Daeth y cwmni gam yn nes at gwblhau safle ger Dinas Powys a fydd yn cynhyrchu ynni gwyrdd, glân o garthion.
Mae Dŵr Cymru yn buddsoddi dros £50 miliwn er mwyn creu gwaith cynhyrchu ynni newydd yng Ngwaith Trin Dŵr Gwastraff Rhostir Cog. Erbyn hyn, mae wedi dechrau comisiynu’r Treulydd Anaerobig Uwch (AAD), sy’n adfer ynni o’r gwastraff a brosesir ar y safle ac yn ei ddefnyddio i gynhyrchu trydan.
Bydd y Treulydd yn ychwanegu at waith y Treulydd Anaerobig sydd eisoes ar y safle fel y gellir adfer rhagor o nwy – a elwir yn bio-nwy – o’r gwastraff. Yna, defnyddir y bio-nwy a gaiff ei adfer mewn peiriannau i gynhyrchu’r trydan.
Pan fydd yn barod, bydd yr offer AAD yn cynhyrchu digon o ynni i bweru’r gwaith trin gan ei wneud yn safle ynni-niwtral. Bydd yn cynhyrchu yr un faint o ynni ag sydd angen i bweru 4,800 o gartrefi.
Tra bydd y Treulydd newydd yn cael ei gomisiynu, bydd y cwmni dŵr nid-er-elw yn cwblhau ei waith ar y safle – sy’n cynnwys adfer y tir o gwmpas yr offer newydd – a disgwylir y bydd wedi’i gwblhau erbyn diwedd Mai 2021.
Dywedodd Shaun O’Leary, Rheolwr Cyflenwi Rhaglenni Dŵr Cymru: “Bydd y treulydd anaerobig uwch yn Rhostir Cog yn gwella’r ffordd rydym yn trin y dŵr gwastraff ar y safle ac yn ein helpu i leihau maint ein hôl troed carbon trwy gynhyrchu ynni adnewyddadwy. Bydd hefyd yn helpu i gadw biliau cwsmeriaid yn isel gan y byddwn yn defnyddio ein hynni ni ein hunain i helpu i bweru’r gwaith trin.
“Rydym wedi bod yn gweithio yn Rhostir Cog ers 2018, ac mae’n bleser gennym ddweud bod y gwaith yn tynnu at y terfyn. Bydd y broses newydd i adfer ynni o’r gwastraff a brosesir yn gweithio’n llawn ar ôl cwblhau’r broses gomisiynu, yn ystod y gwanwyn mae’n debyg.
“Ar safle’r gwaith trin y gwnaed y rhan fwyaf o’r gwaith ac nid yw wedi amharu ar rywogaethau a warchodir na safleoedd pwysig o ran cadwraeth natur yn y cylch. Rydym wedi cadw mewn cysylltiad â phobl yr ardal trwy gydol y prosiect a hoffem fanteisio ar y cyfle i ddiolch iddynt am fod yn amyneddgar tra buom yn gwneud y gwaith.”
Mae Dŵr Cymru, fel cwmni, yn un o ddefnyddwyr ynni mwyaf Cymru, yn rhedeg ac yn cynnal rhwydwaith o 27,500km o brif bibellau dŵr, dros 30,000km o garthffosydd, 838 o weithfeydd trin carthion a 66 o gronfeydd cronni. Dros y blynyddoedd diwethaf, bu’r cwmni’n edrych ar ffyrdd o gynhyrchu trydan ar ei safleoedd. Ar hyn o bryd, mae’n cynhyrchu 25% o’r ynni y mae arno ei angen gan ddefnyddio’r gwynt, dŵr, yr haul a threulio anaerobig uwch, a’r bwriad yw cynyddu hyn i 35% erbyn 2025.
Mae’r prosiect buddsoddi hwn yng Ngwaith Trin Dŵr Gwastraff Rhostir Cog yn rhan o ymrwymiad y cwmni i fod yn gwmni carbon sero-net erbyn 2050. Hyd yma, mae’r cwmni wedi buddsoddi dros £200 miliwn mewn offer AAD ledled Cymru gan helpu i reoli effeithiau newidiadau yn yr hinsawdd a lleihau maint ei ôl-troed carbon.