Mwyafrif o’r cyhoedd o blaid gwaharddiad ar weips 'plastig'


25 Medi 2020

  • Cyfanswm o 84% o blaid gwahardd cynhyrchu weips sy'n cynnwys plastig
  • Byddai gwaharddiad yn lleihau nifer y tagfeydd mewn pibellau o draean, ac yn arbed rhyw £3 miliwn ar gostau eu clirio
  • Mae'r cwmni'n galw am waharddiad er mwyn helpu i atal y miloedd o dagfeydd mewn pibellau sy’n cael eu hachosi gan weips bob blwyddyn

Mae Dŵr Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys weips yn ei gynigion i wahardd plastigion untro, ac mae’r cyhoedd yn gadarn o blaid y cynnig yn ôl gwaith ymchwil newydd.

Yn ôl arolwg a gomisiynwyd gan y cwmni dŵr nid-er-elw, byddai pedwar o bob pump o bobl yn cefnogi gwaharddiad ar weips sy'n cynnwys plastig, sef prif achos tagfeydd trychinebus mewn carthffosydd sy'n gallu gadael cartrefi dan ddŵr budr.

Roedd 94% o'r ymatebwyr yn credu y dylai cwmnïau fod yn cynhyrchu weips heb unrhyw blastig ynddynt.

Daw'r canfyddiadau hyn wrth i Lywodraeth Cymru lansio ymgynghoriad ar y posibilrwydd o wahardd plastigion untro. Er eu bod wedi eu dynodi fel ystyriaeth at y dyfodol, nid yw weips wedi cael eu cynnwys yn ffurfiol yng ngham cyntaf y rheoliadau arfaethedig.

Canfu'r arolwg hefyd fod 60% o'r rhai a holwyd yn teimlo y dylen nhw yn bersonol leihau nifer y weips y maen nhw'n eu fflysio i'r tŷ bach, ac roedd mwy na naw o bob 10 o oedolion Cymru (92%) yn cydnabod na ddylai pobl fyth fflysio weips i’r tŷ bach.

Mae weips yn broblem sylweddol i Ddŵr Cymru – gyda'r cwmni'n taclo tua 20,000 o dagfeydd y flwyddyn, ar gost o ryw £5 miliwn, a allai gael ei wario ar wella gwasanaethau neu leihau biliau cwsmeriaid fel arall.

Mae'r cwmni'n amcangyfrif y gallai gwaharddiad helpu i leihau nifer y tagfeydd sy'n cael eu hachosi gan weips o ryw draean, gan arbed tua £3 miliwn ar gost eu taclo.

 

Dywedodd Steve Wilson, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaethau Dŵr Gwastraff:

"Rydyn ni'n gwybod eisoes bod un weip sy’n cynnwys plastig yn gallu blocio carthffos - ac achosi llifogydd enbyd yn eich cymdogaeth, eich cartref a'ch eiddo.

"Rydyn ni'n gwybod bod ein cwsmeriaid yn defnyddio weips yn aml am eu bod nhw'n handi – yn enwedig mewn cartrefi â phlant – ac rydyn ni am i'r weips plastig yma gael eu disodli gan ddeunydd arall sy'n gynaliadwy ac yn fioddiraddadwy. Mae weips sy'n cynnwys plastig yn gallu achosi difrod mawr i gartrefi cwsmeriaid ac i'r amgylchedd sydd mor bwysig i ni.

"Gallai gwahardd defnyddio weips plastig gael effaith aruthrol ar y materion hyn sy'n gallu difrodi bywydau pobl."

Gallwch weld ymgynghoriad Llywodraeth Cymru yma.