Dŵr Cymru'n rhoi hwb i amgylchedd Treuddyn


2 Medi 2021

Mae'r amgylchedd lleol mewn ardal o bentref Treuddyn, Sir y Fflint, wedi cael hwb wrth i'r cwmni dŵr nid-er-elw, Dŵr Cymru, gwblhau cynllun buddsoddi yno.

Yn rhan o'i ymrwymiad i amddiffyn yr amgylchedd, mae'r cwmni wedi buddsoddi tua hanner miliwn o bunnoedd mewn prosiect a fydd yn gwella'r rhwydwaith o garthffosydd yn yr ardal.

Nid oedd rhai cartrefi yn yr ardal yn gallu cysylltu â'r brif rwydwaith carthffosiaeth cyn cyflawni’r prosiect, a bu angen iddynt ddibynnu ar danciau septig a oedd yn diffygio'n aml. Roedd hyn, yn ei dro, yn peri risg o lygru'r amgylchedd cyfagos. Roedd y ffaith fod y tanciau'n diffygio'n mynd yn groes i reolau rhwymol cyffredinol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) sy'n llywodraethu sut y dylai tanciau septig weithredu hefyd.

Mewn ymdrech fynd i'r afael â'r sefyllfa, ymgynghorodd y cwmni ag adran iechyd yr amgylchedd Cyngor Sir y Fflint a Chyfoeth Naturiol Cymru, cyn mynd ati i ddylunio a gosod system o garthffosydd newydd i gymryd lle'r hen danciau septig. Bydd y system garthffosiaeth newydd 240 metr o hyd yn caniatáu i'r eiddo gysylltu â'r brif rwydwaith carthffosiaeth a fydd yn beth da i'r amgylchedd lleol.

Dywedodd Sean O’Rourke, Is-reolwr Rhaglenni Dŵr Cymru: "Rydyn ni'n falch o osod yr amgylchedd wrth galon y penderfyniadau a wnawn fel busnes. Mae'r prosiect yma'n esiampl fendigedig o'n hymrwymiad i fuddsoddi'n drwm er mwyn sicrhau bod yr holl gymunedau a wasanaethwn yn derbyn gwasanaethau o'r safon uchaf, nid dim ond nawr, ond at y dyfodol hefyd.

"Rydyn ni'n gwerthfawrogi bod ein gwaith yn gallu bod yn anghyfleus ar adegau, felly roedden ni wir yn gwerthfawrogi cydweithrediad y trigolion lleol wrth i ni weithio yn eu cymuned."