Dŵr Cymru ar frig tabl perfformiad amgylcheddol


8 Gorffennaf 2021

Mae Dŵr Cymru wedi diogelu'r sgôr uchaf mewn asesiad annibynnol blynyddol o berfformiad cwmnïau dŵr a charthffosiaeth wrth amddiffyn a chyfoethogi'r amgylchedd.

Llwyddodd yr unig gwmni dŵr nid-er-elw yng Nghymru a Lloegr i ennill 4*, sef y sgôr orau sydd ar gael, ar ôl llwyddo i gyflawni neu ragori ar y targedau a bennwyd o ran perfformiad amgylcheddol. Cyfoeth Naturiol Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd sy'n cyflawni'r asesiad, a elwir yn Asesiad o Berfformiad Amgylcheddol (EPA).

Trwy ddiogelu'r radd uchel yma, mae Dŵr Cymru'n ennill cydnabyddiaeth fel arweinydd y diwydiant wrth sicrhau bod ei waith – sef darparu dŵr yfed a thrin a dychwelyd dŵr gwastraff o dros 1.4 miliwn o aelwydydd a busnesau ar draws y rhan fwyaf o Gymru i'r amgylchedd – yn cael effaith ddigon gyfyngedig ar amgylchedd yng Nghymru. Mae'r asesiad yn mesur y gwahanol gwmnïau yn erbyn meini prawf penodol, sy'n cynnwys mesur nifer y digwyddiadau o lygredd ac ansawdd gyffredinol y dŵr gwastraff sy'n cael ei ddychwelyd i'r amgylchedd.

Mae'r sgôr ddiweddaraf yn adeiladu ar y sgôr o 3* a gafodd y cwmni'r llynedd, a chyflawnwyd hyn er gwaethaf un o'r blynyddoedd mwyaf ymestynnol o safbwynt y tywydd. Yn 2020, gwelodd y DU naw digwyddad storm a enwyd, a hi oedd y flwyddyn fwyaf gwlyb a gofnodwyd ers 1910. Yn Chwefror yn unig gwelwyd record glawiad wrth i Storm Dennis daro gan achosi llifogydd mewn miloedd o gartrefi a busnesau. Er gwaethaf effeithiau'r tywydd, llwyddodd asedau'r cwmni i barhau i weithredu ac amddiffyn yr amgylchedd.

Mae'r asesiad yn cydnabod buddsoddiad ehangach y cwmni yn ei asedau, sydd wedi dod â manteision amgylcheddol ehangach yn y maes. Mae hyn wedi cynnwys gosod technoleg clirio ffosfforws mewn rhagor o weithfeydd trin dŵr gwastraff, sicrhau gostyngiad yn nifer yr achosion o ryddhau o orlifoedd storm cyfun (CSO) a chynyddu nifer y CSOs ag offer monitro. Eleni mae'r cwmni wedi cyhoeddi ei fwriad i ddod yn gwmni carbon net-sero erbyn 2040.

Er bod y cwmni'n croesawu'r sgôr 4*, mae'n cydnabod bod yna rhagor y mae angen ei wneud i helpu i leihau ei effaith amgylcheddol. Mae hyn yn cynnwys rhagor o fuddsoddiad mewn CSOs sy'n rhyddhau dŵr gwastraff wedi ei wanhau i afonydd ac yn atal carthffosiaeth rhag gorlifo i mewn i gartrefi cwsmeriaid mewn cyfnodau o law trwm. Mae CSOs yn rhan o'r rhwydwaith carthffosiaeth y mae Dŵr Cymru wedi ei etifeddu, gyda rhai rhannau ohono'n dyddio nôl i Oes Fictoria. Gyda'r ddeddfwiraeth amgylcheddol yn tynhau, a disgwyliadau cwsmeriaid yn newid, mae hi'n naturiol bod yna rhagor o graffu ar weithrediad y CSOs.

Ers 2015, mae Dŵr Cymru wedi buddsoddi £8.1 miliwn er mwyn gwella'r prosesau ar gyfer monitro CSOs ac erbyn hyn mae ganddo offer monitro gorlif ar dros 90% o'i holl CSOs. Mae'r teclynnau monitro'n recordio nifer y gorlifoedd a'u hyd, wedyn gellir defnyddio'r data i glustnodi os nad ydynt yn gweithio fel y dylent, ac mae hynny’n helpu’r cwmni i ganolbwyntio’i waith buddsoddi ar wella'r rheiny.

Dywedodd Prif Weithredwr Dŵr Cymru, Peter Perry: “Fel cwmni sydd wedi ymrwymo i amddiffyn a chyfoethogi'r amgylchedd sydd yn ein gofal, rydyn ni wrth ein boddau i gael sgôr o 4*. Mae hyn yn destament i'r holl gydweithwyr sy'n gweithio rownd y cloc, saith diwrnod yr wythnos er mwyn sicrhau y gall ein hasedau weithredu'n effeithiol, nid dim ond i ddarparu ein gwasanaethau hanfodol ar gyfer cwsmeriaid, ond i amddiffyn yr amgylchedd hefyd.

“Rydyn ni'n gwybod nad oes unrhyw le i laesu dwylo yma, ac mae llawer o waith o'n blaenau o hyd. Dyna pam fod gennym gynlluniau buddsoddi uchelgeisiol a fydd yn cyflawni prosiectau fel gosod technoleg clirio ffosfforws mewn 21 safle pellach, a buddsoddi dros £80 miliwn ar waith pellach i atal gorlifoedd o'r CSOs. Ond rydyn ni’n awyddus i weithio mewn ffordd fwy cydweithredol â grwpiau amgylcheddol a phobl eraill sydd â buddiant hefyd i ddatblygu mentrau cynaliadwy er mwyn cyfoethogi'r amgylchedd eto fyth."