Un o Brentisiaid Dŵr Cymru'n ennill Gwobr yng Ngwobrau'r Gynghrair Ansawdd Sgiliau


1 Mehefin 2021

Dyfarnwyd y wobr am brentis adeiladu'r flwyddyn i Swyddog Cymorth Prosiect Dŵr Cymru, Leah Emery, yng Ngwobrau Prentisiaethau'r QSA. Mae'r gwobrau'n dathlu llwyddiant prentisiaid neilltuol o bob maes yn y Gynghrair Ansawdd Sgiliau, a chyflogwyr ysbrydoledig sy'n gweithio'n galed i ddarparu'r profiadau gorau ar gyfer rentisiaid.

Mae Dŵr Cymru, yr unig ddarparydd cyfleustodau nid-er-elw yng Nghymru a Lloegr, yn ymfalchïo yn ei raglen gynhwysfawr o brentisiaethau sy'n cwmpasu holl feysydd y busnes, ac mae'n llwybr dilys i bob math o wahanol yrfaoedd ac arbenigeddau.

Wrth siarad am ei gwobr, dywedodd Leah Emery:

“Mae cael cydnabyddiaeth am fy ngwaith caled yn deimlad anhygoel. Rydw i mor ddiolchgar i Ddŵr Cymru am roi'r cyfle hwn i mi weithio tuag at yrfa rwy'n ei charu. Mae Dŵr Cymru wedi cynnig rhwydwaith cymorth arbennig i mi yn ystod fy astudiaethau ac yn y gwaith yn gyffredinol, gan sicrhau fy mod i'n cael amser i wneud fy ngwaith coleg a chan roi cefnogaeth a chyngor i mi gyda gwaith coleg neu gwestiynau NVQ."

Dywedodd Simon Earl, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Dŵr Dŵr Cymru:

“Mae Dŵr Cymru'n ymfalchïo'n fawr yn ein rhaglen brentisiaethau sy'n dod â chymaint o werth i'r sefydliad. Mae hi wedi bod yn flwyddyn ymestynnol i ni wrth i ni orfod addasu ein ffordd o gyflawni'n busnes, ac mae hi wedi bod yn fraint gweld Leah yn llewyrchu er gwaetha'r sialensiau hyn. Mae camp Leah yn hollol haeddiannol, ac rwy'n hynod o falch ei bod wedi cael cydnabyddiaeth i'w chyfraniad trwy wobrau'r Gynghrair Ansawdd Sgiliau ”

Dywedodd Jonathan Wilson, Dirprwy Bennaeth Adeiladu Coleg Caerdydd a'r Fro:

“Mae Leah yn esiampl i'r myfyrwyr, mae ganddi'r cymhelliant i daclo unrhyw sialens sy'n codi yn y gwaith ac o fewn ei hastudiaethau academaidd. Mae Leah'n cynhyrchu gwaith o safon uchel iawn ac mae hi ar y trywydd iawn i ennill y graddau uchaf ar draws ei holl fodiwlau.”