Environment Icon

Neges i ‘gadw draw’ wrth gronfeydd wrth i’r tywydd boethi


24 Ebrill 2020

  • Mae Dŵr Cymru wedi cau ei holl ganolfannau ymwelwyr a’i safleoedd cronfa ddŵr sy’n cael eu staffio er mwyn helpu i drechu’r coronafeirws.
  • Mae'r cwmni'n rhybuddio pobl i gadw draw wrth gronfeydd dŵr wrth i'r tywydd boethi
  • Mae llu o beryglon ynghlwm wrth nofio mewn cronfeydd dŵr - gan gynnwys cyfarpar cudd, dŵr oer iawn, a thebygolrwydd is o gael eich achub

Mae Dŵr Cymru’n rhybuddio pobl i gadw draw wrth ei gronfeydd dŵr yn rhan o'r ymdrech i drechu'r coronafeirws wrth i'r wlad baratoi am benwythnos o dywydd braf.

Mae'r cwmni nid-er-elw wedi gofyn i'r cyhoedd gadw draw wrth ei ganolfannau ymwelwyr a safleoedd ei gronfeydd dŵr, sydd wedi bod ar gau ers nifer o wythnosau eisoes yn rhan o'r ymateb i Covid-19.

Ond mae'n gofyn o'r newydd i bobl sy'n ystyried mynd i nofio ymuno â gweddill y gymuned a chadw draw wrth y cronfeydd - gan rybuddio bod peryglon difrifol ynghlwm wrth nofio, hyd yn oed ar y diwrnodau mwyaf poeth.

Dywedodd fod rhai pobl wedi ceisio mynd i nofio ar safleoedd rhai o'i gronfeydd dŵr yn ystod y tywydd braf a welsom yn gynharach yn y mis, ond eu bod yn peryglu eu bywydau trwy wneud hynny.

Dyna rai o beryglon nofio mewn cronfeydd:

  • Mae offer awtomatig o dan wyneb y dŵr ac mae’n gallu dechrau gweithio heb rybudd weithiau
  • Mae'r dŵr yn oer iawn ac yn ddwfn iawn, ac mae hyd yn oed nofwyr cryf yn gallu mynd i drafferthion
  • Mae'r rhan fwyaf o’r cronfeydd mewn lleoliadau anghysbell, sy'n golygu nad oes gwasanaeth ffôn poced, neu fod y gwasanaeth yn wan, mae hyn yn effeithio'n ddifrifol ar y tebygolrwydd o gael eich achub

Mae Dŵr Cymru'n cynnal ymgyrch Un Anadl Olaf bob blwyddyn, sy'n cynnwys fideo sy'n yn rhoi darlun cignoeth o ddau berson ifanc yn boddi ar ôl mynd i nofio mewn cronfa ddŵr ar ddiwrnod braf o haf – ac effaith hynny ar eu teuluoedd a'u ffrindiau wedyn.

Dywedodd Prif Weithredwr Dŵr Cymru, Peter Perry, said: "Er bod cronfeydd dŵr yn edrych fel llefydd da i oeri mewn tywydd braf, maen nhw'n llawn peryglon cudd, gyda dŵr rhewllyd, peiriannau cudd a cherrynt cryf sy'n gallu tynnu hyd yn oed y nofwyr cryfaf o dan y dŵr.

"Ar adeg fel hon pan fo'r wlad yn tynnu at ei gilydd i atal lledaeniad Covid-19 trwy aros adref a chadw'n ddiogel, rydyn ni am bwysleisio bod angen i bobl gadw draw wrth ein cronfeydd dŵr, ac nad yw nofio ynddyn nhw'n opsiwn wrth i'r tymheredd godi.

"Ry'n ni'n gwybod bod y tywydd yn boeth iawn ar hyn o bryd, a bod mynd i nofio'n demtasiwn - ond alla'i ddim â phwysleisio digon fod pobl yn peryglu eu bywydau eu hunain, a bywydau unrhyw un a allai ddod i'w cynorthwyo os byddant yn mynd i drafferthion mewn cronfa ddŵr."