Cydweithwyr Dŵr Cymru'n Helpu i Gadw Parciau Caerdydd yn Daclus


16 Medi 2021

Mae cydweithwyr o Ddŵr Cymru, yr unig gwmni dŵr nid-er-elw, wedi dod at ei gilydd yng Nghaerdydd yr wythnos hon i gymoni glannau’r Taf a Pharc Hailey yn rhan o ymgyrch wirfoddoli ar gyfer wythnos "Fi a Fy Nghymuned" y cwmni.

Cynigiwyd y digwyddiadau hyn i bawb fel cyfle i chwarae rhan yn eu cymunedau lleol er mwyn cyfoethogi a gwella'r amgylchedd.

Yn achlysur dydd Llun, llenwyd dwsinau o fagiau â sbwriel, a chliriwyd ambell i eitem fawr ac anarferol o'r ardal hefyd, gan gynnwys troli siopa. Bu tîm Dŵr Cymru'n gweithio mewn partneriaeth â Grŵp Afonydd Caerdydd, Clwb Rhwyfo Llandaf a Chyngor Caerdydd. Cynhaliwyd achlysur dydd Mawrth mewn partneriaeth â Chyngor Caerdydd a Chyfeillion Parc Hailey, ac roedd yn canolbwyntio ar gymoni dôl er mwyn cyfoethogi bioamrywiaeth ac ecoleg ardal ym Mharc Hailey. Roedd fan gymunedol Dŵr Cymru wrth law hefyd i dynnu sylw trigolion lleol at gynllun buddsoddi gwerth £8 miliwn a gyflawnwyd yn yr ardal yn ddiweddar.

Dywedodd Claire Roberts, Pennaeth Cysylltu Cymunedau Dŵr Cymru:

“Cwmni cymdeithasol gyfrifol ydym ni – dyna beth mae cwsmeriaid a chydweithwyr yn ei ddisgwyl gennym. Mater o fynd gam ymhellach dros y cymunedau a wasanaethwn yw wythnos Fi a Fy Nghymuned, a rhoi cyfle i gydweithwyr wirfoddoli a dangos y math o gwmni ydym ni. Mae'r 18 mis diwethaf wedi bod yn her, ond mae'r cyfnod yma wedi dangos pwysigrwydd ein teulu, ein ffrindiau, ein cydweithwyr a'n cymunedau i ni hefyd. Rydyn ni eisoes yn chwarae rhan allweddol yn ein cymunedau trwy ddarparu'r gwasanaeth mwyaf hanfodol ar eu cyfer – sef dŵr glân, a thrin a chael gwared ar ddŵr gwastraff yn ddiogel. Rydyn ni'n cynorthwyo mwy na 130,000 o gwsmeriaid i dalu eu biliau dŵr hefyd – mwy nag unrhyw gwmni dŵr arall.

Mae'r ymateb wedi bod yn syfrdanol hyd yn hyn, mae'n hyfryd gweld cynifer o gydweithwyr sydd eisoes mor angerddol dros wirfoddoli, a chymaint y maen nhw wedi mwynhau'r gweithgareddau sydd ar gael yr wythnos hon.”

Mae rhagor o weithgareddau ar y gweill ledled Cymru yn ystod yr wythnos, a bydd y cwmni'n dathlu ei wirfoddolwyr arwrol sydd eisoes yn rhoi’n hael o’u bywydau i wirfoddoli.