Dwr Cymru'n cyrraedd y brig ymsyg cwmniau dwr mewn mesur cenedlaethol o wasanaethau cwsmeriaid


10 Gorffennaf 2020

Mae Dŵr Cymru wedi cadw ei statws fel y cwmni dŵr uchaf ei barch yng Nghymru a Lloegr yn y yn y gwaith ymchwil DU-eang diweddaraf i bwyso a mesur safonau gwasanaethau cwsmeriaid.

  • Y cwmni nid-er-elw sydd â’r sgôr uchaf am wasanaethau cwsmeriaid o blith holl gwmnïau dŵr Cymru a Lloegr
  • Dŵr Cymru yw un o’r 50 Gorau ymhlith holl gwmnïau Prydain ar led hefyd - yr unig gwmni dŵr i gyflawni’r gamp
  • Mae gwaith ymchwil ar wahân gan un o gyrff y diwydiant eisoes wedi gosod Dŵr Cymru ar y brig o blith yr holl gwmnïau dŵr

Mae'r cwmni nid-er-elw – sy'n gwasanaethu tair miliwn o bobl ar draws y rhan fwyaf o Gymru, Sir Henffordd a rhannau o Lannau Dyfrdwy a Sir Gaer – wedi dod allan ar y brig o blith holl gwmnïau dŵr eraill am wasanaethau cwsmeriaid, ac mae hi gyda'r gorau yn sector y cyfleustodau’n gyffredinol.

Mae'r cwmni wedi ennill ei le yn 50 Gorau yn y DU hefyd – a hi yw’r unig gwmni dŵr i gyflawni’r gamp honno.

Cafodd y cwmni sgôr o 80.1 yn yr arolwg, oedd dau bwynt yn uwch na'r cwmni dŵr nesaf, a daeth yn safle 47 yn gyffredinol yn rhestr y 50 Cwmni Gorau.

Roedd astudiaeth Barn y Sefydliad Gwasanaethau Cwsmeriaid (UKCSI) yn edrych ar ansawdd gwasanaethau cwsmeriaid ar draws 13 sector o'r economi yn y DU. Mae'n seiliedig ar yr arolygon o gwsmeriaid a gyflawnir pob chwe mis.

Mae sgôr cyffredinol Dŵr Cymru'n ei gosod yn y safle cyntaf yn y sector dŵr. Mae sgôr y cwmni 3.1 yn uwch na sgôr cyffredinol UKCSI sef 77m, a gweddill y sector sef 72.6.

Mae'r newyddion yma'n dilyn cadarnhad bod Dŵr Cymru wedi dod allan ar frig canlyniadau'r rheoleiddiwr, Ofwat, o ran boddhad cwsmeriaid ar draws Cymru a Lloegr hefyd. Yn sgoriau terfynol gwaith “gweithredu cysgodol” y Mesur o Brofiadau Cwsmeriaid (C-MeX) yn 2019-2020 – cyn iddynt gael eu cyflwyno'n barhaol eleni – cafodd Dŵr Cymru sgôr o 82.47, a hynny yn erbyn sgôr gyfartalog o 76.65 ar draws y diwydiant yng Nghymru a Lloegr ar led (17 cwmni i gyd).

Dywedodd Peter Perry, Prif Weithredwr y cwmni: "Fel cwmni nid-er-elw, ein hunig ffocws, nawr yn fwy nag erioed, yw darparu gwasanaethau ar gyfer ein cwsmeriaid ar y lefel y maent yn ei disgwyl - a rhagori ar hynny. Mae hi'n galonogol iawn felly fod cwsmeriaid yng Nghymru'n teimlo'n fwy cadarnhaol ynghylch y gwasanaeth y maent yn ei gael gennym, a'n bod ni'n parhau i gyflawni hyn er gwaetha'r sefyllfa hynod ymestynnol sydd ohoni.

"Ond rydyn ni'n gwybod hefyd bod angen i ni wrando ar ein cwsmeriaid yn fwy nag erioed i adeiladu ar y canfyddiadau cadarnhaol yma - a bydd y gwaith ymchwil yma'n darparu sylfaen bwysig i ni adeiladu arno.”