Academi Holmer yr Eglwys yn Lloegr yn derbyn cyllid gan Ddŵr Cymru


29 Mawrth 2021

Bydd disgyblion Academi Holmer yr Eglwys yn Lloegr yn cadw'n heini, yn iach ac yn actif diolch i grant gan Gronfa Gymunedol Dŵr Cymru. Mae'r gronfa'n rhan o fuddsoddiad gwerth £10m y cwmni i uwchraddio'r pibellau dŵr rhwng Cronfa Ddŵr Bewdley Banc a dinas Henffordd.

Mae'r arian a ddyfarnwyd i'r ysgol wedi mynd i brynu offer chwarae ychwanegol i'r 400 o ddisgyblion ei fwynhau.

Dywedodd Jayne Maund, Pennaeth Academi Holmer yr Eglwys yn Lloegr: ‘“Mae'r arian gan Gronfa Gymunedol Dŵr Cymru wedi helpu i annog y plant i wneud dewisiadau mwy iach yn ystod eu hamser rhydd trwy gynnig amrywiaeth ehangach o weithgareddau iddynt, gan wella eu ffitrwydd a'u lles.”

 

Mae Cronfa Gymunedol y cwmni'n rhoi cyfle i gymunedau hybu ymdrechion i godi arian at achosion da yn eu hardal. Os ydych chi'n byw mewn ardal lle mae gwaith yn cael ei gyflawni – ac yn codi arian ar gyfer prosiectau er budd y gymuned – gallech gael gwerth £1,000 o gyllid gan Ddŵr Cymru.

Dywedodd Claire Roberts, Pennaeth Cysylltu Cymunedau Dŵr Cymru: “Mae Cronfa Gymunedol Dŵr Cymru'n falch o gefnogi amrywiaeth eang o brosiectau yn y gymuned ar draws ardal Sir Henffordd. Fel sefydliad nid-er-elw, cwsmeriaid sydd wrth galon ein holl waith, ac mae'r cyllid yma'n rhoi cyfle i ni roi rhywbeth nôl i'r cymunedau rydym yn buddsoddi ynddynt.”

I gael rhagor o fanylion am Gronfa Gymunedol y cwmni, ewch i yma