Mae Dŵr Cymru Welsh Water yn buddsoddi £9 miliwn i uwchraddio'r asedau yng Nghronfa Ddŵr Lluest Wen. Bydd y buddsoddiad yma'n helpu i sicrhau bod tua 15,000 o gwsmeriaid ar draws cwm Rhondda Fach a'r ardaloedd cyfagos yn parhau i gael cyflenwad dŵr o'r safon uchaf.
Mae'r gwaith sy'n cael ei gyflawni gan y cwmni nid-er-elw yn cynnwys adnewyddu'r gorlifan, sef y llethr sy’n caniatáu i ddŵr lifo allan o’r gronfa. Mae'r nodwedd yma'n caniatáu i’r dŵr o'r afon nad oes ei angen ar gyfer cyflenwadau dŵr yfed basio'n ddiogel o amgylch yr argae. Mae cadw'r ased yma mewn cyflwr da’n hanfodol am ei bod yn helpu i amddiffyn yr argae rhag difrod llifogydd, ac yn sicrhau ffynhonnell ddibynadwy o ddŵr ar gyfer y gymuned gyfan.
Dechreuodd y gwaith yn Hydref 2020 ac mae'n dod yn ei flaen yn dda. Mae'r sylfeini concrit ar y gorlifan ar y trywydd iawn i gael eu cwblhau'r mis yma, ac mae gwaith ar droed i adeiladu'r waliau a'r system ddraenio. Disgwylir i’r gwaith gael ei gwblhau yng ngwanwyn 2022. Ni fydd y broses o gyflawni'r gwaith yn effeithio dim ar gyflenwadau dŵr cwsmeriaid lleol.
Estynnodd Dŵr Cymru wahoddiad i Buffy Williams, yr Aelod o'r Senedd sy'n cynrychioli'r Rhondda, ddod i'r safle i weld y gwaith sy'n cael ei gyflawni er mwyn cadw asedau'r cwmni mewn cyflwr da, a sicrhau cyflenwadau o ddŵr yfed ffres ar gyfer cwsmeriaid.
Yn dilyn yr ymweliad, dywedodd Buffy: “"Yn gynharach eleni, fues i'n ddigon ffodus i gael ymweld â Chronfa Ddŵr Lluest Wen i weld gwaith Dŵr Cymru ar y gorlifan newydd. Mae digwyddiadau diweddar wedi dangos yn glir nad yw'r amddiffynfeydd a sefydlwyd cyn y newid yn yr hinsawdd yn mynd i fod yn ddigonol wrth edrych tua'r dyfodol.
“Alla'i ddim â diolch digon i Ddŵr Cymru am y £9 miliwn o fuddsoddiad yn y gronfa yn y Maerdy a fydd, yn ogystal â gwella ein hamddiffyniad rhag tywydd mwy eithafol, yn darparu cyflenwad diogel o ddŵr ar gyfer ein cymunedau hefyd."
Dywedodd Dirprwy Reolwr Rhaglen Dŵr Cymru, Rhys Hellin: "Mae ein buddsoddiad o £9 miliwn yn hanfodol er mwyn sicrhau y gallwn barhau i ddarparu cyflenwad dŵr yfed o'r safon uchaf ar gyfer cwsmeriaid yn yr ardal. Fel cwmni nid-er-elw, rydyn ni'n parhau i fuddsoddi yn ein hasedau er mwyn eu gwneud yn fwy gwydn, ac er mwyn parhau i wella ein gwasanaethau ar gyfer cwsmeriaid.
"Er nad ydym ni'n disgwyl i'r gwaith yma darfu dim ar gwsmeriaid lleol, mae'n bosibl y byddant yn sylwi bod mwy o draffig gwaith a cherbydau cludo nwyddau yn mynd a dod ar hyd ffordd fynediad oddi ar yr A4061. Gallwn eich sicrhau chi na fydd hyn yn effeithio ar unrhyw ardaloedd preswyl lleol, ac wrth i'n gwaith fynd yn ei flaen, byddwn ni'n cyhoeddi unrhyw ddiweddariadau trwy'r adran Yn Eich Ardal ar ein gwefan.”
Mae'r gwaith yn rhan o fuddsoddiad £1.8 biliwn y cwmni nid-er-elw rhwng 2020 a 2025 er mwyn gwella gwasanaethau ar gyfer cwsmeriaid ac amddiffyn yr amgylchedd. Am ragor o fanylion ewch i yma