Mae prosiect i gefnogi pobl sydd wedi cael problemau iechyd meddwl yn ystod pandemig Covid-19 wedi cael cymorth o gronfa gymunedol sy’n cael ei rhedeg gan Dŵr Cymru.
Bu’r cwmni dŵr nid-er-elw yn gweithio mewn partneriaeth â’r Cheshire Community Foundation i helpu prosiect a fu’n gweithio’n galed yn ystod y pandemig i gynnig help llaw i bobl yng Nghaer ac Ellesmere Port sydd wedi’i chael yn anodd yn ystod y cyfnodau clo.
Chester FC Mental Health & Wellbeing Football sy’n rhedeg y prosiect sydd eisoes wedi ennill gwobrau am gefnogi dynion a menywod sydd wedi cael problemau iechyd meddwl.
Gan fod cyfyngiadau Covid-19 wedi rhoi stop ar weithgareddau wyneb-yn-wyneb, aeth y clwb ati i sefydlu cynllun cyswllt cymunedol i gefnogi pobl sy’n gweld eisiau cael cysylltiad â phobl eraill yn ystod y pandemig. Mae’r prosiect yn cynnwys cyfle i sgwrsio dros y ffôn, cynllun cyfeillio, cymorth ymarferol â thasgau hanfodol ac adnoddau i hybu iechyd corfforol ac iechyd meddwl.
Defnyddiodd y clwb yr arian i ddarparu adnoddau a gweithgareddau i helpu pobl i ofalu am eu lles corfforol a meddyliol yn eu cartrefi yn ystod y cyfnodau clo. Roedden nhw’n trefnu galwadau Zoom rheolaidd, yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i gadw pobl mewn cysylltiad â’i gilydd ac yn cynnig siopa am bethau hanfodol a chasglu presgripsiynau i bobl oedd yn gorfod gwarchod eu hunain.
Dywedodd Jim Green, Prif Weithredwr yr Ymddiriedolaeth: “Bu cymorth Dŵr Cymru’n help enfawr i’n haelodau ni, gan ein helpu i addasu’n gwasanaethau mewn ymateb i Covid-19. Bu’n gyfnod eithriadol o anodd i bobl oedd eisoes yn teimlo’n ynysig ac yn cael problemau iechyd meddwl. Maen nhw wrth eu bodd â phêl-droed ac mae’r lles y mae’r gêm yn ei wneud iddyn nhw yn ymestyn ymhell y tu hwnt i’r cae chwarae: mae’n rhwydwaith sy’n eu cefnogi yn eu bywyd o ddydd i ddydd.
“Diolch i Dŵr Cymru, rydyn ni wedi gallu cadw mewn cysylltiad â’n pobl, gan gynnig help yn ôl yr angen a sicrhau y gallwn fynd yn ôl i chwarae pêl-droed yn ddiogel pan ddaw’r cyfyngiadau i ben. ac mae hynny’n hollbwysig iddyn nhw.”
Dywedodd Claire Roberts, Pennaeth Ymgysylltu Cymunedol gyda Dŵr Cymru: “Rydyn ni wrth ein bodd o gefnogi Clwb Pêl-droed Caer gyda’r prosiect hwn sy’n cefnogi pobl fregus yn ystod y pandemig. Mae iechyd meddwl yn fater pwysig, yn enwedig yn ystod y cyfnod anodd hwn. Mae’r clwb yn cynnig gwasanaeth hanfodol i helpu pobl dros gyfnod y pandemig a gan ein bod ni’n gwmni nid-er-elw, y cwsmeriaid sydd wrth galon ein holl waith. Trwy weithio mewn partneriaeth fel hyn, rydyn ni’n gallu defnyddio’r gronfa i roi rhywbeth yn ôl i’r cymunedau lle rydyn ni’n gweithio.”