Atyniad yn Llanelli’n diogelu cyllid ar gyfer chwaraeon dŵr


17 Tachwedd 2020

  • Mae Dŵr Cymru, mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Gwledig Llanelli a Chanŵio Cymru, wedi llwyddo i ddiogelu cyllid 'Mynediad at Ddŵr'.
  • Bydd hyn yn galluogi ymwelwyr i fwynhau chwaraeon rhwyfo (canŵio, caiacio, rhwyf-fyrddio, hwylfyrddio) a physgota.
  • Disgwylir i'r safle ddenu 90k+ o ymwelwyr y flwyddyn.

Mae cyhoeddiad diweddar am y bwriad i ddatblygu cronfeydd dŵr Cwm Lliedi yn Sir Gaerfyrddin wedi cael hwb diolch i gadarnhad y bydd y datblygiad yn cael grant 'Mynediad at Ddŵr' gan Lywodraeth Cymru, gwerth £121k, a fydd yn caniatáu i ymwelwyr ddefnyddio cronfa ddŵr Lliedi Isaf ar gyfer chwaraeon rhwyfo a physgota.

Bydd y cyllid yn helpu i wireddu’r cynlluniau i ddod ag amrywiaeth o chwaraeon dŵr i'r gronfa, gan gynnwys rhwyf-fyrddio, canŵio a chaiacio.  Bydd yn hwyluso pysgota o'r lan hefyd trwy greu parthau hamdden.  Mae amrywiaeth o welliannau i'r seilwaith cyfagos ar y gweill hefyd a fydd yn cynnwys golchfa gychod er mwyn sicrhau bioddiogelwch, creu llwybrau a phontŵn er mwyn hwyluso mynediad rhwydd at y dŵr, ac ailwampio'r cyfleusterau tŷ bach.

Ar ôl cwblhau’r datblygiad, disgwylir i Gronfeydd Dŵr Cwm Lliedi ddenu 90k+ o ymwelwyr y flwyddyn i'r safle, yn unol â rheoliadau Covid-19. Mae'r cyllid 'Mynediad at Ddŵr' yn garreg filltir bwysig wrth wireddu'r uchelgeisiau ar gyfer y safle. I ategu'r cais am gyllid, cyflawnwyd arolwg o glybiau canŵio, darparwyr gweithgareddau awyr agored a physgotwyr yn yr ardal a gafodd fod yna alw mawr am fynediad at ddŵr i gyflawni eu gweithgareddau. Yn ôl yr   adborth a gafwyd, mae’r safle’n debygol o ddenu sylw aruthrol gan glybiau a darparwyr diolch i’w leoliad daearyddol. Mae'r cynllun mabwysiadu cymunedol yn golygu bod pobl leol yn cynnig buddsoddi eu hamser ei hunain i ofalu am y perl yma yng nghoron y gymuned, a gofalu amdano at y dyfodol.

Mae'r prosiect yn un delfrydol i helpu i gyflawni gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, sy'n mynnu bod cyrff cyhoeddus yng Nghymru'n meddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau, eu bod yn gweithio'n well gyda phobl, cymunedau a'i gilydd, a’u bod yn atal problemau parhaus fel tlodi, anghydraddoldebau iechyd a'r newid yn yr hinsawdd. Er nad yw Dŵr Cymru'n gorff cyhoeddus, mae'r cwmni wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â Chyngor Gwledig Llanelli, Cyfoeth Naturiol Cymru a Chanŵio Cymru yn ysbryd y ddeddfwriaeth, ac i gynorthwyo adfywiad gwyrdd yng Nghymru.

Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths: “Mae hon yn enghraifft wych o gynllun sy’n cynyddu cyfleoedd ar gyfer hamdden awyr agored ac yn darparu mynediad diogel i ddŵr i bobl o bob gallu. Bydd datblygu'r cronfeydd hyn yn galluogi pobl leol ac ymwelwyr i gael mwy o fwynhad o'r fan harddwch hon yn unol â chanllawiau covid19 a helpu i gefnogi adferiad gwyrdd yng Nghymru. Rwy'n gobeithio y bydd llwyddiant y prosiect hwn yn annog datblygu llawer mwy o gyfleoedd tebyg dros y blynyddoedd i ddod. "

Dywedodd Prif Weithredwr Dŵr Cymru, Peter Perry, “Profwyd bod yna gysylltiadau cadarnhaol rhwng mynediad at le glas ac iechyd a lles. Mae Cwm Lliedi'n ased pwysig i'r gymuned leol ac ymwelwyr fel ei gilydd. Mae'r cyllid yma'n garreg filltir bwysig yn ein hymdrechion i adfer yr ased cymunedol pwysig yma i'w hen ogoniant a'i wneud yn fwy hygyrch er iechyd a lles pawb.”

