Rydym yn ymddiheuro i unrhyw un o'n cwsmeriaid yn ardal Henffordd sydd wedi colli'r cyflenwad dros y dyddiau diwethaf.
Mae ein timau wedi bod yn gweithio'n galed i adfer dŵr i brif rannau strategol y system ac mae cynnydd da wedi'i wneud yma. Er bod hyn wedi sicrhau bod cyflenwadau wedi dychwelyd i'r mwyafrif o gwsmeriaid sydd wedi eu heffeithio, rydym yn ymwybodol bod ychydig o ardaloedd lle nad oes gan gwsmeriaid ddŵr neu bod pwysedd eu dŵr yn isel. Rydym yn disgwyl i'r cyflenwadau hyn sy'n weddill ddychwelyd i'r arfer gyda’r nos heno a dros nos.
Rydym wedi danfon dŵr potel i'n cwsmeriaid mwyaf agored i niwed a hefyd wedi danfon dŵr potel i'r rhai a wasanaethir gan gronfa ddŵr Dorstone a chronfa ddŵr Welsh Newton sydd wedi bod heb ddŵr ers peth amser.
Byddwn yn parhau i weithio yn yr ardal i ddatrys gweddill y problemau ac rydym yn dal i ddefnyddio ein fflyd o danceri dŵr i roi dŵr yn uniongyrchol yn y system. Gall cwsmeriaid hefyd helpu drwy ofalu bod unrhyw dapiau nad ydynt yn cael eu defnyddio yn cael eu diffodd ac os oes ganddynt gyflenwad dŵr yna dim ond defnyddio'r dŵr sydd ei angen arnynt. Hefyd i gwsmeriaid amaethyddol ofalu nad oes unrhyw ollyngiadau ar eu pibellau allanol. Bydd hyn i gyd yn helpu'r system i ail-lenwi.
Hoffem ymddiheuro eto i gwsmeriaid am yr anghyfleustra a achoswyd a diolch iddynt am barhau i fod yn amyneddgar.