Dŵr Cymru'n cwblhau prosiect £8 miliwn i uwchraddio system dŵr gwastraff yng Nghaerdydd


24 Tachwedd 2021

Mae Dŵr Cymru Welsh Water wedi cwblhau ei brosiect £8 miliwn i uwchraddio'r system dŵr gwastraff yng ngogledd Caerdydd. Bydd y gwaith buddsoddi gan y cwmni nid-er-elw yn helpu i gynyddu capasiti'r rhwydwaith o garthffosydd ac yn gwella ansawdd y dŵr sy'n cael ei ryddhau nôl i'r amgylchedd.

Roedd y gwaith, a gychwynnodd ym Mehefin 2020, yn cynnwys disodli ac ail-leinio mwy nag 800 metr o bibellau carthffosiaeth, a glanhau 733 metr o bibellau rhwng Parc Hailey a Thongwynlais. Cafodd cyfanswm o 670 tunnell o falurion eu clirio yn ystod y gwaith – tua phwysau pedwar tŷ fwy neu lai.

Oherwydd lleoliad rhai o'r pibellau carthffosiaeth, bu'r cwmni'n cydweithio'n agos â'r contractwyr Morgan Sindall, Cyngor Caerdydd, Trafnidiaeth Cymru a grwpiau cymunedol lleol er mwyn cynllunio a chyflawni'r gwaith.

Dywedodd Rheolwr Prosiect Dŵr Cymru, Andrew Davies: "Rydyn ni'n falch o gyhoeddi bod ein gwaith buddsoddi rhwng Parc Hailey a Thongwynlais wedi cael ei gwblhau. Mae'r buddsoddiad hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i ail-fuddsoddi elw'n uniongyrchol er budd cwsmeriaid a'r cymunedau a wasanaethwn, gan helpu i sicrhau ein bod ni'n darparu gwasanaeth dŵr gwastraff o'r safon uchaf ac yn amddiffyn ein hamgylchedd gwerthfawr.

"Rydyn ni'n deall bod ein gwaith wedi achosi anghyfleustra ar adegau, felly rydyn ni wir yn gwerthfawrogi amynedd y trigolion lleol, a hoffem ddiolch iddynt am eu cydweithrediad wrth i ni gyflawni ein gwaith."

Yn rhan o'r buddsoddiad yma, roedd y cwmni'n falch o'r cyfle i ddyfarnu £500 i Glwb Pêl-droed Tongwynlais Athletic (AFC) er mwyn helpu gyda thwf y clwb, ac wedi rhoi sawl cysgodfan i'r clwb er mwyn darparu lloches i’r chwaraewyr rhag y tywydd gwael.

Dywedodd Gareth Morgan, trysorydd Tongwynlais AFC: "Fel trysorydd Tongwynlais AFC, hoffwn gydnabod cefnogaeth fendigedig Dŵr Cymru i'r clwb wrth i ni geisio tyfu mewn cyfnod ymestynnol dros ben. Bydd eu cefnogaeth yn ein galluogi ni i brynu offer y mae mawr angen amdano ar gyfer seilwaith y clwb, fel baneri cornel, dillad ymarfer, yn ogystal â chloeon mwy diogel ar gyfer ein hystafelloedd newid. Diolch i bawb yn Dŵr Cymru am eich cefnogaeth a'ch rhoddion.”