Miri yn y Mwd ym meithrinfa Gresffordd!


16 Chwefror 2021

Bydd plantos ym meithrinfa Homestead, Gresffordd ger Wrecsam yn cael llond trol o hwyl yn coginio yn eu ceginau mwd newydd diolch i baledau pren a gawsant gan Dŵr Cymru.

Mae’r cwmni dŵr nid-er-elw wrthi’n gwneud gwelliannau i’r garthffos ym Mharc Caia, Wrecsam ac roedd amryw o’r defnyddiau wedi cyrraedd ar baledau pren. Roeddent yn awyddus i’r paledau hyn gael eu hailddefnyddio yn hytrach na’u taflu i ffwrdd. Gan eu bod yn gwybod bod pobl yn hoff o ddefnyddio paledau i wneud gwahanol bethau, penderfynwyd y byddai’n dda eu cynnig i rywun yn yr ardal. 

Roedd meithrinfa Homestead yn barod iawn i’w cymryd gan eu bod yn gwneud llawer o ddysgu awyr-agored er mwyn annog chwilfrydedd a dychymyg greddfol y plant. Yn y gorffennol, maent wedi ailgylchu hen bren i greu gwahanol ardaloedd chwarae fel tŷ pen coeden a chastell bach.
 
Dywedodd Rachel Lloyd, perchennog meithrinfa Homestead: “Roedd yn wych cael cynnig y paledau. Rydym bob amser yn awyddus i ychwanegu at ein hardal chwarae ac rydym yn ailddefnyddio ac yn ailgylchu cymaint o ddefnydd naturiol ag y gallwn. Byddwn yn defnyddio’r paledau i greu ceginau mwd lle caiff y plant chwarae a bod yn greadigol yn yr awyr agored.”

Dywedodd Rheolwr Prosiectau Dŵr Cymru, Sean O’Rourke: “Mae gofalu am yr amgylchedd yn bwysig iawn i ni fel cwmni ac felly mae’n wych ein bod yn gallu rhoi’r paledau pren i feithrinfa leol i gael eu hailgylchau a’u defnyddio mewn ffordd greadigol. Gobeithio y bydd y plant yn cael hwyl yn chwarae ac yn dysgu yn y gegin fwd. Pan fyddwn yn gweithio mewn cymunedau ar brosiectau mawr fel un Parc Caia, Wrecsam, rydym bob amser yn ceisio talu yn ôl i’r cymunedau hynny, naill ai trwy gynlluniau fel hyn neu wrth gefnogi grwpiau a mentrau cymunedol trwy ein Cronfa Gymunedol – cewch ragor o wybodaeth ar ein gwefan, Cronfa Gymunedol” 

Dywedodd Paul Prior, asiant safleoedd gyda Morgan Sindall Infrastructure sy’n gwneud y gwaith ar ran Dŵr Cymru: “Wrth i’n gwaith ar Wynnstay Avenue ddod i ben, gwelsom fod gennym lawer o baledau mewn cyflwr da ar y safle. Byddai’n biti iddyn nhw fynd yn wastraff ac roedden ni’n awyddus i’w gweld yn mynd am ddim i gartref da. Mae gwarchod yr amgylchedd yn bwysig i ni ac roedden ni wrth ein bodd o glywed fod meithrinfa leol yn awyddus i’w cymryd i’w huwchgylchu. Mae gan y feithrinfa gynlluniau ardderchog ar gyfer y paledau a gobeithio y bydd y plant yn mwynhau coginio a gwneud llanast yn y mwd.”

Mae Dŵr Cymru’n buddsoddi £2.3 miliwn yn y prosiect a gychwynnwyd fis Gorffennaf y llynedd i ddatrys problem gorlifiadau o’r rhwydwaith yn ardal Wynnstay Avenue, Wrecsam. Mae’r gwaith yn cynnwys gosod tanc storio mawr o dan y ddaear fel bod mwy o le yn y rhwydwaith dŵr gwastraff yn ystod glaw trwm a llai o orlifiadau o’r rhwydwaith. Dylai’r gwaith yn yr ardal fod wedi’i gwblhau erbyn diwedd Mawrth. Os hoffech ragor o wybodaeth, ewch i Yn Eich Ardal