau a chadw cŵn ar dennyn byr.

Dywedodd Vicky Martin, Pennaeth Strategaeth Atyniadau Ymwelwyr Dŵr Cymru, “Mae safleoedd ein hatyniadau ymwelwyr yn cynnig llu o fanteision trwy gynnig mynediad ar gyfer hamdden, twristiaeth, cysylltu’r gymuned, addysg a chyfleoedd dysgu. Mae Llys-faen a Llanisien yn cael eu datblygu i gyfoethogi’r cronfeydd er mwyn i bobl eu mwynhau, ac i greu gwell cynefinoedd i ffawna a fflora lewyrchu hefyd.”