David Davies AS yn ymweld â gwaith atal llifogydd


2 Awst 2022

I nodi cwblhau'r gwaith atal llifogydd yng Ngwaith Trin Dŵr Mayhill, croesawodd Dŵr Cymru yr AS lleol David Davies i ddangos yn uniongyrchol sut y bydd yr amddiffynfeydd yn diogelu cyflenwadau dŵr yr ardal hyd yn oed dan yr amodau tywydd mwyaf eithafol.

Mae'r cwmni wedi buddsoddi dros £2 filiwn ar amddiffynfeydd llifogydd yn y gweithfeydd yn Nhrefynwy yn dilyn y llifogydd yn ystod Storm Dennis ym mis Chwefror 2020.

Roedd y gwaith, a ddechreuodd y llynedd, yn cynnwys gosod wal llifogydd newydd o amgylch y safle a llifddorau newydd ynghyd ag uwchraddio system ddraenio'r safle. Roedd hyn yn cynnwys gosod cyfleuster sy'n cysylltu â phympiau dŵr wyneb i fynd â dŵr glaw i ffwrdd pe bai llifogydd, gan sicrhau y gall y safle barhau i weithredu'n effeithlon a darparu dŵr yfed glân i'r ardal leol.

Yn ystod Storm Dennis, ym mis Chwefror 2020, fe ddioddefodd y gwaith trin dŵr lifogydd difrifol, a bu’n rhaid i’r heddlu wacáu'r safle. Gwnaeth nifer fawr o eiddo yn yr ardal brofi pwysedd dŵr isel neu ddim dŵr o gwbl. Bu gweithwyr Dŵr Cymru'n gweithio trwy gydol y dydd a'r nos i roi cyflenwad o ddŵr i gwsmeriaid trwy gyflenwi a danfon dŵr potel i gartrefi, cartrefi gofal a'r ysbyty lleol.

Wrth sôn am yr ymweliad, dywedodd David Davies AS: "Rwy'n cofio'n glir yr effaith enfawr a gafodd y llifogydd ar y gwaith trin ac fe ymwelais â'r safle ar y pryd. Rwy’n cofio'r ymdrechion a wnaethpwyd i gadw’r cyflenwadau i gwsmeriaid i fynd gan gynnwys defnyddio eu fflyd o danceri dŵr. Felly rwy'n croesawu'n fawr y buddsoddiad y mae Dŵr Cymru wedi'i wneud yma i ddiogelu'r safle rhag llifogydd yn y dyfodol sy'n debygol o ddod yn amlach gydag effeithiau newid hinsawdd".

Dywedodd Martin Hennessey, Cyfarwyddwr Cyflawni Cyfalaf Dŵr Cymru: "Roeddem yn falch iawn o groesawu David Davies AS i'n gwaith trin i ddangos y buddsoddiad yr ydym wedi'i wneud i'w amddiffyn rhag llifogydd yn y dyfodol. Roedd Storm Dennis yn un o'r llifogydd gaeaf gwaethaf i ni ei phrofi yn ddiweddar felly mae ein gwaith yng Ngwaith Trin Dŵr Mayhill yn hanfodol i gryfhau ein cydnerthedd a sicrhau ein bod yn gallu sicrhau bod gan ein cwsmeriaid gyflenwad o ddŵr".