Finance Icon

Dŵr Cymru'n cyhoeddi buddsoddiad uwch nag erioed a chymorth estynedig i gwsmeriaid mewn ymateb i COVID-19


5 Mehefin 2020

  • Buddsoddi record o £456 miliwn mewn gwasanaethau dŵr a dŵr gwastraff dros y 12 mis diwethaf
  • Cymorth ychwanegol gyda biliau i gwsmeriaid domestig a busnes
  • 1,200 o weithwyr yn parhau i weithio mewn cymunedau er mwyn cynnal gwasanaethau cyhoeddus hanfodol
  • Cronfa Gymunedol gwerth £300,000 i helpu banciau bwyd a phrosiectau cymunedol
  • Cynnydd o dros 20% yn y galw am ddŵr i dros 1,000 miliwn o litrau'r dydd

Mae Dŵr Cymru wedi cadarnhau ei fod wedi buddsoddi record o £456 miliwn yn ei wasanaethau dŵr a dŵr gwastraff dros y 12 mis a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2020. Mae'n bwriadu buddsoddi £366 miliwn dros y flwyddyn nesaf gan barhau i chwarae rhan wrth amddiffyn iechyd y cyhoedd - yn rhan o gynllun newydd i fuddsoddi gwerth £1.8 biliwn yn y cyfnod hyd 2025.

Mae Dŵr Cymru wedi cadarnhau hefyd ei fod wedi cyflwyno cymorth brys i filoedd o gwsmeriaid yn rhan o'i ymateb i bandemig y coronafeirws (COVID-19). Mae Canlyniadau Blynyddol y cwmni, a gyhoeddwyd heddiw, yn dangos fod y cwmni wedi parhau i berfformio’n gadarn trwy flwyddyn ymestynnol wrth i’w weithwyr allweddol barhau i ddarparu gwasanaeth hanfodol ar gyfer y tair miliwn o bobl y mae’n eu gwasanaethu.

Mae'r cwmni nid-er-elw wedi cadarnhau hefyd ei fod wedi trefnu gwyliau talu ar gyfer dros 5,000 o gwsmeriaid domestig sydd mewn angen ariannol, ac wedi gohirio taliadau 45,000 o fusnesau sydd wedi gorfod cau oherwydd cyfyngiadau cymdeithasol cyfredol y Llywodraeth dros dro.

Bydd Dŵr Cymru, sy'n gwasanaethu dros dair miliwn o bobl ar draws y rhan fwyaf o Gymru a rhai ardaloedd cyfagos yn Lloegr, yn darparu gwerth £11 miliwn o gymorth ar gyfer ei gwsmeriaid â'r incwm isaf dros y 12 mis nesaf trwy ei dariffau cymdeithasol - cymorth sydd eisoes yn helpu bron i 130,000 o gwsmeriaid i dalu eu biliau.

Ymatebodd Dŵr Cymru i argyfwng y coronafeirws trwy lwyddo i symud 2,200 o weithwyr - gan gynnwys ei ganolfan gyswllt ar gyfer cwsmeriaid yn ei chyfanrwydd - i weithio gartref o fewn cyfnod o gwta ychydig ddyddiau ganol mis Mawrth. Galluogodd hyn i Ddŵr Cymru barhau i ddarparu ei wasanaethau a chynorthwyo ei gwsmeriaid, yn enwedig y rhai sydd mewn amgylchiadau bregus a all fod yn ei chael hi'n anodd talu eu biliau dŵr. Ond mae ganddo bron i 1,200 o weithwyr y rheng flaen sy’n dal i fod allan yn gweithio mewn cymunedau er mwyn cadw'r gwasanaethau hanfodol i redeg.

Fel cwmni sydd mewn perchnogaeth ar ran ei gwsmeriaid, daeth Dŵr Cymru allan ar frig arolwg DU-eang cyntaf Ofwat o'r holl gwmnïau dŵr yng Nghymru a Lloegr yn ddiweddar am foddhad ei gwsmeriaid â'r gwasanaethau y mae'n eu darparu. Daw hyn ar ôl i’r cwmni ennill ei le yn 50 uchaf yr arolwg DU-eang o foddhad cwsmeriaid a gyflawnwyd gan y Sefydliad Gwasanaethau Cwsmeriaid (ICS) – a Dŵr Cymru yw’r cwmni dŵr cyntaf erioed i gyflawni'r gamp honno.

Gyda chwsmeriaid yn aros gartref a'r cyfnod hir o dywydd sych dros yr wythnosau diwethaf, mae Dŵr Cymru wedi gweld cynnydd o 20% yn y galw am ddŵr. Mae'r cwmni wedi gweld y galw’n codi i ryw 1,000 miliwn o litrau'r dydd – syn ddigon i lenwi 400 o byllau nofio maint Olympaidd - gyda phob aelwyd yn defnyddio dros 50 o litrau'r dydd yn fwy nag arfer am yr adeg hon o'r flwyddyn. Mae'r cwmni'n gofyn i gwsmeriaid beidio â gwastraffu dŵr ac yn cynyddu ei waith ei hun i ddatgelu gollyngiadau.

