Gwnewch yn siŵr nad yw eich bwyd Nadolig yn rhwystro’r garthfos dros gyfnod yr Ŵyl


23 Rhagfyr 2021

Mae Dŵr Cymru yn rhybuddio aelwydydd, tafarndai a bwytai y gallai gwaredu braster twrci, grefi a bwyd arall sydd dros ben i lawr y plwg dros y Nadolig achosi trychineb.

Dŵr Cymru yw’r unig gwmni dŵr nid-er-elw yng Nghymru a Lloegr ac mae’n annog ei gwsmeriaid i stopio a meddwl am yr hyn y maen nhw’n yn ei arllwys i lawr y sinc, yn enwedig dros gyfnod yr ŵyl pan fydd y cwmni'n gweld cynnydd mewn braster, olew a saim yn blocio'r carthffosydd bob blwyddyn.

Gall pibellau carthffos wedi'u rhwystro gynyddu'r perygl y bydd cartrefi a busnesau'n dioddef llifogydd carthion. Hefyd, gall bwyd dros ben seimllyd flocio draeniau eiddo, gan arwain at gostau wrth orfod galw ar rywun i lanhau'r llanastr.

Dywedodd Pennaeth Rhwydweithiau Gwastraff Dŵr Cymru, Paul Kingdon:  "Gall braster, olew a saim o gartrefi a busnesau achosi problemau mawr i ddraeniau a charthffosydd. Efallai nad ydyn nhw’n ymddangos yn niweidiol, ond pan fyddan nhw’n mynd drwy'r system ddraenio maen nhw’n casglu, yn caledu ac yn glynu wrth y tu mewn i bibellau sy'n arwain at rwystrau. Bob mis, rydym yn ymdrin â 2,000 o rwystrau sy’n costio dros £3 miliwn o bunnoedd y flwyddyn i ni eu clirio.

"Sychwch eich sosbenni ac eitemau seimllyd eraill gyda phapur cegin cyn eu golchi. Rhowch y papur cegin yn y bin a thywalltwch unrhyw olew coginio a ddefnyddir mewn i gynhwysydd i'w waredu – neu ei ailgylchu os bydd eich awdurdod lleol yn caniatáu hynny.

"Os bydd pawb yn cymryd camau ac yn gwneud y peth iawn, byddwn ni yn Dŵr Cymru yn gallu lleihau'r rhwystrau, y llifogydd a'r llygredd sy'n achosi cymaint o ofid. Bydd lleihau'r rhwystrau hyn hefyd yn golygu y bydd ein cwmni nid-er-elw yn gallu buddsoddi mwy mewn gwelliannau eraill ar ran ein cwsmeriaid. Gyda'n gilydd, we can gallwn stopio’r bloc."

Ffeithiau Braster

  • Mae Dŵr Cymru yn gwario tua £3 miliwn y flwyddyn yn clirio rhwystrau y gellid bod wedi’u hosgoi mewn carthffosydd – caiff y gost ei throsglwyddo i gwsmeriaid drwy filiau carthffosiaeth.
  • Mae tua dwy ran o dair o flociau carthffosydd ar rwydwaith Dŵr Cymru yn cael eu hachosi gan sylweddau amhriodol fel braster, olew a saim, weips a chynhyrchion mislif yn cael eu fflysio i lawr y toiled.
  • Mae braster, olew a saim sy’n cronni yn gyfrifol yn anuniongyrchol am lawer o achosion llifogydd carthffosydd a llygredd afonydd a nentydd.
  • Os gwnawn ni i gyd gymryd gofal i beidio â rhoi ein bwyd dros ben seimllyd yn y system garthffosiaeth, bydd nifer y cwsmeriaid fydd yn dioddef llifogydd a'r effaith ar ein hamgylchedd yn lleihau'n sylweddol.

Ffeithiau llifogydd:

  • Fel arfer, nid yw draeniau o'r cartref yn fwy na phedair modfedd (100mm) o led.
  • Os oes rhwystr neu nam yn eich draen breifat, bydd angen i chi dalu contractwr draenio i'w glirio neu ei atgyweirio. Cynnal a chadw carthffosydd cyhoeddus yw unig gyfrifoldeb cwmnïau carthffosiaeth.
  • Os oes carthion wedi gorlifo yn eich eiddo o garthffos gyhoeddus, dylai'r cwmni anfon rhywun i helpu i lanhau eich cartref cyn gynted â phosibl.
  • Mae gennych hawl i ad-daliad oddi ar eich bil carthffosiaeth blynyddol i dalu am ddifrod i'r tu mewn i'ch cartref a achoswyd gan lifogydd o'r garthffos gyhoeddus.
  • Cofiwch wirio a yw eich yswiriant cartref yn cynnwys difrod o lifogydd carthffosydd.