Dŵr Cymru'n annog Cymru i ddefnyddio dŵr yn effeithlon dros y gaeaf wrth i gyfraddau defnydd godi


19 Chwefror 2021

Mae aelwydydd yng Nghymru'n defnyddio 25% yn fwy o ddŵr na'r llynedd ar gyfartaledd, a gallai cwsmeriaid weld eu biliau dŵr yn cynyddu o ganlyniad.

Mae data ar ddefnydd yn 2020 yn dangos bod defnydd o ddŵr wedi cynyddu 25% ar draws Cymru yn ystod y flwyddyn. Mae Dŵr Cymru, yr unig gwmni dŵr nid-er-elw yng Nghymru a Lloegr, yn annog y cyhoedd i ddefnyddio dŵr yn effeithiol wrth barhau i olchi eu dwylo’n rheolaidd a dilyn canllawiau iechyd y cyhoedd.

Gellir priodoli'r cynnydd yn y defnydd o ddŵr yn yr ardal i sawl ffactor yn ogystal â'r newid mewn arferion o ganlyniad i'r pandemig. Yn ogystal â threulio mwy o amser yn gweithio gartref ac yn dysgu yn y cartref, gwelodd y tywydd braf dros y gwanwyn a'r haf lawer o bobl yn treulio mwy o amser yn gwneud gweithgareddau fel garddio ac yn mwynhau amser mewn pwll padlo neu dwba twym. Ym mis Ebrill, gwelodd Amazon gynnydd o 4,000% mewn gwerthiannau pwll padlo, a gwelodd eBay gynnydd o 1,000% mewn gwerthiannau twba twym.

Mewn ymdrech i gynorthwyo cwsmeriaid i gadw eu biliau mor isel â phosibl, mae'r cwmni'n annog y cyhoedd i gymryd camau i arbed dŵr trwy ddulliau eraill, fel lapio pibellau dros y gaeaf fel nad ydyn nhw'n byrstio, trwsio gollyngiadau, a gwneud newidiadau bychain pob dydd fel cau'r tap wrth frwsio dannedd neu fflysio'r tŷ bach unwaith yn llai bob dydd.

Dywedodd Sam James, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cwsmeriaid Domestig Dŵr Cymru: "Gall cymryd camau i ddefnyddio dŵr yn fwy effeithlon gael gwir effaith ar faint o ddŵr y mae aelwyd yn ei ddefnyddio; a gall leihau eich bil dŵr hefyd. Gall gwneud newidiadau bach i'ch ymddygiad; fel cau'r tap wrth frwsio dannedd, neu dreulio un funud yn llai yn y gawod, wneud newid mawr dros amser. Ac er bod y tywydd yn oerach, mae yna ddigonedd o gyfleoedd i ymarfer arferion i ddefnyddio dŵr yn effeithlon gartref.

“Mae pibellau dŵr yn dueddol o rewi a byrstio mewn tywydd oer, sy'n gallu gwastraffu llawer o ddŵr. Mae hi'n rhwydd atal hyn trwy lapio pibellau mewn mannau oer. 

Mae'r cwmni'n annog pobl i gofrestru ar gyfer ei wasanaeth FyNghyfrif ar lein, lle gall cwsmeriaid Dŵr Cymru weld y taliadau sy'n dod yn ddyledus ar lein, a chadw trac ar eu biliau. 

Ychwanegodd Sam James: “Mae hi wedi bod yn flwyddyn anodd ar y naw i ni i gyd, ac rydyn ni'n gwybod bod llawer o bobl yn cael amser caled yn ariannol. Os oes unrhyw un yn cael trafferth talu eu biliau dŵr, rydyn ni'n eu hannog yn gryf i gysylltu â ni. Mae gennym gynlluniau a thariffau cymdeithasol sy'n gallu helpu i wneud biliau'n fwy fforddiadwy iddynt.”

“Y peth pwysig yw ein bod ni am roi gwybod i bobl bod y camau yma i arbed dŵr wir yn gweithio. Gall newid eich arferion helpu i arbed dŵr ac arbed arian ar filiau dŵr, a gall ymrwymo i'r rhain yn y tymor hwyr wir helpu i gadw biliau mor isel â phosibl.”


Am gynghorion effeithlonrwydd dŵr cliciwch yma

Am gymorth gyda biliau clicliwch yma

I gofrestru am gyfrif ar lein clicliwch yma