Dŵr Cymru’n atgoffa cwsmeriaid i barhau i ddefnyddio dŵr yn ddoeth wrth godi’r gwaharddiad ar bibellau dyfrio yn Sir Benfro


25 Hydref 2022

Mae Dŵr Cymru’n atgoffa ei dair miliwn o gwsmeriaid ei bod hi’n dal i fod yn bwysig parhau i osgoi gwastraffu dŵr er mwyn rhoi’r cyfle gorau posibl i’w 91 cronfa ddŵr adlenwi’n llwyr dros fisoedd y gaeaf.

Daw’r neges wrth i’r cwmni gadarnhau ei fod yn codi’r Gwaharddiad Dros Dro ar Ddefnydd (neu’r ‘gwaharddiad ar bibellau dyfrio’) sydd wedi bod mewn grym ers 19 Awst ar gyfer cwsmeriaid sy’n cael eu gwasanaethu gan Gronfa Ddŵr Llys-y-frân ger Hwlffordd. Nid yw rhai cwsmeriaid ar draws Sir Benfro a rhai rhannau cyfagos o Sir Gaerfyrddin wedi cael defnyddio pibellau dyfrio ers i’r gronfa fynd i gyflwr o sychder. Bydd y gwaharddiad yn codi ar unwaith.

Yn dilyn un o’r hafau cynhesaf ar gofnod, a’r flwyddyn fwyaf sych ers 1976, mae lefelau’r dŵr yn holl gronfeydd y cwmni bron wedi disgyn yn sylweddol wrth iddo gadw’r dŵr yn llifo i’w dair miliwn o gwsmeriaid. Yn ogystal â hynny, bu angen i’r cwmni drin mwy o ddŵr nag erioed ar anterth y tywydd poeth – gyda dros 1 biliwn o litrau'r dydd yn cael eu trin ar adegau o gymharu â’r 850 miliwn litr y dydd a welir fel arfer.

Er bod glaw’n disgyn nawr, ac yn helpu rhai cronfeydd fel Llys-y-frân, nid yw’r glaw’n ddigon trwm nac yn para’n ddigon hir i gael effaith sylweddol ar lefelau’r holl gronfeydd. Mae hyn yn arbennig o wir am y cronfeydd yn y de-ddwyrain lle mae’r lefelau mewn rhai cronfeydd yn parhau i ddisgyn.

Heb unrhyw law o bwys yn y rhagolygon, mae angen ychydig bach o gymorth ychwanegol ar y cronfeydd i sicrhau eu bod yn llenwi’n ddigonol ar gyfer yr haf nesaf. Mae hyn yn arbennig o bwysig am fod nifer o adroddiadau’n cysylltu’r newid yn yr hinsawdd â thebygolrwydd uwch o gyfnodau o sychder yn y dyfodol.

Dywedodd Ian Christie, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaethau Dŵr: “Rydyn ni’n falch ein bod ni’n gallu codi’r gwaharddiad ar ddefnyddio pibellau dŵr ar gyfer ein cwsmeriaid sy’n cael eu gwasanaethu gan gronfa ddŵr Llys-y-frân, ac am ddiolch o waelod calon iddynt am eu cydweithrediad llwyr, a fu o gymorth mawr wrth sicrhau bod modd cadw’r dŵr yn llifo i’n cwsmeriaid yno trwy gydol yr haf, ac amddiffyn afonydd allweddol yn Sir Benfro. Rydyn ni’n ysgrifennu at ein cwsmeriaid yn yr ardal hefyd i gadarnhau fod y gwaharddiad wedi codi.

“Er bod hyn yn newyddion da, nid oes unrhyw le i ni laesu dwylo. Mae ein cronfeydd dŵr yn dibynnu ar law i adlenwi dros yr hydref a’r gaeaf. Dros y chwe mis diwethaf, mae Cymru wedi gweld un o’r cyfnodau hiraf o dywydd sych ar gofnod, ac ym mis Medi gwelsom cwta 50% o’r glawiad cyfartalog tymor hir, felly mae ein cronfeydd dŵr mewn rhai ardaloedd – yn arbennig y de-ddwyrain – yn is o lawer nag y byddem wedi ei ddisgwyl ar yr adeg hon o’r flwyddyn. Mae’r rhagolygon am hydref sy’n fwy sych na’r cyfartaledd hefyd, ac mae’r ffaith nad oes disgwyl llawer o law yn y dyfodol uniongyrchol yn destun pryder.

“Er ein bod ni’n gofyn i’n cwsmeriaid beidio â gwastraffu dŵr fel arfer, nawr rydyn ni’n annog ein holl gwsmeriaid i ddefnyddio’r dŵr sydd ei hangen arnynt yn unig dros yr hydref a’r gaeaf er mwyn sicrhau y gall ein cronfeydd lenwi cyn gynted â phosibl fel bod yna ddigon o ddŵr i’n holl gwsmeriaid yr haf nesaf.

Byddwn ni’n chwarae ein rhan ni hefyd trwy barhau i weithio mor galed â phosibl i ddod o hyd i ollyngiadau a’u trwsio cyn gynted ag y gallwn ni a thrwy fuddsoddi yn y rhwydwaith i’w wneud mor effeithlon â phosibl.”