Dŵr Cymru’n ennill cydnabyddiaeth am arloesi a thrawsnewid


4 Hydref 2021

Mae ffocws Dŵr Cymru ar arloesi a thrawsnewid wedi denu cydnabyddiaeth mewn dwy seremoni wobrwyo'r wythnos hon diolch i waith y cwmni ar raglen newid helaeth â'r nod o foderneiddio, digideiddio ac awtomeiddio ei wasanaethau.

Mae'r cwmni, yr unig gwmni dŵr nid-er-elw yng Nghymru a Lloegr, wedi cael ei wobrwyo am ei waith i wella gwasanaethau ar gyfer cwsmeriaid a chyfoethogi technoleg ar gyfer ei gydweithwyr.

Cipiodd y Tîm Trawsnewid y wobr aur yng nghategori 'Tîm Trawsnewid y Flwyddyn’ y Gwobrau Canolfannau Cysylltu Cenedlaethol am gyflwyno cyfres o wasanaethau digidol â'r bwriad o wella'r profiad i gwsmeriaid. Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnwys:

  • Un gwasanaeth diogel ar lein o'r enw 'Fy Nghyfrif' lle gall cwsmeriaid reoli eu cyfrifon, gweld eu biliau, a thracio gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth.
  • Porth 'Tracio Fy Ngwaith' lle gall cwsmeriaid gyfathrebu â pheirianwyr sydd ar eu ffordd i wneud gwaith, a thracio pa mor bell i ffwrdd y maen nhw ar unrhyw adeg.
  • Ffurflenni gwe awtomataidd sy'n caniatáu i gwsmeriaid gyflawni tasgau eu hunain, fel diweddaru manylion cyfrif, diwygio manylion talu, cyflwyno darlleniadau o fesuryddion, ymuno â'r gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth am ddim, neu wneud cais am gymorth ariannol.
  • Sgwrsfot sy'n cael ei bweru gan AI, a gwasanaeth sgwrs fyw sy'n caniatáu i gwsmeriaid gael atebion i gwestiynau syml ar sianel o'u dewis yn gynt.

Cafodd y cwmni glod uchel yng nghwobrau ERP Today yr wythnos hon hefyd am ei waith ar y cyd â Capgemini i gyfoethogi gwaith eu timau o weithwyr allweddol hanfodol. Mae timau'r rheng flaen wedi cael hwb i'w galluedd diolch i raglen arloesol 'TG Digidol yn y Maes' Dŵr Cymru.

Dywedodd Sam James, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cwsmeriaid Domestig: “Nid ar chwarae bach mae cyflawni rhaglen newid helaeth mewn busnes mawr sy'n darparu gwasanaeth hanfodol. Mae hi wastad wedi bod yn bwysig i ni edrych ar unrhyw waith trawsnewid o safbwynt y cwsmer – a mater o greu ac addasu gwasanaethau i wneud pethau'n gynt, yn symlach ac yn haws yw hi i ni.

“Mae'r tîm Trawsnewid wedi gwneud gwaith gwych hyd yn hyn, ac mae rhagor o lawer i ddod. Rydyn ni i gyd yn falch bod eu gwaith caled a'u penderfyniad hynod i wneud y peth iawn dros ein cwsmeriaid wedi ennill cydnabyddiaeth trwy'r gwobrau hyn."