Mae cynlluniau i wneud rhagor o waith hanfodol ar Gronfa Ddŵr Coed Gwent gan sicrhau bod y gronfa’n dal i gasglu a storio dŵr am flynyddoedd i ddod.
Gwelwyd bod angen gwneud y gwaith hwn, i wella adeiladwaith y gronfa ac i reoli llif y dŵr iddi yn well, yn dilyn gwelliannau cychwynnol a wnaeth y cwmni i’r gronfa yn 2019.
Gwneir y gwaith newydd a drefnwyd gan y cwmni nid-er-elw mewn dau gam. Bydd y cam cyntaf yn dechrau ddydd Llun 10 Mai ac yn canobwyntio ar wella adeiladwaith yr argae.
Fel rhan o’r gwaith hwn, byddwn yn cau rhan o Millbrook Lane rhwng 7 Mehefin a 9 Gorffennaf,. Bydd y cwmni’n gofalu bod modd i’r trigolion fynd a dod yn ystod y cyfnod hwn a chodir arwyddion clir yn dangos ffordd arall i fynd.
Os bydd popeth yn mynd yn iawn, bydd y cam hwn wedi’i gwblhau erbyn diwedd Awst.
Bydd ail gam y gwaith yn dechrau yn nes ymlaen yn y flwyddyn a bydd yn canolbwyntio ar wneud gwelliannau er mwyn i helpu i wella rheolaeth a llif y dŵr i’r gronfa. Bydd y cwmni’n ysgrifennu at bobl sy’n byw gerllaw yn nes at yr amser i ddweud beth y gallant ei ddisgwyl.
Dywedodd Rheolwr Is-Raglenni Dŵr Cymru, Rhys Hellin: “Rydym ni fel cwmni’n ymroi i gadw’n holl gronfeydd yn y cyflwr gorau ac mae hynny’n ein helpu i ddarparu gwasanaeth dŵr o’r safon uchaf ac yn gwarchod ein hamgylchedd gwerthfawr. Ar ôl cwblhau ein gwaith buddsoddi blaenorol, gwelsom fod angen gwneud rhagor o waith er mwyn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth ar gyfer y diwydiant. Ar ôl cwblhau’r gwaith hwn yn llwyddiannus, y nod fydd gadael i’r gronfa ail-lenwi’n naturiol.
“Rydym bob amser yn awyddus i sicrhau bod ein cwsmeriaid yn gwybod beth rydym yn ei wneud pan fyddwn yn gweithio yn eu cymuned. Felly, rydym wedi ysgrifennu at y trigolion i sôn wrthynt am y gwaith ac rydym wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar ein gwefan.
“Rydym yn sylweddoli y gall y math hwn o waith achosi peth anhwylustod ond fe wnawn ein gorau glas i greu cyn lleied o drafferth ag y gallwn a hoffem ddiolch i bobl am fod yn amyneddgar tra byddwn yn gwneud y gwaith hanfodol hwn.”