Cwblhau gwaith uwchraddio mawr gwerth £2m yng Ngorllewin Caerdydd


15 Mehefin 2021

Mae gwaith buddsoddi Dŵr Cymru, gwerth £2,000,000, i uwchraddio’r rhwydwaith dŵr yng nghymunedau’r Tyllgoed, Danescourt a Radur, Caerdydd, wedi’i gwblhau. Roedd y gwaith yn rhan o fuddsoddiad o £159 miliwn i wneud gwelliannau yn ansawdd dŵr yfed cwsmeriaid y cwmni ledled y wlad.

Roedd y gwaith yn cynnwys glanhau pibellau a gosod tua 3km o bibellau newydd sbon yn y Tyllgoed a Danescourt a rhoi’r gorau i ddefnyddio 1km o hen bibellau yn Radur. Bydd hyn yn sicrhau bod y rhwydwaith dŵr yn dal i weithredu’n effeithiol pan fydd llawer o alw am ddŵr a bod y cwsmeriaid yn cael cyflenwad o ddŵr yfed ffres o’r safon uchaf bob tro yr agorant y tap.

Bu’r cwmni nid-er-elw’n cydweithio’n agos â Morrison Water Services a’r awdurdod lleol trwy gydol y prosiect i gynllunio a gwneud y gwaith gan darfu cyn lleied ag oedd modd ar y gymuned.

Dywedodd Rheolwr Prosiectau Dŵr Cymru, Jonathan Davies: “Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein bod wedi cwblhau ein gwaith ar y rhwydwaith dŵr yn y Tyllgoed, Danescourt a Radur. Mae’r gwaith buddsoddi hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i ailfuddsoddi elw yn uniongyrchol er budd ein cwsmeriaid a’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu, gan helpu i sicrhau y byddant yn cael dŵr glân, ffres am flynyddoedd lawer i ddod.

“Rydym yn deall bod ein gwaith wedi bod yn anghyfleus weithiau ac felly rydym wir yn gwerthfawrogi amynedd a chydweithrediad y busnesau a’r trigolion lleol a hoffem ddiolch iddynt am hynny.”

Fel rhan o’r buddsoddiad, mae’r cwmni wedi rhoi £1750 i bedwar grŵp cymunedol yn ardaloedd y Tyllgoed a Danescourt, Caerdydd trwy ei Gronfa Gymunedol, sef Tîm Rygbi dan 9 Llandaf, Clwb Pêl-droed Danescourt, Clwb Pêl-droed y Tyllgoed a Chlwb Rygbi’r Tyllgoed.

Dywedodd Claire Roberts, Pennaeth Ymgysylltu Cymunedol gyda Dŵr Cymru: “Mae’n bleser gan Gronfa Gymunedol Dŵr Cymru gefnogi prosiectau cymunedol amrywiol ledled cymunedau’r Tyllgoed a Danescourt. A ninnau’n gwmni nid-er-elw, ein cwsmeriaid sydd wrth galon ein holl waith ac mae’r Gronfa’n ein galluogi i roi rhywbeth yn ôl i’r cymunedau rydym yn buddsoddi ynddynt.”