Gwaith adeiladu ar fin dechrau yng Nghronfa Ddŵr Llandegfedd


22 Gorffennaf 2021

Mae Dŵr Cymru ar fin dechrau gwneud gwaith cynnal a chadw ar Gronfa Ddŵr Llandegfedd sy’n gwneud gwaith pwysig yn darparu cyflenwad dibynadwy o ddŵr yfed glân a diogel bob dydd i dros 600,000 o bobl yng Nghaerdydd, Casnewydd, rhannau o Fynwy a’r cylch.

Ddydd Llun 2 Awst, y bwriad yw dechrau gweithio ar y pileri sy’n dal y bont droed sy’n arwain at y tŵr yn y gronfa. Mae’r rhain gyferbyn â’r Ganolfan Ymwelwyr ac maent yn chwarae rhan hanfodol wrth i ni weithredu’r gronfa sy’n dal dros 5.3 miliwn galwyn o ddŵr.

Disgwylir y bydd y gwaith wedi’i gwblhau erbyn diwedd mis Hydref.

Yn ystod y gwaith, bydd goleuadau traffig dwy ffordd ar Heol Sluvad, ger pont droed y tŵr. Mae’r cwmni’n sicrhau cwsmeriaid y bydd Canolfan Ymwelwyr a Chanolfan Chwaraeon Dŵr Llyn Llandegfedd a’r meysydd parcio yn dal ar agor yn ystod y cyfnod hwn. Bydd ymwelwyr yn dal i gael cymryd rhan mewn gweithgareddau a drefnwyd ond gofynnir iddynt gadw pellter diogel o’r tŵr.

Dywedodd Rhys Hellin, Rheolwr Is-raglen Dŵr Cymru: “Mae ein gwaith ar Gronfa Ddŵr Llandegfedd yn hanfodol er mwyn sicrhau y gallwn barhau i ddarparu cyflenwad dŵr yfed o’r safon uchaf i’n cwsmeriaid yn yr ardal. A ninnau’n gwmni nid-er-elw, rŷn ni’n dal i fuddsoddi yn ein hasedau er mwyn dod yn fwy gwydn o hyd a pharhau i wella’r gwasanaeth i’n cwsmeriaid.

“Rŷn ni bob amser yn ceisio sicrhau bod ein cwsmeriaid yn gwybod beth rŷn ni’n ei wneud pan fyddwn ni’n gweithio yn eu cymuned. Felly, rŷn ni wedi ysgrifennu at y trigolion i sôn am y gwaith ac wedi rhoi’r newyddion diweddaraf yn yr adran Yn Eich Ardal ar ein gwefan.

“Rŷn ni’n deall y gall y math hwn o waith fod yn anghyfleus i’n cwsmeriaid ar adegau ond fe wnawn ein gorau i greu cyn lleied o drafferth ag y gallwn a hoffem ddiolch i bobl am fod yn amyneddgar tra byddwn yn gwneud y gwaith hanfodol hwn.’’

Os hoffech ragor o wybodaeth ewch i Yn Eich Ardal.