Buddsoddiad o £8 miliwn mewn rhwydwaith dŵr gwastraff yn dod ymlaen yn wych


27 Mai 2021

Mae buddsoddiad Dŵr Cymru o £8 miliwn i uwchraddio’r system dŵr gwastraff yn Norton a Llanandras yn dod ymlaen yn wych a dylai fod wedi’i gwblhau erbyn haf 2022.

Bydd gwaith y cwmni dŵr nid-er-elw yn helpu i wella ansawdd y dŵr a gaiff ei ryddhau i’r amgylchedd. Bydd hynny, yn ei dro, yn gwella ansawdd dŵr Nant Norton ac afon Llugwy gan sicrhau ein bod yn dal i roi gwasanaeth dŵr gwastraff o’r safon uchaf i bobl yr ardal am ddegawdau i ddod.

Dechreuwyd ar gam cyntaf y gwaith buddsoddi yn Norton y llynedd gan adeiladu gorsaf bwmpio newydd sbon a fydd yn pwmpio dŵr gwastraff i Waith Trin Dŵr Gwastraff Llanandras. Yno, caiff ei drin cyn ei ddychwelyd yn ddiogel i’r amgylchedd. Er bod y rhan fwyaf o’r gwaith wedi’i wneud ar y safle ac ar dir preifat, gwnaed peth gwaith ar rannau o heol y B4355.

Disgwylir y bydd y gwaith yn Norton wedi’i gwblhau erbyn diwedd Rhagfyr 2021.

Bydd yr ail gam yn dechrau yng Ngwaith Trin Dŵr Gwastraff Llanandras ddydd Llun 7 Mehefin. Bydd yn golygu uwchraddio’r asedau presennol er mwyn gwella’r ffordd y caiff y dŵr gwastraff ei drin a bydd yr holl waith yn digwydd yng nghompownd presennol Dŵr Cymru. Er mwyn helpu i sicrhau nad yw’r gwaith yn amharu fwy nag sydd raid ar y gymuned, gosodir lôn fynediad dros dro trwy dir preifat oddi ar y B4362.

Disgwylir y bydd y gwaith yn Llanandras yn cymryd tua blwyddyn i’w gwblhau.

Dywedodd Rheolwr y Prosiect ar ran Dŵr Cymru, Angela Meadows: “Rydym wedi bod yn gweithio yn Norton ers mis Rhagfyr 2020, ac mae’n bleser gennym ddweud bod y gwaith yn dod ymlaen yn dda. Rydym ar fin dechrau ar yr ail gam, yng Ngwaith Trin Dŵr Gwastraff Llanandras a bydd hwnnw’n helpu i sicrhau ein bod yn dal i ddarparu gwasanaeth dŵr gwastraff o’r safon uchaf ac yn gwarchod ein hamgylchedd gwerthfawr.

“Rydym yn awyddus bob amser i sicrhau bod ein cwsmeriaid yn gwybod beth rydym yn ei wneud pan fyddwn yn gweithio yn eu cymuned ac felly rydym wedi ysgrifennu at drigolion Llanandras i sôn wrthynt am y gwaith ac rydym wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar ein gwefan.

“Rydym yn sylweddoli y gall y math hwn o waith achosi peth anghyfleustra ond fe wnawn ein gorau glas i achosi cyn lleied o drafferth ag y gallwn a hoffem ddiolch i bobl am fod yn amyneddgar tra byddwn yn gwneud y gwaith hanfodol hwn.”