Ychwanegodd Jen Browning, Prif Weithredwr Canŵio Cymru,  sef corff llywodraethu cenedlaethol chwaraeon rhwyfo yng Nghymru, “Dros yr wyth mis diwethaf, rydyn ni wedi gweld galw digynsail am ganŵio, caiacio a rhwyf-fyrddio, ond mae nifer gyfyngedig y lleoliadau sy'n addas ar gyfer rhwyfwyr newydd yng Nghymru wedi bod yn rhwystr mawr erioed. Bydd y cyllid yma'n sicrhau y gall Cwm Lliedi chwarae rôl hynod o bwysig wrth ei gwneud yn bosibl i bobl o bob lefel gallu fwynhau'r dŵr, ac i lawer o bobl ddarganfod cariad at chwaraeon rhwyfo a meithrin cysylltiad dwys â'r awyr agored.”

Dywedodd Dave MacCallum, Ymgynghorydd Arbenigol ar Fynediad at Ddŵr a Hamdden gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, a Chadeirydd Is-grŵp Mynediad at Ddŵr NAFW: “Rydyn ni wrth ein boddau ein bod wedi gallu bod yn rhan o'r ymdrech gydweithredol bwysig yma a fydd yn agor y dyfroedd newydd yma ar gyfer hamdden gyfrifol a chynhwysol yn y de-orllewin. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymrwymo i wneud popeth y gallwn ni i alluogi mwy o bobl i fwynhau cefn gwlad Cymru mewn ffordd fwy hwylus a chyfrifol – ac elwa ar y manteision o ran iechyd a lles sy'n gallu dod yn sgil treulio amser yn yr awyr agored. Trwy sefydlu cyfleusterau penodol er mwyn galluogi pobl anabl i fanteisio ar chwaraeon rhwyfo, a gorsaf Bioddiogelwch sy'n hyrwyddo ac yn hwyluso'r fenter Gwirio, Glanhau, Sychu, mae prosiect cronfa ddŵr Cwm Lliedi'n torri tir newydd o ran mynediad at ddyfroedd llonydd yng Nghymru fel y gall cenedlaethau heddiw a'r dyfodol barhau i fwynhau eu hymweliadau â rhai o dirweddau mwyaf bendigedig Cymru.”

Dywedodd Arweinydd Cyngor Gwledig Llanelli, y Cyng. Tegwen Devichand “Mae'r cyllid yn newyddion hyfryd i'r gymuned a bydd yn galluogi'r cyngor i fynd ati o ddifri i ddatblygu ei gynlluniau ar gyfer y gronfa. Nawr gall llawer o'r gwaith cychwynnol sy'n gysylltiedig â cham cyntaf y gwelliannau o ran seilwaith gychwyn, ac yn wir, mae rhywfaint o'r gwaith eisoes ar droed. Bwriedir i'r gwaith addasu ffisegol i adfer y bloc tai bach, y maes parcio i ymwelwyr a mynediad at y dŵr er mwyn hwyluso'r chwaraeon rhwyfo a physgota gael ei gwblhau erbyn Mawrth 2021, ond nid hynny fydd ei diwedd hi. At hynny, mae ymateb y gymuned i'n cynlluniau ar gyfer y gronfa wedi bod yn anhygoel; mae'r cyngor wedi cael llawer o gefnogaeth ar lefel leol a rhanbarthol ac mae nifer o grwpiau ac unigolion sydd â diddordeb wedi cynnig ein helpu ni i gyflawni ein cynlluniau ac wedi cynnig eu gwasanaethau. Rydyn ni'n gwerthfawrogi hyn yn fawr ac mae'n argoeli'n dda ar gyfer y dyfodol.”