Mynychodd dros 80 o ddatblygwyr eiddo ac aelodau o gymdeithasau tai fforwm datblygwyr Dŵr Cymru'r wythnos ddiwethaf. Roedd y fforwm ar lein am y tro cyntaf, ac roedd yn cynnwys siaradwyr o Ofwat a Llywodraeth Cymru.
Cyn y pandemig, rhan allweddol o raglen gyswllt Dŵr Cymru â'i gwsmeriaid datblygu oedd cynnal dau achlysur y flwyddyn i gwrdd â nhw, sef y fforymau datblygwyr.
Mae'r achlysuron hyn yn cynnwys diweddariadau ar feysydd allweddol sy’n flaenoriaeth i gwsmeriaid, fel y rheoliadau newydd a’r gwelliannau y mae Dŵr Cymru wedi eu gwneud i'w gwasanaethau, a chasglu adborth gwerthfawr ar sut mae datblygwyr yn ei deimlo am y broses newydd ar gyfer cysylltiadau dŵr a charthffosiaeth newydd.
Eleni, roedd y pynciau a drafodwyd yn y fforwm rhithwir a gynhaliwyd ar Microsoft Teams yn amrywio o ddŵr wyneb ac SABs, sut mae Dŵr Cymru wedi addasu i barhau â'i gefnogaeth i gwsmeriaid datblygu yn ystod y pandemig, y gwelliannau y mae Dŵr Cymru wedi eu gwneud i'w broses mabwysiadu mewn ymateb i adborth gan gwsmeriaid, a'i fuddsoddiad parhaus mewn porth newydd i ddatblygwyr sy'n caniatáu i gwsmeriaid gyflwyno ceisiadau a'u tracio ar lein am y tro cyntaf.
Dywedodd Ian Wyatt, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cwsmeriaid Busnes Dŵr Cymru: "Rydyn ni'n falch fod gennym brofiad cadarn o ymgysylltu â’n cwsmeriaid datblygu. Er bod COVID-19 wedi newid ein dull o fynd ati i gynnal achlysuron, mae hi wedi cadarnhau hefyd pa mor bwysig yw hi i ni gynnal cysylltiadau rheolaidd â'n cwsmeriaid datblygu wrth iddynt addasu at gyfyngiadau newydd y llywodraeth.
"Hoffem ddiolch i bawb a fynychodd y fforwm am ei gwneud yn llwyddiant, yn ogystal â'n siaradwyr gwadd am ein diweddaru ar feysydd allweddol fel safonau systemau draenio cynaliadwy a phrisiau gwasanaethau datblygu."