Prosiect buddsoddi £12 miliwn yn Henffordd yn ennill Gwobr Dyluniwyd yng Nghymru yng Ngwobrau ICE Wales Cymru


10 Rhagfyr 2021

Mae Dŵr Cymru Welsh Water wrth ei fodd i gyhoeddi bod ei brosiect buddsoddi £12 miliwn yng Nghronfa Wasanaeth Bewdley Bank wedi ennill y Wobr Dyluniwyd yng Nghymru yng Ngwobrau blaenllaw'r Sefydliad Peirianneg Sifil (ICE) Wales Cymru eleni.

Mae Gwobrau blynyddol ICE Wales Cymru'n cydnabod y timau sydd wedi cyflawni rhai o'r prosiectau peirianneg sifil gorau ar draws y rhanbarth, ac fe'u cynaliwyd yn rhithiol ddydd Iau, 1 Rhagfyr.

Enillodd Cronfa Wasanaeth Bewdley Bank, a adeiladwyd gan Mott MacDonald Bentley (MMB) a FLI Carlow ar ran Dŵr Cymru Welsh Water, y Wobr Dyluniwyd yng Nghymru. Cafodd y beirniaid eu plesio gan y sylw i fanion a welwyd ar bob cam o’r prosiect. Roedden nhw'n teimlo bod ffocws cadarn ar gynaliadwyedd yn y prosiect, bod iechyd y cyhoedd wrth ei galon a bod yna bwyslais ar ystyriaethau o ran y dirwedd, ailgylchu deunyddiau, draenio cynaliadwy ac ecoleg.

Mae'r gronfa newydd a gastiwyd yn rhannol oddi ar y safle, yn dal tua 34 megalitr o ddŵr - digon i lenwi 14 pwll nofio maint Olympaidd - sy'n golygu taw hi yw un o'r strwythurau dŵr mwyaf o'u math yn Ewrop. Fe'i lleolir ger cronfa gyfredol ar y safle sy'n gallu dal 26 megalitr - digon i lenwi 10 pwll nofio maint Olympaidd.

Dywedodd Andrew Roberts, Pennaeth Rhaglen Ddŵr y Gynghrair gyda Dŵr Cymru: "Rydyn ni wrth ein boddau bod y prosiect buddsoddi yma wedi denu cydnabyddiaeth am ei dechnegau arloesol yng Ngwobrau Peirianneg Sifil Wales Cymru. Bydd y gronfa ychwanegol yn helpu i gynyddu gwytnwch rhwydwaith dŵr Sir Henffordd, yn ogystal â'i allu i ymateb i amrywiadau yn y galw, fel y gall barhau i ddarparu adnodd dŵr diogel a dibynadwy ar gyfer ein 600,000 o gwsmeriaid yn ardal Henffordd.

"Yr allwedd i lwyddiant y prosiect yw gwaith caled ac ymroddiad tîm craidd o Ddŵr Cymru ac MMB sydd wedi cynnal eu hymroddiad trwy gydol y prosiect i gyd."

Dywedodd Matthew Thorpe, Arweinydd Dylunio MMB: “Daw cydnabyddiaeth fel hyn diolch i ymdrech y tîm dros bedair blynedd i fynd â'r prosiect o'r syniad gwreiddiol i'w drosglwyddo i’r cleient.

"Mae'r ateb effeithlon ac arloesol a gynigwyd yn gynnar yn y broses i adeiladu un gronfa wasanaeth fawr yn hytrach nag adeiladu ar ddau safle gwahanol fel a gynigiwyd yn wreiddiol, wedi caniatáu i'r cynllun wella diogelwch cyflenwadau rhagor fyth ar gyfer cwsmeriaid Dŵr Cymru."

Bu'r prosiect yn rhan o fuddsoddiad £1.7 biliwn y cwmni nid-er-elw rhwng 2015 a 2020 er mwyn gwella gwasanaethau ar gyfer cwsmeriaid ac i helpu i amddiffyn yr amgylchedd. Rhwng 2020 a 2025, bydd y cwmni'n buddsoddi £1.8 biliwn pellach.