Dŵr Cymru yn ymgynghori ar ei gynllun rheoli draenio a dŵr gwastraff hirdymor


28 Gorffennaf 2022

Mae Dŵr Cymru yn datblygu cynllun rheoli draenio a dŵr gwastraff (DWMP) newydd a fydd yn helpu i sicrhau bod gan Gymru system ddraenio i wynebu heriau cynyddol newid hinsawdd, cynnydd mewn datblygu ac ymgripiad trefol.

Fel yr unig gwmni cyfleustodau nid-er-elw yng Nghymru a Lloegr, mae Dŵr Cymru wedi dechrau ymgynghoriad 10 wythnos (27 Gorffennaf - 5 Hydref) gyda rhanddeiliaid a chwsmeriaid i ddatblygu cynllun hirdymor (2025 - 2050) ar gyfer system ddraenio a dŵr gwastraff sy'n diwallu anghenion ei gwsmeriaid a chymunedau ac yn helpu i warchod yr amgylchedd am genedlaethau i ddod.

Mae pwysau newid hinsawdd, ymgripiad trefol (colli tir athraidd o amgylch adeiladau presennol) a datblygiadau newydd eisoes yn rhoi pwysau enfawr ar systemau draenio presennol. Nod DWMP cyntaf y cwmni yw darparu golwg hirdymor ar sut y dylid rheoli draenio yn ardal weithredu'r cwmni, gan weithio i safon ac ar gyflymder sy’n fforddiadwy ac yn dderbyniol i gwsmeriaid. Fe fydd cynllun o'r fath yn gofyn am gydweithio sylweddol a dyna pam mae'r cwmni'n galw ar randdeiliaid, arbenigwyr a'r rhai sy'n dibynnu ar y systemau draenio sydd wedi eu heffeithio i rannu eu safbwyntiau.

Nid Dŵr Cymru sy'n gyfrifol am y system ddraenio i gyd. Gall draeniau tir, nentydd, afonydd, draeniau priffyrdd a draeniau sy’n gwasanaethu un tŷ yn unig fod yn eiddo i neu'n cael ei reoli gan awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd neu gan berchnogion tir ac eiddo preifat. Nod y DWMP yw ystyried y mater hwn mewn ffordd gyfannol yn hytrach nag ystyried asedau Dŵr Cymru yn unig.

Mae llawer o systemau draenio trydydd parti yn draenio i garthffosydd Dŵr Cymru, neu gallant orlifo iddynt yn ystod glaw trwm neu lifogydd. Mae'r system garthffosiaeth gyfun, sy'n cymryd elifion, dŵr storm ac yn draenio dŵr wyneb, wedi datblygu'n 'organig' dros y 150 mlynedd diwethaf yn bennaf i atal llifogydd, ac erbyn hyn mae angen adolygu hyn ar frys os ydym am leihau effeithiau'r system ar gwsmeriaid a'r amgylchedd.

Dyma'r tro cyntaf i DWMP gael ei ddatblygu yn y ffordd gydweithredol hon a bydd ail gylch cynllunio statudol yn dechrau yn 2023.

Bydd y dull newydd hwn o gynllunio yn cynorthwyo'r diwydiant i wneud newid sylweddol o ran darparu cynlluniau carthffosiaeth a draenio hirdymor ac mae’n adlewyrchu proses debyg a wneir ym maes dŵr y busnes i sicrhau bod ein hadnoddau dŵr yn addas at y dyfodol. Bydd y DWMP yn nodi barn Dŵr Cymru ar y blaenoriaethau, gan ystyried safbwyntiau ei gwsmeriaid yn ogystal ag amrywiaeth eang o randdeiliaid eraill.

Dywedodd Steve Wilson, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaethau Dŵr Gwastraff: "Mae dylunio a buddsoddi mewn system ddraenio a dŵr gwastraff sy'n addas ar gyfer y dyfodol yn her ar raddfa sylweddol ac ni ellir ei chyflawni gan un sefydliad unigol, a dyna pam rydym ni’n ymgysylltu â'n cwsmeriaid a'n rhanddeiliaid. Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae wrth fynd i'r afael â'r heriau cymhleth sy'n ein hwynebu – Llywodraeth, ein rheoleiddwyr, cynghorau, tirfeddianwyr, busnesau, cwsmeriaid a chymunedau i ddod o hyd i'r atebion ar y cyd, ffyrdd amgen o weithio a’r newidiadau deddfwriaethol fydd eu hangen.

"Mae'n hanfodol ein bod yn deall barn y rhai sy'n defnyddio ein gwasanaethau, yn enwedig o ran pa mor gyflym y gwneir y gwelliannau hyn a'r drefn yr ydym yn eu gwneud, gan y bydd y costau hyn yn effeithio ar filiau cwsmeriaid.

"Rydym hefyd yn awyddus i wrando ar farn rhanddeiliaid allweddol eraill, yn enwedig y rhai a fydd yn ymuno â ni ac yn helpu i'n harwain i reoli etifeddiaeth ein carthffosydd cyfun a gostyngiad yn y ddibyniaeth ar orlifoedd storm cyfun fel modd o leihau llifogydd carthffosydd lleol."

Pan fydd Dŵr Cymru wedi cwblhau'r cam ymgynghori gyda chwsmeriaid a rhanddeiliaid ym mis Medi 2022, bydd y DWMP terfynol yn cael ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2023.

Mae deunydd yr ymgynghoriad i'w weld yma.