Dŵr Cymru'n gweithio gyda pheirianwyr arloesol i daclo anafiadau yn y sector
10 Mawrth 2021
Mae Dŵr Cymru wedi estyn ei gefnogaeth i ddau entrepreneur arloesol o'r byd peirianneg mewn ymdrech i leihau damweiniau codi a chario yn y diwydiant dŵr a'r tu hwnt.
Mae arbenigwyr o unig gwmni dŵr nid-er-elw'r DU wedi bod yn gweithio gyda'r peirianwyr Kailash Manoharaselvan a Thomas Labat-Camy i dorri tir newydd gyda thechnoleg arloesol â'r nod o atal anafiadau codi a chario yn y gwaith. Daeth y pâr at Ddŵr Cymru gyda'u prosiect 'MOVA'; sef ateb arloesol i helpu i drechu anafiadau codi a chario y gellir eu hatal a phroblemau hirdymor eraill.
Mae Gary Smith, Pennaeth Gwybodaeth am Asedau Dŵr Cymru, a Rheolwr IMS y cwmni, Glen Peek, wedi bod yn gweithio gyda Mr Manoharaselvan a Mr Labat-Camy i helpu i ddatblygu'r ateb arloesol yma, gan brofi a pherffeithio'r syniadau mewn sefyllfaoedd o'r byd go iawn.
Mae'r dechnoleg MOVA yn gweithio trwy ychwanegu synwyryddion at gyfarpar amddiffynnol personol (PPE) safonol, a monitro'r defnyddiwr wrth iddynt gyflawni tasgau pob dydd. Mae'r dechnoleg yn creu afatar amser real o'r defnyddiwr trwy ddelweddaeth gyfrifiadurol, sy'n dangos y straen sy'n cael ei roi ar wahanol rannau o'r corff yn y fan a'r lle.
Mae'r dechnoleg yn delweddu problemau a allai achosi niwed dros amser; ac mae hyn yn wybodaeth y gall cwmnïau ei defnyddio i gadw pobl yn ddiogel – trwy glustnodi ymddygiad a’i newid lle bo angen.
Wrth siarad am weithio gyda'r ddau arloeswr, dywedodd Gary Smith: “Mae hi wedi bod yn bleser cael gweithio gyda Kailash a Thomas ar hyn. Fe fachon ni ar y cyfle i'w cynorthwyo am ein bod ni'n credu yn eu syniad ac yn gweld ei botensial, ac roeddem ni am chwarae rhan wrth helpu i'w wireddu.
“Mae Dŵr Cymru wedi buddsoddi amser ac egni yn y prosiect ac wedi darparu data, gwybodaeth fanwl a mentora er mwyn helpu i ddatblygu'r dechnoleg wirioneddol arloesol yma. Rydyn ni'n credu bod gan MOVA y potensial i helpu i amddiffyn llawer o bobl sy'n gweithio mewn diwydiannau tebyg.”
Mae technoleg MOVA wedi cael ei henwebu ar gyfer nifer o wobrau yn 2021 gan gydnabod arloesedd y dechnoleg a'r manteision y mae’n eu cynnig o ran iechyd a diogelwch.