Finance Icon

Mewn ymateb i gyhoeddi'r prisiau ar gyfer cwsmeriaid 2020-2021


6 Chwefror 2020

Yn sgil cyhoeddi penderfyniad terfynol rheoleiddiwr annibynnol ein diwydiant, Ofwat, ym mis Rhagfyr, pennwyd lefel buddsoddiad a biliau Dŵr Cymru ar gyfer y pum mlynedd nesaf. O ganlyniad, bydd bil domestig cyfunol cyfartalog cwsmeriaid Dŵr Cymru'n codi 1.2% dros y flwyddyn nesaf i £451 yn unol â'r terfynau a bennodd Ofwat.

Mae'r cynnydd yn y pris yn is na chyfradd chwyddiant y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPIH) - ac mae'n dilyn degawd o gynnydd mewn prisiau a fu'n is na chyfradd chwyddiant y Mynegai Prisiau Manwerthu (RPI) rhwng 2010 a 2020.

Ochr yn ochr â hyn, bydd Dŵr Cymru'n parhau i ddarparu cymorth sydd gyda'r gorau yn y diwydiant ar gyfer y 130,000 o gwsmeriaid â'r incwm isaf, a hynny wrth ddarparu'r lefel orau bosibl o wasanaethau i gwsmeriaid - rhywbeth a ddenodd gydnabyddiaeth y mis diwethaf pan ddaeth y cwmni allan ar y brig fel cwmni cyfleustod gorau'r DU, a'r cwmni dŵr cyntaf erioed i gyrraedd 50 Uchaf Mynegai Boddhad Cwsmeriaid y DU.