Dŵr Cymru’n annog cwsmeriaid i ymuno yn ei ymdrechion i gadw’r dŵr yn llifo yn y tywydd crasboeth


14 Gorffennaf 2022

Gyda’r rhybudd tywydd ambr estynedig am dywydd crasboeth ar draws y rhan fwyaf o Gymru, mae Dŵr Cymru’n gofyn am gymorth ei gwsmeriaid i gadw’r dŵr yn llifo trwy feddwl am faint maent yn ei ddefnyddio.

Yn ystod y tywydd poeth diweddar, mae’r cwmni wedi gweld y galw am ddŵr yn cynyddu’n agos at y record. Mae’r galw ychwanegol yma’n ei gwneud hi’n sialens cael digon o ddŵr trwy’r pibellau’n ddigon cyflym, ac yn draenio’r dŵr o’r cronfeydd a’r afonydd sy’n cyflenwi’r dŵr yn gynt. Mae hyn yn arbennig o bwysig eleni, oherwydd rhwng Mawrth ac Ebrill, bu’r glawiad ar draws Cymru gwta 50% o’r cyfartaledd tymor hir, a dim ond 60% o’r cyfartaledd rhwng Mawrth a Mai.

Mae Dŵr Cymru’n trin ac yn cyflenwi tua 800 miliwn litr o ddŵr glân y dydd i’w dair miliwn o gwsmeriaid - tua’r un faint yn fras ag sydd ei angen i lenwi 320 o byllau nofio maint Olympaidd. Dros y diwrnodau diwethaf, bu cynnydd o 25% yn y galw am ddŵr oedd yn golygu bod angen cyflenwi 198 miliwn litr yn rhagor o ddŵr y dydd.

Mewn ardaloedd sy’n boblogaidd gyda thwristiaid fel Sir Benfro, mae’r galw am ddŵr yn cael ei ddwysáu gan nifer y bobl sy’n ymweld â’r ardal. Mae Cymru eisoes yn le poblogaidd am wyliau, ond gyda llawer o bobl yn dal i ddewis treulio’u gwyliau yn y DU, disgwylir i nifer y bobl sy’n ymweld â ni fod yn uchel eto eleni.

Mewn ymateb i’r tywydd poeth, mae’r cwmni wedi cynyddu cynhyrchiant yn ei weithfeydd trin dŵr. Mae hi wedi rhoi’r fflyd gyfan o danceri dŵr ar waith hefyd er mwyn symud dŵr o gwmpas y system i geisio cadw’r lefelau i fyny lle mae’r galw ar ei uchaf.

Mae’r cwmni’n gwneud popeth y gall e i atal colledion o’r system, ac mae ganddo dimau’n gweithio ar draws y wlad yn canfod ac yn trwsio gollyngiadau cyn gynted ag y gallan nhw. Ar hyn o bryd, mae’r timau’n trwsiorhwng 500 a 600 o ollyngiadau'r wythnos. Gall cwsmeriaid helpu hefyd trwy roi gwybod i’r cwmni ar unwaith os ydyn nhw’n gweld dŵr yn gollwng.

Er mwyn helpu cwsmeriaid i chwarae eu rhan a dod o hyd i ffyrdd syml o arbed dŵr yn y cartref a’r ardd, mae’r cwmni’n cynnig tips hwylus. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Cau’r tap wrth olchi dwylo neu frwsio dannedd.
  • Cael cawod yn lle bath.
  • Llenwi’r peiriant golchi a’r peiriant golchi llestri â llwyth llawn cyn eu cynnau.
  • Peidio â llenwi’r pwll padlo i’r top - ac ar ôl gorffen â’r dŵr, ei ddefnyddio i ddyfrio planhigion yr ardd.
  • Peidio â defnyddio taenellwr i gadw’r lawnt yn wyrdd - daw’r lliw nôl pan ddaw’r glaw.
  • Defnyddio ein teclyn digidol ‘Get Water Fit’ i’w helpu i ddod o hyd ffyrdd o arbed dŵr ac arian – ac mae cynnyrch arbed dŵr am ddim ar gael wrth gofrestru hefyd.

Gofynnir hefyd i fusnesau wneud ymdrech arbennig i beidio â gwastraffu dŵr, ac yn arbennig parciau carafanau, cyrsiau golff a ffermydd. Gall cwtogi ychydig bach ar ddefnydd busnes o ddŵr wneud gwahaniaeth mawr wrth helpu Dŵr Cymru i gadw’r dŵr yn llifo dros yr haf, ac mae yna’r fantais ychwanegol hefyd o leihau biliau dŵr y busnes, a’i gynorthwyo i amddiffyn yr amgylchedd.

Ian Christie, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaethau Dŵr, Cynllunio Asedau a Chyflawni Cyfalaf: “Mae disgwyl i’r tymheredd ar draws ein hardal dorri’r record dros y dyddiau nesaf, felly rydyn ni’n gweithio rownd y cloc i sicrhau ein bod ni’n gwneud popeth y gallwn ni i gael gymaint o ddŵr wedi ei drin â phosibl i mewn i’r system. Ond weithiau mae’r galw’n gallu achosi problemau ar y rhwydwaith, a dyna pam fod angen i ni ofyn am gymorth ein cwsmeriaid i sicrhau bod y dŵr yn cyrraedd pawb. Mae hi’n hanfodol hefyd fel y gallwn helpu i gynnal y cyflenwadau yn ein cronfeydd a’n hafonydd ar ôl gwanwyn a haf cynnar sych.

“Mae ein cyngor i gwsmeriaid yn syml, defnyddiwch y dŵr sydd ei angen arnoch, ond plîs peidiwch â’i wastraffu.”

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James: “Cofiwch fod yn arbennig o ystyriol o’r dŵr rydych yn ei ddefnyddio yn ystod y tywydd poeth yma. Cofiwch gau’r tap wrth frwsio dannedd, cael cawod yn lle bath ac ailystyried eich defnydd o daenellwyr a phyllau padlo yn yr ardd. Mae ein dŵr yfed yma yng Nghymru gyda’r gorau yn y byd, felly er ein bod ni’n gofyn i chi arbed dŵr, cofiwch yfed digon er mwyn cadw’n iach yn y gwres chwilboeth yma.”

Aeth y Gweinidog Newid Hinsawdd ymlaen i ddweud: “Mesurau bychain yw’r rhain, ond bydd pob cam a gymerwn yn helpu i gadw ein dŵr yn llifo ac yn lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd”.

Dywedodd Rhodri Williams, Cadeirydd Cyngor y Defnyddwyr Dŵr (CCW) yng Nghymru: “Gyda'r tymheredd yn codi, mae ein galw am ddŵr yn cynyddu hefyd, ac mae hynny’n gallu rhoi mwy o straen ar y rhwydwaith. Dyna pam ei bod hi mor bwysig ein bod ni i gyd yn defnyddio dŵr mor ddoeth ag y gallwn ni.”

“Yn ôl ein gwaith ymchwil, nid yw dau o bob tri ohonom wedi gwneud ymdrech i ddefnyddio llai o ddŵr dros y chwe mis diwethaf, ond mae yna lawer o ffyrdd syml o arbed dŵr - boed hynny trwy dreulio cwpwl o funudau yn llai yn y gawod, neu ddewis defnyddio can dyfrio yn hytrach na phibell chwistrellu. Gall y newidiadau syml yma leddfu’r pwysau ar yr amgylchedd ac arbed arian i ni hefyd.”

Mae rhagor o wybodaeth am ffyrdd o arbed dŵr, a manylion sut i gael gafael ar ddyfeisiau arbed dŵr ar gael trwy fynd i yma.