Staff yn barod am her


25 Ionawr 2021

Gall fod yn anodd cael y brwdfrydedd i fynd allan i wneud ymarfer corff yn y gaeaf pan fydd y nosweithiau’n dywyll a’r tywydd yn oer, ond roedd staff un o bartneriaid Dŵr Cymru yn barod i wynebu’r her.

Roedd tîm Morgan Sindall Infrastructure, sy’n gweithio ar nifer o wahanol gynlluniau i’r cwmni dŵr nid-er-elw, yn awyddus i annog y staff i wneud ymarfer corff yn yr awyr agored ym misoedd y gaeaf er eu lles corfforol a’u hiechyd meddwl. Er bod rhai o’r tîm yn weithwyr allweddol sy’n gweithio ar brosiectau i wella gwasanaethau i gwsmeriaid, mae nifer o’r staff, fel miloedd o bobl eraill, yn gweithio gartref ar hyn o bryd a’r nod oedd eu hannog yn unigol ac fel tîm i fynd allan i’r awyr agored i wella’u ffitrwydd. Y syniad a gafwyd oedd iddynt Gerdded dros Gymru.

Yr her oedd cerdded yr un pellter ag sydd o Gaerdydd i Landudno dros gyfnod o chwe wythnos – mae hynny bron yn 160 milltir – tipyn o gamp!

Cymerodd 18 o’r tîm ran yn yr her, ond aeth un aelod, Mike Taylor, sydd hefyd yn Gymhorthydd Cyntaf Iechyd Meddwl, gam neu ddau yn bellach trwy gerdded y pellter o’r de i’r gogledd ac yn ôl!

Dywedodd Mike, sy’n gweithio ar safle Wynnstay Avenue, Wrecsam, ar hyn o bryd, “A minnau’n Gymhorthydd Cyntaf Iechyd Meddwl, sylwais i mewn cyfarfod Teams yn ddiweddar bod pobl oedd yn gweithio gartref yn sôn am fod yn ynysig gan eu bod gartref trwy’r dydd oherwydd cyfyngiadau COVID ac yn dweud bod cadw’n ffit yn dipyn o her. Felly, awgrymais ein bod ni fel grŵp yn ein herio’n hunain i gerdded y pellter o’r de i’r gogledd mewn chwe wythnos. Fe lwyddais i i wneud hynny mewn 21 diwrnod ac felly penderfynais i gerdded yn ôl wedyn. Roedd yn gyfanswm o 320 milltir – tua 637,000  o gamau mewn 38 diwrnod.

Mae Mike yn cyfaddef fod ganddo fantais fach dros rai o’r lleill gan ei fod wrthi’n gweithio ar gynllun buddsoddi gwerth £2.3 miliwn ar y rhwydwaith dŵr gwastraff i atal llifogydd o garthffosydd ardal Parc Caia yn Wrecsam. Mae hynny’n golygu ei fod ar fynd trwy’r dydd ond, ar ôl gwneud diwrnod o waith, doedd hi ddim bob amser yn hawdd perswadio’i hunan i fynd allan wedyn gyda’r nos.

Dywedodd Mike, “Rwy’n hoff o redeg ond roedd cyrraedd y nod yn dipyn o her, yn gorfforol ac yn feddyliol. Roeddwn i’n cerdded hyd at wyth milltir y dydd yn y gwaith ac yn rhedeg ychydig o filltiroedd yn aml gyda’r nos. Weithiau, ro’n i’n dechrau colli’r teimlad yn fy nghoesau a doedd hynny ddim yn sbort! Ond wrth siarad â rhai o’r lleill oedd yn gwneud yr her, fe sylwais i fod llawer ohonyn nhw’n fwy brwdfrydig gan ei fod yn rhoi rhywbeth iddyn nhw ganolbwyntio arno. Roedd hynny’n rhoi mwy o bleser na chwblhau’r her ei hunan.

Rhyngddynt, llwyddodd y tîm i gerdded bron chwe miliwn o gamau yn ystod yr her, sef bron 3,000 o filltiroedd. Mae hynny tua’r un faint â’r pellter o Gaerdydd i Wlad Groeg ac yn ôl! Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran yn yr her.

Os hoffech wybod mwy am waith Dŵr Cymru ym Mharc Caia, ewch i Yn Eich Ardal