Adfer Llyn Brân


19 Rhagfyr 2022

Mae Dŵr Cymru newydd gwblhau prosiect i ddychwelyd Llyn Brân i fod yn lyn naturiol eto.

Crëwyd Llyn Brân ger Bylchau yn Sir Ddinbych i gyflenwi hen Ysbyty Sir Ddinbych, ond nid oes ei hangen fel adnodd dŵr mwyach ar ôl i’r ysbyty gau ym 1995. Penderfynodd Dŵr Cymru, ar y cyd â Chyfoeth Naturiol Cymru, i gael gwared ar y rhan o’r gronfa a ddyrchafwyd yn artiffisial gan ei dychwelyd i gyflwr llyn naturiol. Mae’r llyn yn gartref i lygod dŵr, madfallod cyffredin a nifer o rywogaethau o adar a phlanhigion, yn ogystal â chynefinoedd pwysig a dyddodion mawn dwfn.

Cwblhawyd y gwaith wedi nifer o arolygon ecolegol ac ymchwiliadau safle a gyflawnwyd ers 2018 er mwyn sicrhau ei fod yn cael cyn lleied o effaith â phosibl ar y safle. Cafodd y gwaith o ostwng lefel y gronfa a’i dadgomisiynu ei gyflawni rhwng Mai a Hydref 2022, a thynnwyd strwythur yr argae hefyd. Nawr mae gweddill y llyn naturiol yn llifo fel yr oedd yn arfer gwneud cyn i’r argae gael ei adeiladu. Daw hyn â nifer o welliannau i gynefinoedd yr ardal hefyd, gan gynnwys datguddio ardal helaeth o fawndir oedd yn arfer bod dan ddŵr, ac adleoli planhigion dyfrol prin o Lyn Anafon ym Mynyddoedd y Carneddau. Bydd y gwaith yn helpu i wella mudiad pysgod ac yn cynnal cynefin y llygod dŵr, yn ogystal â gwneud cyfraniad sylweddol at adfer glan y llyn.

Dywedodd Pennaeth Diogelwch Argaeau Dŵr Cymru, Andrew Bowen: “Roedd Llyn Brân wedi bod yn cyflenwi Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych â dŵr ffres a glân am flynyddoedd lawer nes i’r ysbyty gau, ond nid yw’n rhan o’n cynllun adnoddau dŵr mwyach. Fel cwmni sydd wedi ymrwymo i amddiffyn yr amgylchedd, yr ateb gorau yw adfer y llyn i’w gyflwr gwreiddiol fel yr oedd cyn adeiladu’r argae ym 1896.

“Rhoddodd adferiad Llyn Brân gyfle da i ni wella bioamrywiaeth yn yr ardal trwy adfer llwybr naturiol yr afon, ac adleoli planhigion dyfrol prin o Lyn Anafon.”

Mae’r llyn naturiol yn llai o ran maint na’r hen gronfa ddŵr, ac yn rhan o’r prosiect mae’r llystyfiant newydd wedi cael ei blannu ar rannau o’r glannau er mwyn cynorthwyo aildyfiant. Nawr bod lefelau’r dŵr yn disgyn, gallai’r safle edrych yn ddigon mwydlyd ar y cychwyn. Fodd bynnag, ymhen tymor o dyfu bydd y matiau hadu’n dechrau tyfu gan ail-orchuddio’r ardal hon. Daw Llyn Brân yn Ardal Gadwraeth Arbennig yn y pendraw. Bydd Dŵr Cymru’n parhau i fonitro a rheoli ecoleg y safle dros nifer o flynyddoedd er mwyn sicrhau bod y safle’n dychwelyd i’w gyflwr naturiol ac yn cynnal ecoleg unigryw’r safle.

Ychwanegodd Andrew Bowen: “Rydyn ni wedi bod yn gweithio’n galed i ddiogelu’r amgylchedd yn ystod y prosiect yma. Cafodd y llygod dŵr eu symud o Lyn Brân yn ystod y gwaith, a byddan nhw’n dychwelyd i’w cynefin naturiol yn y gwanwyn mewn pryd ar gyfer y tymor bridio. Bydd Dŵr Cymru’n parhau i fonitro ansawdd y dŵr yn y llyn yn fisol hefyd.”