Gwaharddiad Defnydd Dros Dro (gwaharddiad pibau dyfrhau) i amddiffyn cyflenwadau dŵr ac amgylchedd Sir Benfro


4 Awst 2022

Yn dilyn y flwyddyn sychaf ers 1976, tymereddau uchaf erioed a chynnydd yn y galw am ddŵr, mae adnoddau dŵr (neu gronfeydd dŵr) ar gyfer ardal Sir Benfro yn agosáu at lefelau sychder.

Er nad yw hyn yn peri risg uniongyrchol i gyflenwadau dŵr ar gyfer yr ardal, mae’n rhaid i Dŵr Cymru gymryd camau i sicrhau bod digon o ddŵr yn parhau i gyflenwi cwsmeriaid a diogelu’r amgylchedd lleol dros y misoedd nesaf.

O 08.00am ar 19 Awst, mae’r cwmni wedi cyhoeddi y bydd Gwaharddiad Defnydd Dros Dro, neu waharddiad pibau dyfrhau i roi ei enw cyffredin, yn dod i rym ar gyfer cwsmeriaid yn Sir Benfro. Bydd hyn yn golygu na fydd cwsmeriaid yn cael defnyddio piben ddyfrhau i gyflawni gweithgareddau yn eu heiddo nac o’i amgylch fel dyfrio planhigion neu lenwi pyllai padlo neu dwbâu twym.

Dim ond 60% o’r glawiad disgwyliedig y mae Sir Benfro wedi’i weld rhwng mis Mawrth a Gorffennaf ac ers bod yn ymwybodol o’r glawiad is nag arfer, mae’r cwmni wedi cynnal nifer o weithgareddau i helpu gyda chadwraeth dwr yn yr ardal. Mae hyn wedi cynnwys cynnydd mewn canfod ac atgyweirio gollyngiadau, a defnyddio tanceri dŵr i ymateb i gyfnodau brig yn y galw mewn rhai rhannau o’r Sir.

Nid yw’r sefyllfa yn Sir Benfro yn unigryw yn y DU, mae cwmnïau dŵr yn ne-ddwyrain Lloegr eisoes wedi cyflwyno gwaharddiadau pibau dyfrhau.

Dywedodd Ian Christie, Rheolwr-Gyfarwyddwr Gwasanaethau Dŵr ar gyfer Dŵr Cymru: "Nid ydym wedi gweld cyfnodau mor estynedig o amodau sych yn Sir Benfro ers 1976. Nid yw’r penderfyniad i gyflwyno gwaharddiad pibau dyfrhau yn un rydym wedi’i wneud yn ddi-hid, ond os ydym am sicrhau bod digon o ddŵr i’n cyflenwi am weddill yr haf ac i’r hydref, mae angen i ni weithredu nawr i geisio atal rhagor o gyfyngiadau nes ymlaen. Bydd y gwaharddiad yn berthnasol i ychydig mwy na 2% o’r boblogaeth o dair miliwn yr ydym yn ei gwasanaethu yng Nghymru. Yn fras, nid ydym yn bwriadu cyflwyno gwaharddiadau yn ehangach ar draws ein hardal weithredu.

"Rydym wedi gwneud llawer o waith i gyfathrebu â chwsmeriaid yn yr ardal dros y misoedd diwethaf am bwysigrwydd peidio â gwastraffu dŵr ac rydym yn gwerthfawrogi’n wirioneddol y camau y mae pobl wedi’u cymryd eisoes. Rydym bellach yn annog pawb ledled Sir Benfro i barchu’r gwaharddiad a pheidio â defnyddio piben ddyfrhau. Mae eithriadau, yn arbennig i ddeiliaid Bathodyn Glas neu sydd ar ein Cofrestr Gwasanaeth Blaenoriaeth. Mae rhestr lawn o’r hyn nad yw pobl yn cael ei wneud o dan y gwaharddiad a’r eithriadau ar gael ar ein gwefan - www.dwrcymru.com/sychder. Byddwn hefyd yn ysgrifennu at yr holl gwsmeriaid dan sylw ac yn cyhoeddi’r gwaharddiad yn ehangach yn yr ardal."

Cyn gweithredu’r gwaharddiad, bydd y cwmni’n cynnal cyfnod ymgynghori o saith diwrnod rhwng 10 a 17 Awst. Os hoffai unrhyw un gyflwyno sylw i’r cwmni i’w ystyried i gael esemptiad nad yw wedi’i amlinellu yn y gwaharddiad eisoes, dylen nhw wneud hynny yn ystod y cyfnod hwn.

Ychwanegodd Mr Christie:  "Tra bydd y gwaharddiad ar waith, byddwn yn parhau i wneud pob ymdrech o ran cadwraeth dŵr. Bydd ein timau allan drwy’r dydd a'r nos yn canfod gollyngiadau a’u hatgyweirio cyn gynted â phosibl. Hoffem ddiolch i’r cwsmeriaid am eu cydweithrediad yn y mater hwn a gobeithio, trwy weithio gyda’n gilydd, y gallwn ddiogelu cyflenwadau dŵr yfed ac atal rhagor o gyfyngiadau yn y dyfodol agos."