Dim byd ond Dŵr Cymru ym mis Ionawr!


31 Ionawr 2021

Er bod mis Ionawr yn un o fisoedd mwyaf diflas y flwyddyn, yn enwedig mewn pandemig, mae rhai pobl yn ddigon dewr i wynebu her Ionawr Sych, ond mae rhai o staff Dŵr Cymru’n mynd gam ymhellach gan yfed dim byd ond dŵr am y mis cyfan.

Mae Andrea Thomas o’r Rhyl, Alexandra Kirby o Abergele, Victoria Collier o Amlwch a Ffion Green o Gastell-nedd oll wedi ymrwymo i her Dim Ond Dŵr er mwyn codi arian ar gyfer WaterAid.

Mae’r pedair yn gweithio i’r tîm gwastraff yn y cwmni dŵr nid-er-elw ac roeddent yn awyddus i wneud rhywbeth i godi arian i’r elusen sy’n bartner i Dŵr Cymru, WaterAid, ac i dynnu sylw at waith yr elusen sy’n dod â dŵr glân i filoedd o bobl ym mhedwar ban y byd.

Bu Dŵr Cymru’n cydweithio â WaterAid ers 12 mlynedd i helpu’r elusen i gyrraedd yr 1 o bob 10 o bobl yn y byd sydd heb ddŵr glân ar gael iddynt. Mae’r cwmni’n cynnal nifer o ddigwyddiadau codi arian bob blwyddyn ac yn cymryd rhan yn her flynyddol Dim Ond Dŵr. Bydd yr arian a godir gan yr her eleni’n helpu i ddod â dŵr glân i bobl Frat, ardal fynyddig anghysbell yn Ethiopia.

Goruchwylydd Rhwydweithiau Dŵr Gwastraff gyda Dŵr Cymru yw Victoria Collier a dywedodd, "Yn yr hinsawdd presennol, mae dŵr glân a glanweithdra yn bwysicach nag erioed ac ro’n i’n awyddus i wneud rhywbeth i helpu."

Ond dydi’r her ddim wedi bod mor hawdd â’r disgwyl. Meddai Victoria, "Nosweithiau Gwener sydd waethaf. Mae rhywbeth ar goll pan fyddwch yn cael gwydraid o ddŵr gyda’ch Chinese takeaway!! Ond mae wedi gweld manteision hefyd. Dwi wrth fy modd â Pepsi Max a dwi wedi llwyddo i fyw hebddo am fis cyfan. Dwi’n gobeithio yfed llai ohono o hyn ymlaen hefyd ar ôl profi mod i’n medru ei wneud o!"

Technegydd Dŵr Gwastraff gyda Dŵr Cymru yw Alex Kirby ac meddai, "Mi wnes i gytuno i’r her gan fod y genod yn dweud y byddai’n syniad da! Roedd yr wythnos gyntaf yn anodd iawn. Roedd y siwgr yn fy ngwaed yn isel iawb heb y siwgr o ddiodydd a doedd gen i ddim egni. A dwi’n gweld eisiau paned yn y bore i roi hwb i mi ar ddechrau’r diwrnod, yn enwedig gan ei bod mor oer.

Ond nid yw’n ddrwg i gyd i Alex. Meddai, "Wrth yfed dim ond dŵr dwi’n teimlo mod i’n rhoi detox llawn i ‘nghorff a dwi’n sylwi ar y gwahaniaeth! Mae fy nghroen yn wych ac mae wedi gwneud lles mawr i fy hwyliau."

Goruchwylydd Cysylltiadau Cwsmeriaid yw Andrea Thomas ac mi benderfynodd hi gymryd rhan am ei bod yn hoffi her. "Yr wythnos gynta oedd y waetha – roedd gen i gur pen diddiwedd!” meddai. "Ond mae i’r her ei manteision a dwi’n teimlo’n well erbyn hyn gan wybod mod i’n rhoi detox llawn i fy ngorff. Ond dwi yn edrych ymlaen at y Pepsi Max cyntaf ar 1 Chwefror."

Arweinydd Newid Sefydliadol gyda Dŵr Cymru yw Ffion Green ac fe ymunodd â Phwyllgor WaterAid y cwmni yn ddiweddar. Dywedodd hi, "Mae Pwyllgor WaterAid yn cymryd rhan yn yr her bob blwyddyn ac felly eleni fe benderfynais i gymryd rhan a gwneud rhywbeth cadarnhaol ym mis Ionawr. Ers dechrau’r her, rwy wedi gweld bod fy nghroen yn teimlo’n fwy ffresh. Hefyd ro’n i’n arfer cael pen tost yn aml os nad o’n i wedi cael Diet Coke erbyn amser cinio, ac felly mae hynny’n beth da hefyd."

Ond dydi hi ddim wedi bod yn hawdd bob amser, "Roedd y cyfuniad o’r trydydd cyfnod clo, ceisio dysgu plentyn 5 oed gartref a dysgu plentyn dwy oed i ddefnyddio’r poti, yn golygu mod i’n crefu am rywbeth cryfach na dŵr i’w yfed! Gan nad ydw i’n yfed te na choffi, doeddwn i ddim yn disgwyl cael trafferth, ond rwy wedi gweld eisiau’r caffîn yn fy nghan dyddiol o Diet Coke."


Water Aid

Dywedodd Peter Perry, Prif Weithredwr Dŵr Cymru a Chadeirydd Pwyllgor WaterAid y cwmni, "Yma, yng Nghymru, lle mae gennym ddŵr glân yn llifo o’n tapiau a thoiledau sy’n fflysho, mae’n hawdd cymryd y pethau sylfaenol hyn yn ganiataol, yn enwedig yn y cyfnod hwn pan mae angen i ni olchi’n dwylo’n rheolaidd i helpu i warchod ein hiechyd. Ond gan fod rhai o’r bobl dlotaf yn y byd heb ddŵr glân i’w yfed, toiledau boddhaol i’w defnyddio na threfniadau glanweithdra da i’w diogelu nhw eu hunain, mae staff Dŵr Cymru’n gwneud eu rhan i’w helpu.

"Hoffwn i ddiolch i Andrea, Alex, Victoria a Ffion am fod yn ddigon dewr i wynebu her Dim Ond Dŵr eleni a chodi arian at achos gwerth chweil. Os hoffech chi gefnogi’r tîm ewch i dudalen Facebook Dŵr Cymru."

Sefydlwyd WaterAid yn 1981 ac mae ganddo dimau mewn 28 o wledydd y byd. Mae’n cydweithio â phartneriaid i drawsnewid miliynau o fywydau bob blwyddyn trwy helpu i ddarparu dŵr glân, cyfleusterau glanweithdra, toiledau a hylendid.