Dŵr Cymru'n croesawu disgyblion Ysgol Gynradd Gladstone nôl i'w Ganolfan Ddarganfod arobryn yng Nghilfynydd


6 Mai 2022

Ar ôl bod ar gau am gyfnod estynedig, mae ysgolion yn ailgychwyn eu hymweliadau â Chanolfan Ddarganfod Cilfynydd, sy'n cynnig y cyfle iddynt ddysgu am werth dŵr.

Mae gan y ganolfan enw rhagorol diolch i’w darpariaeth addysg rad ac am ddim o safon uchel ar gyfer disgyblion dros y ddau ddegawd diwethaf.

Roedd tîm Addysg Dŵr Cymru wrth ei fodd i groesawu disgyblion o Ysgol Gynradd Gladstone dydd Mercher, 27 Ebrill. Disgyblion Gladstone oedd yr ymwelwyr cyntaf i ddychwelyd i'r Ganolfan Addysg yng Nghilfynydd ger Pontypridd ers Mawrth 2020. Caeodd y ganolfan, sydd wrth galon Gweithfeydd Trin Dŵr Gwastraff Cilfynydd, ar ddechrau pandemig Covid-19, ac nid yw ysgolion wedi cael ymweld â hi – tan nawr.

Mae'r cwmni cyfleustod nid-er-elw wedi darparu sesiynau addysg sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm ar gyfer dros 600,000 o ddisgyblion ers lansio’i strategaeth addysg. Mae hyn yn cynnwys sesiynau mewn ysgolion ac yn ein canolfannau darganfod ers i'r ganolfan agor yn 1997. Nod y rhaglen yw addysgu ac ysbrydoli cynifer o blant â phosibl ar draws ardal weithredu'r cwmni, gan ganolbwyntio ar nifer o themâu allweddol sy'n gysylltiedig â dŵr, arferion da o ran dŵr a rôl Dŵr Cymru. Athrawon ar secondiad o ysgolion lleol, sy'n angerddol ynghylch addysgu'r cwricwlwm trwy ddarparu profiadau ymarferol, sy’n arwain y sesiynau. Ni chodir tâl ar ysgolion am eu hymweliadau, sy'n golygu ei bod hi'n gynnig gwerthfawr ac yn ddewis poblogaidd i athrawon sydd am gyfoethogi addysg eu disgyblion.

Dros y 24 mis diwethaf, mae'r tîm o athrawon ar secondiad wedi bod yn darparu rhaglen werthfawr o ymweliadau rhithiol ac ymweliadau ag ysgolion trwy gyfnod sydd wedi bod yn ddigon anodd i'r genhedlaeth nesaf. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae 45,000 o ddisgyblion wedi cymryd rhan mewn gwasanaethau a gweithdai. Maen nhw wedi dysgu am y cylchred dŵr, a'r holl waith, egni a chariad sy'n mynd i'r broses o gael dŵr i'w tapiau, ffyrdd o arbed dŵr, a phwysigrwydd rheol y 3P – sef fflysio 'dim ond pi-pi, pŵ a phapur i'r tŷ bach'.

Rydyn ni wedi bod yn edrych ymlaen yn fawr at ailagor y ganolfan yng Nghilfynydd am fod y safle'n cynnig profiad hollol wahanol ac ymdrwythol i’r disgyblion. Dewisodd Blwyddyn 3 o Ysgol Gynradd Gladstone ddysgu am Y Cylchred Dŵr trwy wers ymarferol sy'n tynnu ynghyd pob agwedd ar siwrnai dŵr - o'r mynydd i'r môr. Fe edrychon nhw hefyd ar waith pwysig WaterAid, gan ddefnyddio dulliau chwarae rôl i ddatblygu eu dealltwriaeth am y mater.

Dywedodd Mrs Parry, athrawes yn Ysgol Gynradd Gladstone: “Diolch am ymweliad gwych. Roedd y disgyblion yn gyffrous tu hwnt ymlaen llaw, ac roedd yr ymweliad yn well na’r disgwyliadau. Diolch yn fawr!”

Dywedodd Claire Roberts, Pennaeth Cysylltiadau Cymunedol Dŵr Cymru: “Mae hi'n hyfryd gweld y safle'n gweithio eto ar ôl bod ar gau am gyfnod hir. Mae lefel yr ymrwymiad a welsom gan y disgyblion wrth iddynt gymryd rhan yn eu gweithgareddau heddiw yn dangos pa mor werthfawr yw'r ganolfan yma i gymunedau lleol. Mae hi wir yn cynnig rhywbeth gwahanol – ac mae'r ffaith ein bod ni bron yn llawn ar gyfer tymor yr haf yn barod yn destament i hynny."