Dŵr Cymru yw’r cwmni dŵr gorau yn ôl mesur cenedlaethol o wasanaethau cwsmeriaid


12 Gorffennaf 2022

Mae Dŵr Cymru wedi dod allan ar y brig ar draws Cymru a Lloegr yn y gwaith ymchwil diweddaraf i wasanaethau cwsmeriaid ar draws DU.

Llwyddodd y cwmni nid-er-elw – sy’n gwasanaethu tair miliwn o bobl ar draws y rhan fwyaf o Gymru a rhannau o Loegr – i ennill sgôr uwch am wasanaethau cwsmeriaid nag unrhyw gwmni dŵr arall, sy’n ei gosod ymysg goreuon sector y cyfleustodau i gyd.

Cafodd y cwmni sgôr o 80.4 yn yr arolwg, sydd 0.9 pwynt yn uwch na sgôr y llynedd.

Mae astudiaeth Insight y Sefydliad Gwasanaethau Cwsmeriaid (UKCSI) yn edrych ar ansawdd gwasanaethau cwsmeriaid yn y DU ar draws 13 sector o’r economi. Mae’n seiliedig ar arolygon a gyflawnir gyda chwsmeriaid bob chwe mis.

Mae sgôr cyffredinol Dŵr Cymru’n ei osod ar frig y sector dŵr. Mae sgôr y cwmni dau bwynt yn uwch na sgôr cyffredinol UKCSI, sef 78.4, a gweddill sector y cyfleustodau, sef 74.1.

Mae’r canlyniad yn adeiladu ar berfformiad cadarn ym mesur gwasanaethau cwsmeriaid y diwydiant dŵr (sef C-Mex) yn gynharach eleni sy’n cael ei fesur gan reoleiddiwr y diwydiant dŵr, Ofwat. Llwyddodd Dŵr Cymru i ennill ei le yn y chwartil uchaf o gymharu â chwmnïau dŵr a charthffosiaeth eraill yn yr arolwg hwnnw.

Dywedodd y Prif Weithredwr, Peter Perry: “Mae hi’n galonogol iawn ein gweld ni’n cyflawni ein sgôr uchaf hyd yn hyn mewn darn o waith ymchwil i’r diwydiant sydd mor uchel ei barch. Diolch i bob un o’n cydweithwyr am ein helpu ni i gyflawni’r sgôr yma, dim ots a ydyn nhw’n siarad â chwsmeriaid ar y ffôn, neu’n ymddwyn yn gwrtais wrth drwsio gollyngiad yn y gymuned leol.

“Am taw gweledigaeth ein cwmni yw ennill ffydd ein cwsmeriaid bob un dydd, dyw hi erioed wedi bod yn bwysicach gwrando ar ein cwsmeriaid wrth i’w disgwyliadau newid.”