Y cynnydd ym miliau Dŵr Cymru i aros ar lefel chwyddiant neu'n is am y deuddegfed flwyddyn


3 Chwefror 2021

  • Y biliau dŵr a charthffosiaeth domestig cyfartalog i ddisgyn 2% er gwaethaf costau gweithredu uwch wrth ymateb i'r pan demig COVID-19
  • Mwy o gwsmeriaid nag erioed 139,000 yn cael cymorth trwy amrywiaeth o dariffau cymorth
  • Y cwmni wedi darparu £300,000 ar gyfer prosiectau cymunedol trwy ei Gronfa Gymunedol

Mae'r unig gwmni dŵr nid-er-elw yng Nghymru a Lloegr wedi cyhoeddi y bydd y bil dŵr a charthffosiaeth cyfartalog yn disgyn 2% yn 2021-22.

Mae Dŵr Cymru, sy'n gwasanaethu'r rhan fwyaf o Gymru, Sir Henffordd a rhannau o Lannau Dyfrdwy, wedi cadarnhau y bydd y bil domestig cyfartalog yn is mewn termau real nac yn y flwyddyn flaenorol, a hynny er gwaethaf y pwysau ariannol ychwanegol sydd arno yn sgil y pandemig COVID-19.  Mae'r cwmni wedi buddsoddi £20 miliwn ychwanegol mewn ymateb i'r pandemig.

Swm y bil cyfartalog ar gyfer 2021–2022 fydd £446.82, a hon yw'r deuddegfed flwyddyn yn olynol lle mae'r cwmni wedi cadw'r cynnydd ar yr un lefel neu'n is na'r gyfradd chwyddiant – yr unig gwmni dŵr yng Nghymru a Lloegr sydd wedi cyflawni hynny.  Bydd y bil newydd £96 yn is mewn termau real o gymharu â bil 2009-2010.

Mae'r cwmni, sy'n darparu gwasanaethau dŵr a dŵr gwastraff ar gyfer dros dair miliwn o gwsmeriaid, wedi chwarae rôl allweddol wrth amddiffyn iechyd y cyhoedd yn ystod y pandemig, gyda chydweithwyr gweithredol yn cynnal ei wasanaethau hanfodol helaeth.  Mae'r cwmni wedi dwysáu ei gymorth ar gyfer cwsmeriaid eto fyth hefyd trwy drefnu cynlluniau talu hyblyg ar gyfer cwsmeriaid domestig sy'n ei chael hi'n anodd talu eu biliau dŵr.  O ganlyniad, mae'r cwmni'n cynorthwyo 139,000 o gwsmeriaid trwy ei amrywiaeth o dariffau fforddiadwyedd erbyn hyn - sy'n fwy nag unrhyw gwmni dŵr arall.  

Yn ogystal, mae'r cwmni wedi ychwanegu 330,000 o gwsmeriaid at ei Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth dros dro.  Er mwyn cydnabod effaith y pandemig ar ei gwsmeriaid busnes, gohiriwyd taliadau tua 45,000 o fusnesau gafodd eu taro gan gyfnod clo cyntaf y DU dros dro. 

Mae Dŵr Cymru wedi darparu £300,000 ar gyfer prosiectau cymunedol hefyd trwy ei Gronfa Gymunedol, gan gynnwys £106,000 i 106 o fanciau bwyd (trwy Ymddiriedolaeth Trussell), 105 o brosiectau cymunedol a phartneriaethau eraill gyda BITC Cymru, Sefydliad Cymunedol Cymru ac Ymddiriedolaeth y Tywysog yng Nghymru.  

Mewn ymateb i'r pandemig, ehangodd Dŵr Cymru ei dechnoleg gweithio o bell yn gyflym er mwyn galluogi i'w ganolfan gysylltu gyfan symud i weithio gartref ym mis Mawrth y llynedd, ac mae'r cwmni wedi cychwyn gwasanaeth "rhith-archwiliadau" i gynorthwyo cwsmeriaid i ddatrys problemau heb fod angen i rywun fynd i'r eiddo. Mae'r dulliau newydd yma o weithio wedi galluogi'r cwmni i i gadw ei statws fel yr unig gwmni dŵr i ymddangos ym 50 uchaf Mynegai Boddhad Cwsmeriaid y Sefydliad Gwasanaethau Cwsmeriaid yn y DU.

Mae'r cwmni wedi parhau â'i ymrwymiad i fuddsoddi mewn talent newydd hefyd.  Mae hyn yn cynnwys recriwtio dros 30 o brentisiaid newydd dros y flwyddyn, a disgwylir i hynny barhau dros y blynyddoedd nesaf.

Dywedodd Prif Weithredwr Dŵr Cymru, Peter Perry: "Er gwaethaf yr hyn y gallwn ei disgrifio fel y blynyddoedd mwyaf ymestynnol rydyn ni wedi gorfod eu hwynebu, rwy'n falch ein bod ni wedi gallu cynnal ein record o gadw'r cynnydd yn ein prisiau ar gyfer biliau'r eiddo domestig cyfartalog yn is na'r gyfradd chwyddiant.  Mae hi'n adlewyrchu cryfder a manteision ein model gweithredu sy'n golygu y gallwn godi i sialensiau fel hyn wrth gadw biliau'n fforddiadwy i'n cwsmeriaid.  Rydyn ni wedi gallu parhau â'n rhaglen fuddsoddi cynlluniedig hefyd, a dros gwrs y flwyddyn, byddwn wedi buddsoddi £346 miliwn er mwyn gwella gwasanaethau ar gyfer cwsmeriaid ac amddiffyn ein hamgylchedd gwerthfawr.  Rydyn ni'n disgwyl buddsoddi £367 miliwn dros y flwyddyn nesaf hefyd.

“Fodd bynnag, rydyn ni'n gwerthfawrogi bod y pandemig wedi creu ansicrwydd economaidd ofnadwy, ac mae hi'n anochel bod amser caled o'n blaenau. Dyna pam ein bod ni eisoes yn cynnig amrywiaeth o dariffau cymorth i unrhyw un sydd wir yn cael anhawster talu, a bydden i'n annog i unrhyw un sy'n poeni am dalu eu biliau i gysylltu i drafod pa fath o gymorth sydd ar gael iddynt."

Dywedodd Rhodri Williams, Cadeirydd CCW Cymru: “Bydd y ffaith bod y bil cyfartalog yn gostwng yn dod a rhyddhad i ddeiliaid sydd yn cael trafferth ond ni ddylwn anghofio bod nifer o gwsmeriaid dal yn colli allan ar y cymorth gallu helpu nhw trwyddo Cofid-19.”

“Mae dŵr yn aml yn cael ei anghofio pan ddaw i arbed arian ond mi all rhagbrofi mesurydd dŵr am hyd at ddwy flynedd neu weld os ydych yn gymwys am dariff HelpU Dŵr Cymru os ydych ar incwm isel arbed o bosib cannoedd o bunnoedd oddi ar eich bil blynyddol.”

Gallwch canfod mwy am ein dariffs fforddiadwy yma