Environment Icon

Y galw am ddŵr yn codi wrth i'r tywydd boethi


1 Mehefin 2020

  • Dŵr Cymru'n gweld galw uwch nag erioed am ddŵr dros y 72 awr diwethaf
  • Galw digynsail sydd eisoes yn uwch am fod mwy o bobl gartref oherwydd cyfyngiadau Covid-19
  • Y galw’n uwch nac ar anterth tywydd poeth 2018
  • Timau'n gweithio rownd y cloc i gadw'r dŵr yn llifo a thrwsio gollyngiadau
  • Gall cwsmeriaid wneud eu rhan trwy ddilyn y cynghorion am ffyrdd o arbed dŵr yn y cartref a'r ardd

Gyda Chymru'n mwynhau cyfnod heulog braf ar hyn o bryd, mae'n debyg nad y tywydd yw’r unig beth fydd yn torri recordiau.

Wrth i'r haul ddisgleirio dros y penwythnos, ar ddiwedd y mis Mai sychaf ar record, cofnododd Dŵr Cymru, y cwmni cyfleustod nid-er-elw, alw uwch nag erioed am ddŵr gan ei gwsmeriaid - gan ragori ar y lefelau a welwyd ar anterth tywydd poeth 2018.

Gyda mwy o bobl yn aros gartref yng Nghymru i gydymffurfio â rheoliadau Covid-19, mae’r cwmni eisoes wedi gweld cynnydd estynedig yn y galw am ddŵr. Mae’r galw’n cynyddu eto fyth pan fo’r haul yn disgleirio wrth i bobl chwilio am ffyrdd o’u mwynhau eu hunain gartref yn yr awyr agored, a sicrhau eu bod yn yfed digon. Daw hyn wrth i’r wlad weld llai o law nag arfer hefyd – 50% yn llai ym mis Ebrill a 30% yn llai ym mis Mai.

Ar ddiwrnod cyffredin, mae'r cwmni'n trin ac yn cyflenwi rhyw 800 o fegalitrau o ddŵr glân a ffres i'w dair miliwn o gwsmeriaid. Mae hynny’n fras yn ddigon i lenwi tua [320] o byllau nofio maint Olympaidd. Ond dros y penwythnos, gwelodd y cwmni'r lefel yma'n codi i dros 1,000 o fegalitrau’r dydd, dydd Iau, dydd Gwener a dydd Sadwrn.

Er mwyn diwallu’r galw, bu angen i'r cwmni ddwysáu ei waith er mwyn sicrhau ei fod yn gallu cadw'r dŵr yn llifo i'w gwsmeriaid. Roedd hyn yn cynnwys gweithio rownd y cloc i sicrhau bod y gweithfeydd trin dŵr yn gallu bodloni'r galw, a defnyddio tanceri dŵr i ychwanegu at systemau dŵr lleol mewn mannau yn ogystal.

Mae'r cwmni wedi dwysáu ei waith i ganfod a thrwsio gollyngiadau hefyd, a dros yr wythnos ddiwethaf yn unig, cyflawnwyd 4,700 o oriau o waith yn hynny o beth. Ers canol y 1990au, mae'r cwmni wedi cwtogi 50% ar faint o ddŵr y mae'n ei golli trwy ollyngiadau ar y rhwydwaith, sy'n golygu nad oes angen iddo godi cymaint o ddŵr o afonydd a chronfeydd yng Nghymru mwyach.

Gall cwsmeriaid chwarae eu rhan hefyd trwy ddilyn rhai o'r cynghorion syml y mae'r cwmni'n eu cynnig o ran ffyrdd o osgoi gwastraffu dŵr yn y cartref a'r ardd. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Peidio â gadael y tap yn rhedeg wrth olchi dwylo neu frwsio dannedd
  • Cymryd cawod fer yn lle bath
  • Aros nes bod y peiriannau golchi dillad a llestri'n llawn cyn eu cychwyn
  • Peidio â llenwi'r pwll padlo'r holl ffordd - a defnyddio’r dŵr ar y planhigion yn yr ardd ar ôl gorffen
  • Peidio â defnyddio taenellwr i gadw'r lawnt yn wyrdd - daw'r lliw nôl yn ddigon buan pan ddaw'r glaw

Dywedodd Ian Christie, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaethau Dŵr: “Rwy'n siŵr ein bod ni i gyd wedi bod yn mwynhau'r tywydd braf yma, ac fel cwmni rydyn ni'n disgwyl gweld cynnydd yn y galw pan fo'r haul yn disgleirio. Nid yw’r cynnydd yn y galw’n para’n hir fel rheol, ond am fod mwy o bobl gartref oherwydd cyfyngiadau Covid-19, rydyn ni’n gweld y cynnydd yn para am gyfnod estynedig y tro hwn. Cyrhaeddodd y galw dros y penwythnos lefelau digynsail, gan ragori ar y lefelau a welsom ar anterth tywydd poeth 2018.

“Yn naturiol, mae diwallu galw uwch yn codi sialensiau ychwanegol i ni fel cwmni, a bydd pobl wedi gweld ein timau allan o gwmpas y lle dros y penwythnos yn ceisio gwneud yn siŵr ein bod ni'n cadw'r dŵr yn llifo. Er y gwnawn ni bopeth yn ein gallu, byddai o gymorth i ni pe bai cwsmeriaid yn gallu chwarae eu rhan hefyd trwy osgoi gwastraffu dŵr. Rydyn ni'n gwybod bod dŵr yn hanfodol i gynnal hylendid personol ar hyn o bryd wrth i ni frwydro yn erbyn Covid-19, ond mae yna lawer o bethau syml y gallwn ni i gyd eu gwneud i arbed dŵr gartref.

"Er enghraifft, mae taenellwyr yn defnyddio llawer iawn o ddŵr yn yr ardd - 1,000 o litrau o ddŵr bob awr ar gyfartaledd. Mae hynny'r un faint ag y byddai teulu nodweddiadol yn ei ddefnyddio yn y tŷ mewn dau ddiwrnod. Trwy osgoi defnyddio taenellwr, neu trwy fuddsoddi mewn casgen ddŵr i gasglu dŵr glaw, gallai pawb ddefnyddio tipyn llai o ddŵr.

“Peth arall y gall cwsmeriaid ei wneud i helpu yw rhoi gwybod i ni os ydyn nhw'n gweld dŵr yn gollwng fel y gallwn anfon tîm allan i ymchwilio i'r broblem ar unwaith. Trwy weithio gyda'n gilydd fel hyn, gallwn helpu i sicrhau ein bod ni'n cadw'r dŵr yn llifo drwy'r haf”.

I gael rhagor o wybodaeth am ffyrdd o arbed dŵr a manylion am sut i gael gafael ar declynnau arbed dŵr, ewch i yma.