Hwb gwerth £11,000 i'r gymuned leol i nodi diwedd cynllun arloesol yn Llanelli


28 Mawrth 2022

I ddathlu diwedd rhaglen arloesol i gadw dŵr wyneb allan o'r rhwydwaith dŵr gwastraff yn Llanelli, mae Dŵr Cymru Welsh Water wedi cyfrannu £11,000 i gynorthwyo 11 o brosiectau cymunedol lleol sy’n gwneud gwahaniaeth yn y gymuned. Roedd hyn yn ogystal â £10k cronfa gymunedol GlawLif a lansiwyd ar gychwyn y prosiect, ac a gynorthwyodd nifer o fuddiannau cymunedol eraill.

  • Mae’r dechnoleg arloesol yn dal dŵr glaw ac yn amddiffyn yr amgylchedd lleol
  • Hwn yw’r 'Prosiect Seilwaith Gwyrdd' cyntaf o'i fath yn y DU
  • Mae’r cwmni nid-er-elw wedi buddsoddi £115 miliwn ar draws Llanelli a Thre-gŵyr
  • Dyfarnwyd £11,000 i grwpiau cymunedol lleol at achosion da

Yn 2012, lansiodd Dŵr Cymru ei raglen 'GlawLif' arloesol, sy'n rheoli dŵr wyneb ac yn lliniaru llifogydd carthion. Rhwng 2012 a 2020 buddsoddwyd dros £115 miliwn yn Llanelli, Porth Tywyn a Thre-gŵyr ac mae hynny wedi cadw digon o ddŵr wyneb i lenwi 600 o byllau nofio maint Olympaidd allan o'r rhwydwaith dŵr gwastraff.

Gyda chymorth ein contractwyr partner, Morgan Sindall, mae Dŵr Cymru wedi cwblhau 36 o brosiectau GlawLif yn ardal Llanelli ers dechrau'r prosiect. Mae hyn yn cynnwys gosod tua 14 milltir o bibellwaith newydd a draeniau yn y cyrbiau, twnelu ychydig yn llai nag un filltir o dan y ddaear i greu carthffosydd dŵr glaw, a phlannu bron i 10,000 o blanhigion a choed mewn pantiau, cafnau plannu a basnau. Mae'r holl ymyraethau hyn yn arafu cyflymdra llif y dŵr i mewn i'r rhwydwaith trwy ei ddargyfeirio i afonydd a chyrsiau dŵr lleol, a'i gadw draw yn llwyr mewn rhai achosion.

Er mwyn cynnwys y gymuned leol yn y prosiect cyffrous yma, creodd Dŵr Cymru dair ysgol GlawLif, sef Ysgol Gynradd Stebonheath (sydd yn y llun uchod), Ysgol Gynradd Gymunedol Halfway, ac Ysgol Gynradd Dafen. Cafodd dros 1,144 o ddisgyblion yn Llanelli sesiynau addysg am fanteision y rhaglen gan dîm Addysg Dŵr Cymru.

Yn Ysgol Gynradd Stebonheath, bu’r cwmni’n gweithio gyda’r disgyblion a’r athrawon, ac mae'r buddsoddiad wedi trawsnewid y maes chwarae trwy ymgorffori pwll, pant (sianel llawn llystyfiant), amrywiaeth o goed a phlanhigion, cafnau plannu, ardal addysg awyr agored a chasgenni casglu dŵr yno. Mae'r nodweddion hyn yn helpu i amsugno'r dŵr wyneb oedd yn arfer rhedeg yn syth oddi ar y maes chwarae i mewn i'r rhwydwaith o garthffosydd.

Dywedodd Steve Wilson, Rheolwr Gyfarwyddwr Dŵr Gwastraff, Cwsmeriaid Busnes ac Ynni Dŵr Cymru: “Rydyn ni'n falch iawn o'n prosiectau GlawLif yng nghymuned Llanelli, a nhw yw’r cyntaf o'u math yn y DU. Erbyn hyn mae GlawLif yn atal tua 1.5 miliwn metr ciwbig y flwyddyn rhag mynd i rwydwaith carthffosiaeth Llanelli, sy'n golygu nad yw'r dŵr glaw yma'n cael ei bwmpio a'i drin yn ddiangen, a'i fod yn mynd yn syth ôl i'r amgylchedd".

Dywedodd y Cynghorydd John Jenkins, a dderbyniodd gyllid ar ran Prosiect yr Ardd Rosod, "Grŵp cymunedol lleol bendigedig sydd wedi adfywio hen ardd rosod yw Prosiect yr Ardd Rosod. Bydd cefnogaeth GlawLif Dŵr Cymru'n sicrhau bod ffynonellau dŵr cynaliadwy'n cael eu defnyddio i gynnal yr ardd, a bod llai o ddŵr yn mynd i'r garthffos gyhoeddus, gan wneud y prosiect hyd yn oed yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.”