Dŵr Cymru'n dathlu 20 mlynedd fel cwmni nid-er-elw trwy gyfrannu £100,000 at fanciau bwyd lleol


11 Mai 2021

Mae Dŵr Cymru'n dathlu 20 mlynedd ers iddo ddod yn gwmni cyfleustod nid-er-elw – y cyntaf a'r unig un o’i fath yng Nghymru a Lloegr hyd heddiw – trwy gefnogi gwaith banciau bwyd a grwpiau cymunedol lleol.

Cwmni un-pwrpas a ffurfiwyd i fod yn berchen ar, rheoli ac ariannu Dŵr Cymru oedd Glas Cymru. Yn 2001, caffaeliodd Glas fusnes y cwmni dŵr a charthffosiaeth Dŵr Cymru mewn bargen a ariannwyd yn llwyr trwy gyllid bond – a nodwyd taw hwn oedd y dosbarthiad bondiau an-sofran mwyaf ar y pryd.

Dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae dros £440 miliwn – a fyddai wedi mynd i bocedi cyfranddeiliaid mewn cwmnïau eraill – wedi cael eu dosbarthu ar ffurf dychwelyd gwerth er budd y cwsmeriaid. Mae hyn wedi galluogi'r cwmni:

  • i gadw'r cynnydd mewn biliau yn is na chyfradd chwyddiant yr RPI bob blwyddyn ers 2010 – nid oes unrhyw gwmni dŵr arall yng Nghymru a Lloegr wedi llwyddo i gyflawni hyn
  • i ddarparu cymorth sy’n arwain yn y diwydiant ar gyfer dros 140,000 o'i gwsmeriaid mwyaf bregus
  • i fuddsoddi dros £1 biliwn mewn systemau dŵr gwastraff er mwyn helpu i wella ansawdd ein dyfroedd ymdrochi sy'n chwarae rhan mor bwysig yn y diwydiant twristiaeth – gan Gymru mae traean o holl draethau 'Baner Las' y DU erbyn hyn, er taw cwta 15% o'r arfordir sydd yng Nghymru
  • i ddarparu rhaglen addysg yn y gymuned sydd wedi estyn allan at dros 600,000 o ddisgyblion

Mewn ymateb i'r pandemig Covid, cynyddodd y cwmni ei gymorth i gwsmeriaid ymhellach trwy drefnu cynlluniau talu hyblyg ar gyfer cwsmeriaid domestig sy'n ei chael hi'n anodd talu eu biliau dŵr. Mae'r cwmni wedi ychwanegu 330,000 yn rhagor o gwsmeriaid at ei Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth dros dro hefyd, ac er mwyn cydnabod yr effaith ar fusnesau, ataliwyd biliau 45,000 o gwsmeriaid busnes a orfodwyd i gau yn ystod y cyfnod clo cyntaf dros dro. Mi wnaeth hefyd gwneud cyfraniad tuag at pob banc bwyd yng Nghymru er mwyn rhoi cymorth i cwsmeriaid a effeithiwyd gan cyfyngiadau’r pandemig.

I ddathlu pen-blwydd Glas Cymru'n ugain oed, mae Dŵr Cymru wedi penderfynu cefnogi gwaith anhygoel banciau bwyd lleol yn ystod y pandemig trwy gyfrannu £100,000 at 100 o wahanol fanciau bwyd ar draws y cymunedau y mae'n eu gwasanaethu. Yn rhan o'i Gronfa Gymunedol, bydd yn creu 'cronfa fach' o £10,000 ar gyfer yr wythnos, a chaiff sefydliadau a grwpiau cymunedol nid-er-elw wneud cais am gyllid at achosion da yn eu hardaloedd lleol, a gall ysgolion wneud cais am becyn gwyddoniaeth arbennig i gynorthwyo addysg y disgyblion.

Dywedodd Peter Perry, Prif Weithredwr Dŵr Cymru:

“Yn ystod yr ugain mlynedd ers i Glas Cymru gaffael Dŵr Cymru a thorri tir newydd gyda'i fodel perchnogaeth nid-er-elw yn y sector dŵr, mae hi wedi profi gwerth y model trwy ddarparu darbodaeth ariannol, meithrin hyder, denu staff a darparu gwerth £450m o fuddion uniongyrchol i gwsmeriaid. Mae heddiw llawn gymaint am ein cwsmeriaid a'r cymunedau a wasanaethwn, a dyna pam ein bod ni wedi penderfynu cefnogi'r banciau bwyd sy'n wynebu galw aruthrol am eu gwasanaethau yn wyneb y pandemig a'r tu hwnt i hynny.”

“Mae ein ffocws ar y tymor hir ac mae gennym gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod. Bydd model Glas yn esblygu er mwyn codi i'r sialensiau a'r amgylchiadau newydd sy’n dod i’r fei. Bydd yn cadw i fyny â’r materion sy’n wynebu’r gymdeithas a phryder cynyddol ein cwsmeriaid am y newid yn yr hinsawdd a'r awydd i fuddsoddi ar gyfer y tymor hir, a llesiant cenedlaethau'r dyfodol fydd bennaf yn hynny o beth."

Dywedodd Alistair Lyons CBE, Cadeirydd Glas Cymru:

“Fel Bwrdd, rydyn ni'n falch o’r hyn rydym wedi ei gyflawni dros yr 20 mlynedd diwethaf diolch i’n model busnes nid-er-cyfranddeiliaid. Er bod yna ddigonedd i'w ddathlu am y gorffennol, mae yna lawer i edrych ymlaen ato, ac i gynllunio ar ei gyfer, yn y dyfodol hefyd. Mae gwytnwch tymor hir asedau, mwy o uchelgeisiau amgylcheddol, a chynlluniau i sicrhau gwerth am arian ar gyfer ein cwsmeriaid ynghyd â gwasanaeth mwy personol ymysg y ffyrdd y mae Dŵr Cymru'n buddsoddi at y tymor hir.”

Mae Dŵr Cymru'n gwahodd cwsmeriaid i chwarae rhan yn y dathliadau ar y cyfryngau cymdeithasol gan ymuno yn y gweithgareddau '20 am 20' dyddiol. Chwiliwch Dŵr Cymru Welsh Water am ragor o fanylion.