Rydyn ni wedi gwneud cynnydd da dros nos, ac fel y dywedwyd ddoe, rydyn ni wedi llwyddo i adfer cyflenwadau dros 1500 o gwsmeriaid yn y gorllewin.
Fel y mae pethau ar hyn o bryd, mae tua 900 o eiddo heb ddŵr, ac rydyn ni’n disgwyl i’r nifer hon ddisgyn ymhellach dros yr oriau nesaf. Mae tua 200 o’r rhain yn Aberteifi lle mae ein timau’n gweithio’n galed i adfer cyflenwadau.
Wrth i’r systemau ddychwelyd i’r arfer, mae yna berygl y gallai fod aer yn y pibellau a allai atal y cyflenwadau dros dro. Mae ein timau eisoes yn gweithio’u ffordd trwy’r system i ryddhau’r aer.
Rydyn ni wedi adlenwi’r gorsafoedd dŵr potel yn Llandysul, Castellnewydd Emlyn ac Aberteifi, ac mae gennym danciau dŵr statig yn y lleoliadau hyn. Mae’r tanciau’n cynnwys dŵr glân, ond bydd angen i gwsmeriaid ferwi’r dŵr cyn ei yfed, a dod â chynhwysydd addas i gludo’r dŵr adref.
Byddwn ni’n dal ati i weithio trwy’r dydd i ddatrys unrhyw broblemau sy’n parhau, a byddwn ni’n parhau i ddefnyddio ein fflyd o danceri i roi dŵr i’r system yn uniongyrchol. Gall cwsmeriaid helpu hefyd trwy sicrhau bod unrhyw dapiau nad ydynt yn cael eu defnyddio ar gau, ac os oes cyflenwad dŵr ganddynt, nad ydynt yn defnyddio mwy o ddŵr nag sydd ei angen. Gofynnwn hefyd i gwsmeriaid amaethyddol sicrhau nad oes unrhyw ddŵr yn gollwng ar eu pibellau allanol. Bydd hyn oll yn helpu’r system i adlenwi.
Hoffem ymddiheuro unwaith eto i gwsmeriaid am yr anghyfleustra, a diolch iddynt am eu hamynedd.