Dŵr Cymru'n dechrau ailagor safleoedd ei gronfeydd dŵr yn raddol bach yn sgil cyfyngiadau’r coronafeirws


18 Mehefin 2020

  • Bydd Dŵr Cymru'n dechrau'r broses o ailagor Llyn Brenig, Llandegfedd, a Chwm Elan ddydd Gwener, 19 Mehefin
  • Dim ond rhwng 9am a 5pm pob dydd y caiff ymwelwyr fynd i'r safleoedd
  • Bydd y cronfeydd dŵr yn agored i gerddwyr, beicwyr a physgotwyr o'r lan yn unig
  • Mae'r safleoedd wedi bod ar gau ers mis Mawrth i amddiffyn cwsmeriaid a gweithwyr rhag COVID-19
  • Bydd y Canolfannau Ymwelwyr yn aros ar gau i ymwelwyr nes bod adolygiad pellach

Mae Dŵr Cymru wedi cadarnhau ei fod wedi dechrau ailagor safleoedd ei gronfeydd dŵr mwyaf blaenllaw i ymwelwyr lleol o ddydd Gwener, 19 Mehefin ymlaen, ar ôl iddynt gau oherwydd argyfwng y coronafeirws.

Bydd cronfeydd dŵr Cwm Elan yn y canolbarth, Llandegfedd ger Pont-y-pŵl, a Llyn Brenig yng Nghonwy – sy'n croesawu dros hanner miliwn o ymwelwyr y flwyddyn fel arfer – wedi ailagor i gerddwyr, beicwyr a physgotwyr o'r lan, ond bydd y canolfannau ymwelwyr yn aros ar gau am y tro.

Dyma'r cam cyntaf ym mhroses y cwmni o agor ei rwydwaith o gronfeydd dŵr a llynnoedd yn raddol bach yn sgil y cyfyngiadau ar symud a gyflwynwyd ym mis Mawrth. Bydd meysydd parcio'r prif safleoedd ar gael rhwng 9am a 5pm yn unig, a bydd y safleoedd yn cynnig gwasanaethau cyfyngedig i brynu diodydd. Byddant yn gweithredu system unffordd a rheolau cadw pellter.

Caniateir pysgota â thrwydded yn unig, a bydd y cwmni'n cysylltu â chymdeithasau pysgota i amlinellu sut y bydd y system newydd yn gweithio ar draws yr holl safleoedd sy'n ailagor, gan gynnwys safleoedd llai lle mae cytundebau pysgota mewn grym. Bydd y prif safleoedd i ymwelwyr yn defnyddio systemau bwcio digyffrwdd i drefnu trwyddedau, ond ni chaniateir chwaraeon dŵr na physgota ar y dŵr am resymau iechyd a diogelwch.

Daw hyn wrth i Lywodraeth Cymru symud y wlad i "gyfnod rhybudd coch" ar system goleuadau traffig Llywodraeth Cymru, sy'n golygu y gellir caniatáu rhyw lefel o fynediad cyhyd ag y bo'r cyhoedd yn cadw pellter cymdeithasol ac nad ydynt yn teithio mwy na phum milltir i gyrraedd y safle.

Caeodd Dŵr Cymru ei ganolfannau blaenllaw ganol Mawrth mewn ymdrech i gyfyngu ar gysylltiadau cymdeithasol yn unol â chanllawiau Llywodraethau Cymru a'r DU. Bu Dŵr Cymru'n cefnogi gweithwyr y canolfannau ymwelwyr tra bu'r cyfleusterau ar gau.

Mae'r cwmni'n gofyn i bobl fynd i'w wefan – dwrcymru.com – a dilyn ei sianeli cyfryngau cymdeithasol am y newyddion diweddaraf am y canolfannau unigol. Dywedodd Mark Davies, Pennaeth Gweithrediadau'r Atyniadau Ymwelwyr: "Rydyn ni'n deall pa mor bwysig yw'n llynnoedd a'n cronfeydd dŵr i'r cymunedau lleol a wasanaethwn, felly rydyn ni'n cymryd camau cychwynnol i sicrhau y gallant fwynhau'r safleoedd hyn eto.

“Ond mae gennym gyfrifoldeb i'r cyhoedd ac i'n timau i sicrhau ein bod ni'n cyflawni hyn yn y ffordd fwyaf diogel. Bydd ein prif safleoedd yn agored yn ystod oriau cyfyngedig yn unig, a bydd y canolfannau ymwelwyr yn aros ar gau fel y gallwn leihau'r risg i bawb, a hynny wrth sicrhau y gall pobl gerdded a beicio yn yr ardaloedd hyn eto.

"Byddwn ni'n parhau i gadw llygad ar y sefyllfa, a byddem yn annog ymwelwyr i ddilyn y rheolau ar gadw pellter cymdeithasol er eu diogelwch eu hunain, a diogelwch pobl eraill."