Dywedodd Cadeirydd Glas Cymru, Alastair Lyons: “Fel busnes nid-er-rhanddeiliaid, mae Dŵr Cymru'n bodoli i wasanaethu ei gwsmeriaid ac er eu lles - ac nid yw ein rôl erioed wedi bod yn bwysicach.

“Mae'r amgylchiadau ar hyn o bryd gyda'r mwyaf ymestynnol i ni orfod eu hwynebu erioed. Rydyn ni'n falch o chwarae ein rhan wrth ddarparu cymorth ychwanegol i gwsmeriaid domestig a busnes ar yr adeg anodd yma, gan sicrhau eu bod yn dal i dderbyn y gwasanaethau gorau posibl gan ein gweithwyr allweddol.

“Hoffwn ddiolch i bawb yn Dŵr Cymru sydd wedi gweithio mor galed yn ystod yr argyfwng cyfredol a dros y 12 mis diwethaf. Rydyn ni wedi gorfod ymdopi â digwyddiadau eithafol o ran y tywydd a’r paratoadau ar gyfer Brexit heb gytundeb, a’r cyfan wrth lunio ein Cynllun Busnes dan reolaeth ar brisiau ar gyfer 2020-25. Er gwaethaf hyn oll, rydyn ni wedi cofnodi canlyniadau ariannol a gweithredol da ar gyfer y flwyddyn ddiwethaf, ac rwy'n hyderus y byddwn ni'n adeiladu ar hyn eto fyth gyda'r buddsoddiad rydyn ni'n bwriadu ei wneud dros bum mlynedd y cyfnod buddsoddi nesaf.”

Dywedodd Prif Weithredwr Dŵr Cymru, Peter Perry: “Oherwydd y sefyllfa ddigynsail yma bu angen i ni newid ein dulliau o weithio’n llwyr er mwyn amddiffyn ein gweithwyr, ac mae'n falch iawn gen i ddweud ein bod ni wedi llwyddo i gyflawni hynny wrth helpu i chwarae ein rhan trwy gynnal ein gwasanaethau hanfodol ac amddiffyn iechyd y cyhoedd.

“Rydyn ni wedi gweld newidiadau yn y ffordd y mae ein cwsmeriaid yn defnyddio dŵr hefyd - gyda mwy o bobl yn gweithio gartref, a newidiadau mewn defnydd o gymharu â phan fo busnesau'n gweithredu fel arfer a llai o bobl gartref yn ystod y dydd. Rydyn ni'n parhau i wneud beth gallwn ni i sicrhau lefelau ein hadnoddau dŵr, ond hoffem ofyn i gwsmeriaid beidio â defnyddio mwy na'r dŵr sydd ei angen arnynt - a hynny'n arbennig i'w cadw'n ddiogel ac yn iach - ac i beidio â'i wastraffu.

“Mae gan bawb ei rôl, ond mae beth rydyn ni wedi ei gyflawni dros yr wythnosau diwethaf - a dros y 12 mis diwethaf yng ngoleuni’r tywydd eithafol - wedi cael ei gyflawni am fod pawb yn Dŵr Cymru'n gweithio gyda'i gilydd tuag at yr un nod. Rydyn ni'n cyflawni am fod pawb yn chwarae eu rhan er mwyn darparu'r gwasanaeth gorau posibl ar gyfer cwsmeriaid, a pharhau i ennill eu hyder.”

Yn ystod pandemig COVID-19, mae Dŵr Cymru wedi cynorthwyo cwsmeriaid a chymunedau trwy dreblu ei Gronfa Gymunedol i £300,000. Ers dechrau'r pandemig COVID-19, mae’r Gronfa wedi cyflwyno dros £100,000 i fanciau bwyd sy'n rhan o Ymddiriedolaeth Trussell yng Nghymru. Cytunwyd ar bartneriaethau gyda Busnes yn y Gymuned Cymru hefyd, a'r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru, Henffordd a Sir Gaer.

Dywedodd Susan Lloyd-Selby, Rheolwr Gweithrediadau Ymddiriedolaeth Trussell yng Nghymru: "Wrth i effaith y coronafeirws ddod yn amlwg ar draws Cymru, mae ar fwy a mwy o bobl angen cymorth y banciau bwyd. Mae timau'r banciau bwyd yn gweithio'n ddiflino i sicrhau bod banciau bwyd yn gallu aros yn agored ac ymateb i'r argyfwng. Rydyn ni'n ddiolchgar dros ben i Ddŵr Cymru am eu rhodd hael i bob banc bwyd yn ein rhwydwaith yng Nghymru - bydd y cymorth yma'n helpu'r banciau bwyd i ddal ati i gynnig bwyd hanfodol mewn argyfwng i'r bobl hynny sy'n methu â fforddio prynu'r hanfodion ar y funud."